Yn Ôl Ioan 2:1-25

  • Priodas yng Nghana; dŵr yn win (1-12)

  • Iesu’n glanhau’r deml (13-22)

  • Iesu’n gwybod beth sydd yng nghalon pobl (23-25)

2  Ac ar y trydydd dydd roedd ’na wledd briodas yng Nghana Galilea, ac roedd mam Iesu yno.  Cafodd Iesu a’i ddisgyblion hefyd eu gwahodd i’r wledd briodas.  Pan oedd y gwin ar fin rhedeg allan, dywedodd mam Iesu wrtho: “Does ganddyn nhw ddim gwin.”  Ond dywedodd Iesu wrthi: “Ddynes,* beth sydd gan hynny i’w wneud â mi a ti?* Dydy fy awr heb ddod eto.”  Dywedodd ei fam wrth y rhai oedd yn gweini: “Gwnewch beth bynnag mae ef yn gofyn ichi ei wneud.”  Nawr roedd yno chwech o lestri carreg i ddal dŵr wedi eu gosod yn ôl rheolau’r Iddewon er mwyn iddyn nhw fedru golchi eu dwylo cyn bwyta, a phob un yn medru dal dau neu dri mesur hylifol.*  Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Llanwch y llestri â dŵr.” Felly dyma nhw’n llenwi’r llestri i’r top.  Yna dywedodd ef wrthyn nhw: “Nawr tynnwch ychydig allan ac ewch ag ef i lywydd y wledd.” Felly fe wnaethon nhw hynny.  Pan wnaeth llywydd y wledd flasu’r dŵr a oedd erbyn hyn wedi cael ei droi’n win, heb wybod o le roedd wedi dod (er bod y gweision a oedd wedi tynnu’r dŵr allan yn gwybod), galwodd llywydd y wledd y priodfab ato 10  a dywedodd wrtho: “Mae pawb arall yn rhoi’r gwin da yn gyntaf, ac ar ôl i’r bobl feddwi, y gwin salach. Rwyt ti wedi cadw’r gwin da hyd y foment hon.” 11  Fe wnaeth Iesu hyn yng Nghana Galilea, y cyntaf o’i arwyddion, a gwnaeth ef ei ogoniant yn amlwg, a rhoddodd ei ddisgyblion eu ffydd ynddo. 12  Ar ôl hyn aeth ef a’i fam a’i frodyr a’i ddisgyblion i lawr i Gapernaum, ond wnaethon nhw ddim aros yno am lawer o ddyddiau. 13  Nawr roedd Pasg yr Iddewon yn agos, ac aeth Iesu i fyny i Jerwsalem. 14  Fe welodd yn y deml y rhai oedd yn gwerthu gwartheg a defaid a cholomennod, a’r rhai oedd yn cyfnewid arian yn eistedd. 15  Felly ar ôl gwneud chwip o raffau, gyrrodd y defaid a’r gwartheg allan o’r deml, ynghyd â’r rhai oedd yn eu gwerthu nhw, a thywalltodd* allan geiniogau’r rhai a oedd yn cyfnewid arian a throi drosodd eu byrddau. 16  Ac fe ddywedodd wrth y rhai a oedd yn gwerthu’r colomennod: “Ewch â’r pethau hyn o ’ma! Stopiwch wneud tŷ fy Nhad yn dŷ masnach!”* 17  Cofiodd ei ddisgyblion ei bod yn ysgrifenedig: “Bydd sêl am dy dŷ di yn llosgi yn fy nghalon i.” 18  Felly, atebodd yr Iddewon a dweud wrtho: “Pa arwydd y gelli di ei ddangos inni, gan dy fod ti’n gwneud y pethau hyn?” 19  Atebodd Iesu: “Dinistriwch y deml hon, ac mewn tri diwrnod y bydda i’n ei chodi.” 20  Yna dywedodd yr Iddewon: “Cafodd y deml hon ei hadeiladu mewn 46 o flynyddoedd, ac a fyddi di’n ei chodi hi mewn tri diwrnod?” 21  Ond siarad roedd ef am deml ei gorff. 22  Felly, pan gafodd ei godi o’r meirw, fe gofiodd ei ddisgyblion ei fod o bryd i’w gilydd yn dweud hyn, a chredon nhw’r ysgrythur a’r hyn roedd Iesu wedi ei ddweud. 23  Fodd bynnag, pan oedd yn Jerwsalem ar gyfer gŵyl y Pasg, rhoddodd llawer o bobl eu ffydd yn ei enw pan welson nhw’r arwyddion roedd ef yn eu gwneud. 24  Ond doedd Iesu ddim yn eu trystio nhw’n llwyr oherwydd ei fod yn eu hadnabod nhw i gyd 25  ac oherwydd doedd dim angen arno i neb egluro unrhyw beth am bobl* iddo, oherwydd ei fod ef ei hun yn gwybod beth sydd yng nghalon pobl.*

Troednodiadau

Neu “Fenyw.”
Llyth., “Beth i fi ac i ti, ddynes?” Idiom ydy hon sy’n cyfleu gwrthwynebiad. Dydy defnyddio’r gair “dynes” ddim yn dangos diffyg parch.
Mae’n debyg mai’r bath oedd y mesur hylifol a oedd yn gyfartal i 22 L (4.84 gal).
Neu “ac arllwysodd.”
Neu “yn farchnad; yn fusnes.”
Neu “am ddyn.”
Neu “dyn.”