Jona 1:1-17

  • Jona yn ceisio rhedeg i ffwrdd oddi wrth Jehofa (1-3)

  • Jehofa yn achosi storm wyllt (4-6)

  • Jona ar fai am yr helynt (7-13)

  • Jona yn cael ei daflu i’r môr stormus (14-16)

  • Pysgodyn anferth yn llyncu Jona (17)

1  Daeth neges Jehofa* at Jona* fab Amittai, yn dweud: 2  “Cod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a chyhoeddi fy mod i am ei chosbi, oherwydd mae ei drygioni wedi dod i fy sylw.” 3  Ond cododd Jona a rhedeg i ffwrdd oddi wrth Jehofa i Tarsis; aeth i lawr i Jopa a chael hyd i long a oedd yn mynd i Tarsis. Felly talodd am ei daith a mynd gyda nhw, i ffwrdd oddi wrth Jehofa. 4  Yna dyma Jehofa yn codi gwynt cryf ar y môr, gan achosi storm a oedd mor wyllt nes bod y llong ar fin cael ei malu’n ddarnau. 5  Roedd gan y morwyr gymaint o ofn nes i bob un ddechrau galw ar ei dduw am help. A dechreuon nhw daflu cargo ac offer y llong i’r môr, er mwyn gwneud y llong yn ysgafnach. Ond roedd Jona wedi mynd i lawr i’r rhan fewnol o’r llong, ac wedi gorwedd i lawr yno a chysgu’n sownd. 6  Daeth capten y llong ato a dweud wrtho: “Pam rwyt ti’n cysgu? Cod, a galwa ar dy dduw! Efallai bydd y gwir Dduw yn teimlo piti droston ni, a fyddwn ni ddim yn boddi.” 7  Yna dyma’r morwyr yn dweud wrth ei gilydd: “Dewch inni daflu coelbren i weld pwy sydd ar fai am y trychineb hwn.” Felly dyma nhw’n taflu coelbren, a syrthiodd y coelbren i Jona. 8  Dywedon nhw wrtho: “Dyweda, ai ti sydd ar fai am y trychineb hwn? Beth ydy dy waith di, ac o le rwyt ti’n dod? O ba wlad, a phwy ydy dy bobl di?” 9  Atebodd: “Hebread ydw i, ac rydw i’n addoli* Jehofa, Duw y nefoedd, yr Un a wnaeth greu’r môr a’r tir.” 10  Ar ôl clywed hynny, roedd y dynion wedi dychryn yn fwy byth, a dyma nhw’n gofyn iddo: “Beth rwyt ti wedi ei wneud?” (Roedd y dynion yn gwybod ei fod yn rhedeg i ffwrdd oddi wrth Jehofa, am ei fod wedi dweud wrthyn nhw.) 11  Felly dywedon nhw wrtho: “Beth dylen ni ei wneud iti er mwyn gwneud i’r môr dawelu?” Oherwydd roedd y môr yn mynd yn fwy ac yn fwy stormus. 12  Atebodd: “Taflwch fi i’r môr, a bydd y môr yn tawelu; oherwydd rydw i’n gwybod mai fi sy’n gyfrifol am y storm ofnadwy hon sydd wedi eich taro chi.” 13  Rhwyfodd y dynion nerth eu breichiau i ddod â’r llong yn ôl i’r tir, ond doedden nhw ddim yn gallu, oherwydd roedd y storm ar y môr wedi mynd o ddrwg i waeth. 14  Yna, dyma nhw’n galw ar Jehofa ac yn dweud: “O plîs Jehofa, paid â gadael inni farw oherwydd y dyn hwn! Paid â’n dal ni’n gyfrifol am ladd rhywun dieuog, oherwydd mae hyn i gyd yn unol â dy ewyllys di, O Jehofa.” 15  Yna dyma nhw’n gafael ar Jona ac yn ei daflu i’r môr; a dyma’r môr stormus yn tawelu. 16  Roedd y dynion yn llawn ofn Jehofa, a dyma nhw’n offrymu aberth i Jehofa ac yn addo ei wasanaethu. 17  Yna anfonodd Jehofa bysgodyn enfawr i lyncu Jona, felly roedd Jona ym mol y pysgodyn am dri diwrnod a thair nos.

Troednodiadau

Enw personol unigryw Duw sy’n cael ei gynrychioli gan y pedair cytsain Hebraeg יהוה (YHWH). Mae’n ymddangos bron 7,000 o weithiau yn yr Ysgrythurau Hebraeg.
Sy’n golygu “Colomen.”
Neu “ofni.”