Jona 4:1-11
4 Ond doedd hyn ddim yn plesio Jona o gwbl, a gwylltiodd yn lân.
2 Felly gweddïodd ar Jehofa: “Pan oeddwn i yn fy ngwlad fy hun, O Jehofa, roeddwn i’n gwybod mai dyma’n union beth fyddai’n digwydd. Dyna pam gwnes i geisio ffoi i Tarsis yn y lle cyntaf; roeddwn i’n gwybod dy fod ti’n Dduw trugarog a thosturiol, yn araf i ddigio, yn llawn cariad ffyddlon, ac yn un sydd ddim yn mwynhau dod â thrychineb.
3 Nawr, O Jehofa, plîs cymera fy mywyd,* oherwydd byddai’n well gen i farw na byw.”
4 Gofynnodd Jehofa: “Ydy hi’n iawn iti fod mor ddig?”
5 Yna aeth Jona allan o’r ddinas ac eistedd i lawr i’r dwyrain ohoni. Gwnaeth gysgod iddo’i hun yno ac eistedd oddi tano i weld beth fyddai’n digwydd i’r ddinas.
6 Yna achosodd Jehofa Dduw i blanhigyn* dyfu uwchben Jona, er mwyn cysgodi ei ben a chodi ei galon. Ac roedd y planhigyn yn plesio Jona yn fawr.
7 Ond wrth iddi wawrio y diwrnod wedyn, dyma’r gwir Dduw yn anfon mwydyn,* a gwnaeth hwnnw ddifetha’r planhigyn gan achosi iddo wywo.
8 Pan ddechreuodd yr haul dywynnu, anfonodd Duw hefyd wynt poeth o’r dwyrain, ac roedd yr haul yn taro’n gryf ar ben Jona nes iddo ddechrau teimlo’n benysgafn. Parhaodd i ofyn am gael marw, ac roedd yn dweud ac yn dweud, “Byddai’n well gen i farw na byw.”
9 Gofynnodd Duw i Jona: “Ydy hi’n iawn iti fod mor ddig oherwydd y planhigyn?”
Atebodd Jona: “Mae gen i hawl i fod yn ddig, mor ddig fy mod i eisiau marw.”
10 Ond dywedodd Jehofa: “Roeddet ti’n teimlo trueni dros y planhigyn er dy fod ti heb ei blannu na gwneud iddo dyfu; tyfodd mewn un noson, a gwywodd mewn un noson.
11 Oni ddylwn innau hefyd deimlo trueni dros Ninefe y ddinas fawr, lle mae ’na dros 120,000 o ddynion sydd ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng da a drwg, yn ogystal â’u holl anifeiliaid?”
Troednodiadau
^ Neu “enaid.”
^ Neu “cicaion,” planhigyn dringol sy’n cynhyrchu gowrdiau.
^ Neu “pryf genwair.”