Yn Ôl Ioan 19:1-42
19 Yna dyma Peilat yn cymryd Iesu ac yn ei chwipio.
2 A gwnaeth y milwyr blethu coron o ddrain a’i gosod ar ei ben a rhoi mantell borffor amdano,
3 ac roedden nhw’n dod ato dro ar ôl tro ac yn dweud: “Cyfarchion,* Frenin yr Iddewon!” Roedden nhw hefyd yn parhau i’w slapio yn ei wyneb.
4 Aeth Peilat allan eto a dweud wrthyn nhw: “Edrychwch! Rydw i’n dod ag ef allan atoch chi er mwyn ichi wybod nad ydw i’n gweld unrhyw fai arno.”
5 Felly daeth Iesu allan, yn gwisgo’r goron o ddrain a’r fantell borffor. A dywedodd Peilat wrthyn nhw: “Edrychwch! Y dyn!”
6 Fodd bynnag, pan welodd y prif offeiriaid a’r swyddogion ef, gwaeddon nhw: “Lladda ef ar y stanc! Lladda ef ar y stanc!”* Dywedodd Peilat wrthyn nhw: “Cymerwch ef eich hunain a dienyddiwch ef,* oherwydd dydw i ddim yn gweld unrhyw fai arno.”
7 Atebodd yr Iddewon ef: “Mae gynnon ni gyfraith, ac yn ôl y gyfraith mae’n rhaid iddo farw, oherwydd ei fod wedi ei wneud ei hun yn fab Duw.”
8 Pan glywodd Peilat beth roedden nhw’n ei ddweud, fe ddaeth yn fwy ofnus byth,
9 ac fe aeth i mewn i balas y llywodraethwr unwaith eto a dweud wrth Iesu: “O le rwyt ti’n dod?” Ond ni wnaeth Iesu ei ateb.
10 Felly dywedodd Peilat wrtho: “Wyt ti’n gwrthod siarad â mi? Onid wyt ti’n gwybod bod gen i awdurdod i dy ryddhau di a bod gen i awdurdod i dy ddienyddio di?”*
11 Atebodd Iesu: “Fyddai gen ti ddim awdurdod drosto i o gwbl oni bai ei fod wedi cael ei roi iti oddi uchod. Dyma pam mae’r dyn a wnaeth fy nhrosglwyddo i iti yn fwy euog o bechod na ti.”
12 Am y rheswm hwn parhaodd Peilat i geisio ei ryddhau, ond gwaeddodd yr Iddewon: “Os wyt ti’n rhyddhau’r dyn hwn, dwyt ti ddim yn ffrind i Gesar. Mae pob un sy’n ei wneud ei hun yn frenin yn siarad yn erbyn* Cesar.”
13 Yna, ar ôl clywed y geiriau hyn, daeth Peilat â Iesu allan, ac eisteddodd ar sedd farnu mewn lle o’r enw Y Palmant Cerrig, ond yn Hebraeg, Gabbatha.
14 Nawr dydd Paratoad y Pasg oedd hi; roedd hi tua’r chweched awr.* A dywedodd ef wrth yr Iddewon: “Edrychwch! Eich brenin!”
15 Fodd bynnag, gwnaethon nhw weiddi: “I ffwrdd ag ef! I ffwrdd ag ef! Lladda ef ar y stanc!”* Dywedodd Peilat wrthyn nhw: “A ddylwn i ddienyddio eich brenin chi?” Atebodd y prif offeiriaid: “Does gynnon ni ddim brenin ond Cesar.”
16 Yna dyma’n ei drosglwyddo ef iddyn nhw i gael ei ddienyddio ar y stanc.
Felly gwnaethon nhw gymryd Iesu i ffwrdd.
17 Gan gario’r stanc dienyddio* ei hun, fe aeth allan i’r lle sy’n cael ei alw Lle’r Benglog, Golgotha yn Hebraeg.
18 Yno fe wnaethon nhw ei hoelio ar y stanc ynghyd â dau ddyn arall, un ar bob ochr, ac Iesu yn y canol.
19 Hefyd ysgrifennodd Peilat deitl a’i roi ar y stanc dienyddio.* Roedd yn dweud: “Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon.”
20 Gwnaeth llawer o’r Iddewon ddarllen y teitl hwn, gan fod y fan lle cafodd Iesu ei hoelio ar y stanc yn agos i’r ddinas, ac roedd wedi ei ysgrifennu yn Hebraeg, Lladin, a Groeg.
21 Fodd bynnag, dywedodd y prif offeiriaid a’r Iddewon wrth Peilat: “Paid ag ysgrifennu, ‘Brenin yr Iddewon,’ ond yn hytrach ei fod wedi dweud, ‘Fi yw Brenin yr Iddewon.’”
22 Atebodd Peilat: “Yr hyn rydw i wedi ei ysgrifennu, rydw i wedi ei ysgrifennu.”
23 Nawr ar ôl i’r milwyr hoelio Iesu ar y stanc, cymeron nhw ei ddillad a’u rhannu nhw’n bedair rhan, un i bob milwr, a chymeron nhw’r crys hefyd. Ond doedd gan y crys ddim gwnïad, gan ei fod wedi ei weu o’r top i’r gwaelod yn un darn.
24 Felly dywedon nhw wrth ei gilydd: “Ddylen ni ddim ei rwygo, ond gadewch inni fwrw coelbren amdano i benderfynu pwy fydd yn ei gael.” Digwyddodd hyn er mwyn cyflawni’r ysgrythur: “Gwnaethon nhw rannu fy nillad ymhlith ei gilydd, a gwnaethon nhw fwrw coelbren am fy nillad.” Dyna’n union a wnaeth y milwyr.
25 Fodd bynnag, wrth ymyl stanc dienyddio* Iesu, roedd ei fam yn sefyll yno gyda chwaer ei fam; Mair gwraig Clopas a Mair Magdalen.
26 Felly pan welodd Iesu ei fam a’r disgybl roedd ef yn ei garu yn sefyll yn agos iddi, dywedodd wrth ei fam: “Ddynes,* edrycha! Dy fab!”
27 Nesaf, fe ddywedodd wrth y disgybl: “Edrycha! Dy fam!” Ac o’r awr honno ymlaen, cymerodd y disgybl hi i mewn i’w gartref ei hun.
28 Ar ôl hyn, pan oedd Iesu’n gwybod bod pob peth wedi cael ei gyflawni erbyn hyn, er mwyn cyflawni’r ysgrythur fe ddywedodd: “Mae syched arna i.”
29 Roedd ’na jar yno yn llawn o win sur. Felly fe roddon nhw sbwng wedi ei lenwi â’r gwin sur ar goesyn isop* a’i godi at ei geg.
30 Ar ôl iddo dderbyn y gwin sur, dywedodd Iesu: “Mae popeth wedi cael ei gwblhau!” ac yn plygu ei ben, dyma’n stopio anadlu.*
31 Gan mai dydd y Paratoad oedd hi, fel na fyddai’r cyrff yn aros ar y stanciau dienyddio yn ystod y Saboth (oherwydd roedd y dydd Saboth hwnnw’n un mawr), gofynnodd yr Iddewon i Peilat am gael torri’r coesau ac i’r cyrff gael eu cymryd i ffwrdd.
32 Felly daeth y milwyr a thorri coesau’r dyn cyntaf a hefyd coesau’r dyn arall a oedd ar y stanc wrth ei ochr.
33 Ond pan ddaethon nhw at Iesu, fe welson nhw ei fod wedi marw’n barod, felly ni wnaethon nhw dorri ei goesau.
34 Ond dyma un o’r milwyr yn trywanu ei ochr gyda gwaywffon, ac ar unwaith daeth gwaed a dŵr allan.
35 Ac mae’r un a welodd y peth wedi rhoi’r dystiolaeth hon, ac mae ei dystiolaeth yn wir, ac mae’n gwybod bod yr hyn mae’n ei ddweud yn wir, er mwyn i chithau hefyd gredu.
36 Yn wir, digwyddodd y pethau hyn er mwyn i’r ysgrythur gael ei chyflawni: “Ni fydd yr un o’i esgyrn yn cael ei dorri.”
37 A hefyd, mae ysgrythur arall yn dweud: “Byddan nhw’n edrych ar yr un y gwnaethon nhw ei drywanu.”
38 Nawr ar ôl y pethau hyn, dyma Joseff o Arimathea, a oedd yn ddisgybl i Iesu ond yn cadw’r peth yn gyfrinachol oherwydd ei fod yn ofni’r Iddewon, yn gofyn i Peilat a oedd ef yn gallu cymryd corff Iesu i ffwrdd, a rhoddodd Peilat ganiatâd iddo. Felly fe ddaeth a chymryd y corff i ffwrdd.
39 Gwnaeth Nicodemus, y dyn a ddaeth ato yn y nos y tro cyntaf, ddod hefyd, gan gymryd cymysgedd* o fyrr ac aloes yn pwyso tua chan pwys.*
40 Felly cymeron nhw gorff Iesu a’i lapio mewn cadachau o liain ynghyd â’r sbeisys, yn ôl arferion claddu’r Iddewon.
41 Digwydd bod, roedd gardd yn y fan lle cafodd ei ddienyddio,* ac yn yr ardd roedd beddrod* newydd nad oedd neb wedi cael ei roi i orwedd ynddo o’r blaen.
42 Oherwydd ei bod hi’n ddydd y Paratoad i’r Iddewon ac roedd y beddrod yn agos, fe wnaethon nhw roi Iesu i orwedd yno.
Troednodiadau
^ Neu “Henffych.”
^ Neu “Dienyddia ef ar y stanc! Dienyddia ef ar y stanc!”
^ Neu “dienyddiwch ef ar y stanc.”
^ Neu “dy ddienyddio di ar y stanc?”
^ Neu “yn gwrthwynebu.”
^ Hynny yw, tua hanner dydd.
^ Neu “Dienyddia ef ar y stanc!”
^ Neu “Fenyw.”
^ Neu “dyma’n rhoi i fyny ei ysbryd; dyma’n marw.”
^ Neu efallai, “rholyn.”
^ Hynny yw, y pwys Rhufeinig.
^ Neu “ei ddienyddio ar y stanc.”
^ Neu “beddrod coffa.”