Josua 10:1-43

  • Israel yn amddiffyn Gibeon (1-7)

  • Jehofa yn brwydro dros Israel (8-15)

    • Cenllysg yn dod ar y gelynion sy’n ffoi (11)

    • Yr haul yn sefyll yn llonydd (12-14)

  • Y pum brenin sy’n ymosod yn cael eu lladd (16-28)

  • Dinasoedd y de yn cael eu cipio (29-43)

10  Cyn gynted ag y clywodd Adonisedec brenin Jerwsalem fod Josua wedi cipio Ai, ac wedi ei dinistrio’n llwyr, gan wneud i Ai a’i brenin yn union fel roedd wedi gwneud i Jericho a’i brenin, a sut roedd pobl Gibeon wedi gwneud heddwch ag Israel, ac wedi aros yn eu plith,  cododd ofn mawr arno, oherwydd roedd Gibeon yn ddinas fawr, fel un o’r dinasoedd brenhinol. Roedd hi’n fwy nac Ai, ac roedd ei holl ddynion yn filwyr cryf.  Felly anfonodd Adonisedec, brenin Jerwsalem, y neges hon at Hoham brenin Hebron, Piram brenin Jarmuth, Jaffia brenin Lachis, a Debir brenin Eglon:  “Dewch i fy helpu, a dewch inni ymosod ar Gibeon, oherwydd mae ei phobl wedi gwneud heddwch â Josua a’r Israeliaid.”  Gyda hynny, daeth pum brenin yr Amoriaid—brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon—at ei gilydd gyda’u byddinoedd, a dyma nhw’n martsio* ymlaen ac yn amgylchynu Gibeon i frwydro yn ei herbyn.  Yna, anfonodd dynion Gibeon neges at Josua yng ngwersyll Gilgal: “Paid â chefnu ar* dy weision. Tyrd ar unwaith! Achuba ni a helpa ni! Mae holl frenhinoedd yr Amoriaid o’r ardal fynyddig wedi casglu yn ein herbyn ni.”  Felly aeth Josua i fyny o Gilgal gyda’r fyddin gyfan, gan gynnwys y milwyr gorau.  Yna dywedodd Jehofa wrth Josua: “Paid â’u hofni nhw, oherwydd rydw i wedi eu rhoi nhw yn dy ddwylo di. Fydd dim un ohonyn nhw yn gallu sefyll yn dy erbyn di.”  Ymosododd Josua arnyn nhw yn hollol annisgwyl ar ôl martsio drwy’r nos o Gilgal. 10  Dyma Jehofa yn eu drysu nhw o flaen yr Israeliaid, a gwnaethon nhw ladd nifer enfawr ohonyn nhw yn Gibeon, gan fynd ar eu holau ar hyd y ffordd sy’n mynd i fyny i Beth-horon a’u taro nhw i lawr mor bell ag Aseca a Macceda. 11  Tra oedden nhw’n ffoi oddi wrth yr Israeliaid, ac ar y ffordd sy’n mynd i lawr o Beth-horon, hyrddiodd Jehofa genllysg* anferth arnyn nhw mor bell ag Aseca, a gwnaethon nhw farw. Yn wir, cafodd mwy eu lladd gan y cenllysg* na gan gleddyfau’r Israeliaid. 12  Ar y diwrnod hwnnw pan wnaeth Jehofa drechu’r Amoriaid o flaen llygaid yr Israeliaid, dywedodd Josua wrth Jehofa o flaen Israel: “Haul, saf yn llonydd dros Gibeon,A tithau leuad, dros Ddyffryn* Ajalon!” 13  Felly safodd yr haul yn llonydd ac ni wnaeth y lleuad symud nes i’r genedl allu trechu ei gelynion. Onid ydy hyn wedi ei ysgrifennu yn llyfr Jasar? Safodd yr haul yn llonydd yng nghanol yr awyr heb fachlud am tua diwrnod cyfan. 14  Does ’na ddim diwrnod tebyg i hwnnw wedi bod erioed, naill ai o’i flaen nac ar ei ôl, pan wrandawodd Jehofa ar lais dyn, oherwydd roedd Jehofa yn brwydro dros Israel. 15  Ar ôl hynny, aeth Josua a holl fyddin Israel yn ôl i wersyll Gilgal. 16  Yn y cyfamser, gwnaeth y pum brenin ffoi a chuddio yn yr ogof ym Macceda. 17  Yna dywedodd rhai pobl wrth Josua: “Maen nhw wedi dod o hyd i’r pum brenin yn cuddio yn yr ogof ym Macceda.” 18  Felly dywedodd Josua: “Rholiwch gerrig mawr dros geg yr ogof a phenodwch ddynion i’w gwarchod. 19  Ond ddylai’r gweddill ohonoch chi ddim stopio. Ewch ar ôl eich gelynion ac ymosod arnyn nhw o’r tu cefn. Peidiwch â gadael iddyn nhw fynd i mewn i’w dinasoedd, oherwydd mae Jehofa eich Duw wedi eu rhoi nhw yn eich dwylo.” 20  Ar ôl i Josua a’r Israeliaid orffen lladd nifer enfawr ohonyn nhw, nes iddyn nhw ladd pawb oni bai am rai oedd wedi goroesi a dianc i’r dinasoedd caerog, 21  dychwelodd yr holl filwyr yn saff at Josua yng ngwersyll Macceda. Doedd ’na’r un dyn yn meiddio dweud gair* yn erbyn yr Israeliaid. 22  Yna dywedodd Josua: “Agorwch geg yr ogof a dewch â’r pum brenin allan o’r ogof ata i.” 23  Felly daethon nhw â’r pum brenin hyn allan o’r ogof ato: brenin Jerwsalem, brenin Hebron, brenin Jarmuth, brenin Lachis, a brenin Eglon. 24  Pan ddaethon nhw â’r brenhinoedd hyn at Josua, gwnaeth ef alw holl ddynion Israel a dweud wrth benaethiaid y milwyr oedd wedi mynd gydag ef: “Dewch yma. Rhowch eich traed ar gefn gyddfau’r brenhinoedd hyn.” Felly dyma nhw’n camu ymlaen ac yn rhoi eu traed ar gefn eu gyddfau. 25  Yna dywedodd Josua wrth ei ddynion: “Peidiwch ag ofni na dychryn. Byddwch yn ddewr ac yn gryf, oherwydd dyma bydd Jehofa yn ei wneud i bob gelyn byddwch chi’n brwydro yn ei erbyn.” 26  Yna gwnaeth Josua eu taro nhw a’u lladd nhw a’u hongian nhw ar bum stanc,* a dyna lle buon nhw yn hongian ar y stanciau nes iddi nosi. 27  Wrth iddi fachlud, gorchmynnodd Josua iddyn nhw gael eu cymryd i lawr oddi ar y stanciau a’u taflu i mewn i’r ogof lle roedden nhw wedi cuddio eu hunain. Yna cafodd cerrig mawr eu rhoi wrth geg yr ogof, ac maen nhw yno hyd heddiw. 28  Ar y diwrnod hwnnw, dyma Josua’n cipio Macceda a’i tharo â’r cleddyf. Dinistriodd ei brenin a phawb* oedd ynddi yn llwyr, heb adael i unrhyw un oroesi. Gwnaeth i frenin Macceda yn union fel roedd wedi gwneud i frenin Jericho. 29  Yna aeth Josua a holl fyddin Israel o Macceda i Libna a brwydro yn erbyn Libna. 30  Hefyd rhoddodd Jehofa y ddinas a’i brenin yn nwylo Israel. A gwnaethon nhw ei tharo hi a phawb* ynddi â’r cleddyf, heb adael i unrhyw un oroesi. Felly, dyma nhw’n gwneud yr un peth i’w brenin hi ag y gwnaethon nhw i frenin Jericho. 31  Nesaf aeth Josua a holl fyddin Israel o Libna i Lachis a gwersylla yno a brwydro yn ei herbyn. 32  Rhoddodd Jehofa Lachis yn nwylo Israel, a gwnaethon nhw ei chipio ar yr ail ddiwrnod. Gwnaethon nhw ei tharo hi a phawb* ynddi â’r cleddyf, yn union fel roedden nhw wedi ei wneud i Libna. 33  Yna aeth Horam brenin Geser i fyny i helpu Lachis, ond gwnaeth Josua ei daro ef a’i bobl i lawr nes iddyn nhw i gyd gael eu lladd. 34  Yna aeth Josua gyda holl fyddin Israel o Lachis i Eglon a gwersylla yno a brwydro yn ei herbyn. 35  Y diwrnod hwnnw gwnaethon nhw ei chipio hi a’i tharo â’r cleddyf. Gwnaethon nhw ddinistrio pawb* ynddi yn llwyr ar y diwrnod hwnnw, yn union fel roedden nhw wedi gwneud i Lachis. 36  Yna aeth Josua gyda holl fyddin Israel i fyny o Eglon i Hebron a brwydro yn ei herbyn. 37  Gwnaethon nhw ei chipio hi a’i tharo hi, ei brenin, ei threfi, a phawb* ynddi â’r cleddyf, heb adael i unrhyw un oroesi. Gwnaeth ef ei dinistrio hi a phawb* ynddi yn llwyr, yn union fel roedd wedi ei wneud i Eglon. 38  Yn olaf, trodd Josua a holl fyddin Israel tuag at Debir a brwydro yn ei herbyn. 39  Gwnaeth ef ei chipio hi, ei brenin, a’i holl drefi, a gwnaethon nhw eu taro nhw i lawr â’r cleddyf gan ddinistrio pawb* ynddi yn llwyr, heb adael i unrhyw un oroesi. Gwnaeth ef yr un peth i Debir a’i brenin ag yr oedd wedi ei wneud i Hebron ac i Libna a’i brenin. 40  Concrodd Josua holl dir yr ardal fynyddig, y Negef, y Seffela, a’r llethrau, a’u holl frenhinoedd, heb adael i unrhyw un oroesi; gwnaeth ef ddinistrio popeth oedd yn anadlu yn llwyr, yn union fel roedd Jehofa, Duw Israel, wedi gorchymyn. 41  Concrodd Josua yr ardal o Cades-barnea i Gasa, a holl dir Gosen ac i fyny at Gibeon. 42  Cipiodd Josua yr holl frenhinoedd hyn a’u tir i gyd ar yr un pryd, oherwydd Jehofa, Duw Israel, oedd yn brwydro dros Israel. 43  Yna aeth Josua a holl fyddin Israel yn ôl i wersyll Gilgal.

Troednodiadau

Neu “gorymdeithio.”
Llyth., “dal dy law yn ôl rhag.”
Neu “hyrddiodd Jehofa gesair.”
Neu “cesair.”
Neu “dros Wastatir Isel.”
Llyth., “minio ei dafod.”
Neu “coeden.”
Neu “a phob enaid.”
Neu “a phob enaid.”
Neu “a phob enaid.”
Neu “pob enaid.”
Neu “a phob enaid.”
Neu “a phob enaid.”
Neu “pob enaid.”