Josua 11:1-23

  • Dinasoedd y gogledd yn cael eu cipio (1-15)

  • Crynodeb o fuddugoliaethau Josua (16-23)

11  Cyn gynted ag y clywodd Jabin brenin Hasor am beth ddigwyddodd, anfonodd neges at Jobab brenin Madon, brenin Simron, brenin Achsaff,  y brenhinoedd oedd yn ardal fynyddig y gogledd, y rhai yn y gwastatir* i’r de o Cinnereth, y rhai yn y Seffela ac ar lethrau Dor i’r gorllewin,  y Canaaneaid i’r dwyrain a’r gorllewin, yr Amoriaid, yr Hethiaid, y Peresiaid, y Jebusiaid yn yr ardal fynyddig, a’r Hefiaid wrth droed mynydd Hermon yn ardal Mispa.  Felly daethon nhw allan gyda’u holl fyddinoedd, nifer enfawr ohonyn nhw, mor niferus â’r tywod sydd ar lan y môr, yn ogystal â llawer iawn o geffylau a cherbydau rhyfel.  Cytunodd y brenhinoedd hyn i gyfarfod, a daethon nhw i gyd at nant Merom a gwersylla gyda’i gilydd i frwydro yn erbyn Israel.  Gyda hynny, dywedodd Jehofa wrth Josua: “Paid â’u hofni nhw, oherwydd tua’r adeg yma yfory, bydda i’n eu rhoi nhw ichi, a byddwch chi’n sicr yn eu lladd nhw. Mae’n rhaid ichi wneud eu ceffylau yn gloff,* a llosgi eu cerbydau yn y tân.”  Yna, dyma Josua a’r holl filwyr yn ymosod arnyn nhw yn annisgwyl ar hyd nant Merom.  Rhoddodd Jehofa nhw yn nwylo Israel, a gwnaethon nhw eu trechu nhw a mynd ar eu holau nhw mor bell â Sidon Fawr a Misreffoth-maim a Dyffryn Mispa i’r dwyrain, a’u taro nhw i lawr nes bod neb ar ôl yn fyw.  Dyma Josua yn gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi dweud wrtho; gwnaeth eu ceffylau’n gloff* a llosgi eu cerbydau yn y tân. 10  Ar ben hynny, aeth Josua yn ôl a chipio Hasor a lladd ei brenin â’r cleddyf, oherwydd Hasor oedd prif ddinas y teyrnasoedd hyn i gyd. 11  Gwnaethon nhw ladd pawb* oedd ynddi â’r cleddyf, gan eu dinistrio nhw’n llwyr. Wnaethon nhw ddim gadael unrhyw un yn fyw. Yna, llosgodd ef Hasor yn y tân. 12  Cipiodd Josua holl ddinasoedd y brenhinoedd hyn, a threchu eu holl frenhinoedd â’r cleddyf. Dinistriodd nhw’n llwyr, yn union fel roedd Moses gwas Jehofa wedi gorchymyn. 13  Ond, wnaeth Israel ddim llosgi unrhyw un o’r dinasoedd oedd yn sefyll ar eu bryniau isel heblaw am Hasor; dyna’r unig un gwnaeth Josua ei llosgi. 14  Cymerodd yr Israeliaid holl ysbail ac anifeiliaid y dinasoedd hyn iddyn nhw eu hunain. Ond gwnaethon nhw daro pob person â’r cleddyf, nes iddyn nhw ladd pob un. Wnaethon nhw ddim gadael unrhyw un yn fyw. 15  Yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses ei was, dyna orchmynnodd Moses i Josua, a dyna a wnaeth Josua. Do, fe wnaeth Josua bopeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. 16  Concrodd Josua y wlad hon i gyd, yr ardal fynyddig, y Negef i gyd, holl wlad Gosen, y Seffela, yr Araba, ac ardal fynyddig Israel a’i Seffela* 17  yr holl dir o Fynydd Halac, sy’n mynd i fyny at Seir, hyd at Baal-Gad yn Nyffryn Lebanon sydd wrth droed Mynydd Hermon. Gwnaeth ef ddal eu holl frenhinoedd a’u lladd nhw. 18  Brwydrodd Josua yn erbyn yr holl frenhinoedd hyn am gryn dipyn o amser. 19  Ni wnaeth yr un ddinas wneud heddwch â’r Israeliaid heblaw am yr Hefiaid oedd yn byw yn Gibeon. Gwnaethon nhw goncro pob un arall drwy ryfel. 20  Caniataodd Jehofa i’w calonnau nhw droi’n ystyfnig, fel eu bod nhw’n rhyfela yn erbyn Israel, er mwyn iddo eu dinistrio nhw’n llwyr heb unrhyw drugaredd. Roedden nhw am gael eu difa’n llwyr, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses. 21  Bryd hynny, gwnaeth Josua gael gwared ar yr Anacim o’r ardal fynyddig, o Hebron, Debir, Anab, a holl ardal fynyddig Jwda a holl ardal fynyddig Israel. Dinistriodd Josua nhw a’u dinasoedd yn llwyr. 22  Doedd ’na’r un o’r Anacim ar ôl yng ngwlad yr Israeliaid; dim ond yn Gasa, yn Gath, ac yn Asdod roedd ’na rai ar ôl. 23  Felly cymerodd Josua reolaeth o’r wlad i gyd, yn union fel roedd Jehofa wedi addo i Moses, ac yna gwnaeth Josua ei rhoi fel etifeddiaeth i Israel fesul rhan, a’i rhannu rhwng y llwythau. A chafodd y wlad orffwys rhag rhyfel.

Troednodiadau

Neu “yr Araba.”
Hynny yw, torri llinynnau garrau eu ceffylau.
Hynny yw, torri llinynnau garrau eu ceffylau.
Neu “pob enaid.”
Neu “a’i thir isel.”