Jona 3:1-10
3 Yna daeth gair Jehofa at Jona am yr ail waith, gan ddweud:
2 “Cod, dos i Ninefe, y ddinas fawr, a chyhoedda’r neges rydw i’n ei rhoi iti.”
3 Felly gwnaeth Jona ufuddhau i orchymyn Jehofa a mynd i Ninefe. Nawr roedd Ninefe yn ddinas fawr iawn—roedd yn cymryd tri diwrnod i gerdded o’i chwmpas.*
4 Yna aeth Jona i mewn i’r ddinas, a cherddodd am ddiwrnod gan gyhoeddi:* “Mewn dim ond 40 diwrnod, bydd Ninefe yn cael ei dinistrio.”
5 A dyma ddynion Ninefe yn rhoi ffydd yn Nuw, a gwnaethon nhw alw ar bawb i ymprydio ac i wisgo sachliain, pob un ohonyn nhw, o’r mwyaf i’r lleiaf.
6 Unwaith i’r neges gyrraedd brenin Ninefe, cododd oddi ar ei orsedd a thynnu ei ddilledyn brenhinol a gwisgo sachliain, ac eisteddodd yn y lludw.
7 Ar ben hynny, cyhoeddodd drwy Ninefe,“Ar orchymyn y brenin a’i swyddogion: Ni ddylai’r un dyn nac anifail fwyta unrhyw beth o gwbl. Ddylen nhw ddim bwyta unrhyw fwyd, nac yfed unrhyw ddŵr.
8 Mae’n rhaid iddyn nhw i gyd wisgo sachliain, pob dyn ac anifail; ac erfyn ar Dduw a chefnu ar eu ffyrdd drygionus a threisgar.
9 Pwy a ŵyr? Efallai bydd y gwir Dduw yn ailystyried,* ac yn troi yn ôl o’i ddicter, fel na fyddwn ni’n marw.”
10 Pan welodd y gwir Dduw beth wnaethon nhw, sut roedden nhw wedi cefnu ar eu ffyrdd drygionus, newidiodd ei feddwl ac ni ddaeth â’r trychineb arnyn nhw.
Troednodiadau
^ Neu “i gerdded drwyddi.”
^ Neu efallai, “a cherddodd am ddiwrnod ac yna cyhoeddodd:”
^ Neu “difaru.”