Josua 12:1-24
12 Nawr dyma frenhinoedd y wlad gwnaeth yr Israeliaid eu trechu, y brenhinoedd y gwnaethon nhw gipio eu tir ar ochr ddwyreiniol yr Iorddonen, o Ddyffryn Arnon* i fyny at Fynydd Hermon a’r holl Araba i’r dwyrain:
2 Sihon brenin yr Amoriaid, oedd yn byw yn Hesbon ac yn rheoli o Aroer, oedd ar ymyl Dyffryn Arnon,* ac o ganol y dyffryn, a hanner Gilead hyd at Ddyffryn* Jabboc, ffin yr Ammoniaid.
3 Roedd ef hefyd yn rheoli dros yr Araba, mor bell â Môr Cinnereth* i’r dwyrain ac mor bell â Môr yr Araba, y Môr Marw, i’r dwyrain i gyfeiriad Beth-jesimoth, a thuag at y de o dan lethrau Pisga.
4 Hefyd, tiriogaeth Og brenin Basan, a oedd yn un o’r olaf o’r Reffaim ac yn byw yn Astaroth ac yn Edrei
5 ac a oedd yn rheoli ym Mynydd Hermon, yn Salcha, a Basan i gyd, mor bell â ffin y Gesuriaid a’r Maachathiaid, a hanner Gilead hyd at diriogaeth Sihon brenin Hesbon.
6 Gwnaeth Moses gwas Jehofa a’r Israeliaid eu gorchfygu nhw. Ar ôl hynny, gwnaeth Moses gwas Jehofa roi eu tir fel etifeddiaeth i’r Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner llwyth Manasse.
7 Dyma frenhinoedd y wlad y gwnaeth Josua a’r Israeliaid eu trechu ar ochr orllewinol yr Iorddonen, o Baal-gad yn Nyffryn Lebanon mor bell â Mynydd Halac, sy’n mynd i fyny at Seir. Ar ôl hynny, dyma Josua yn rhoi tiriogaeth y brenhinoedd i lwythau Israel ei hetifeddu fesul rhan,
8 yn yr ardal fynyddig, yn y Seffela, yn yr Araba, ar y llethrau, yn yr anialwch, ac yn y Negef—gwlad yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Canaaneaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid. Felly dyma oedd y brenhinoedd:
9 Brenin Jericho, un; brenin Ai, oedd wrth ymyl Bethel, un;
10 brenin Jerwsalem, un; brenin Hebron, un;
11 brenin Jarmuth, un; brenin Lachis, un;
12 brenin Eglon, un; brenin Geser, un;
13 brenin Debir, un; brenin Geder, un;
14 brenin Horma, un; brenin Arad, un;
15 brenin Libna, un; brenin Adulam, un;
16 brenin Macceda, un; brenin Bethel, un;
17 brenin Tappua, un; brenin Heffer, un;
18 brenin Affec, un; brenin Lasaron, un;
19 brenin Madon, un; brenin Hasor, un;
20 brenin Simron-meron, un; brenin Achsaff, un;
21 brenin Taanach, un; brenin Megido, un;
22 brenin Cedes, un; brenin Jocneam yng Ngharmel, un;
23 brenin Dor ar lethrau Dor, un; brenin Goim yn Gilgal, un;
24 brenin Tirsa, un; cyfanswm o 31 brenin.
Troednodiadau
^ Neu “Wadi Arnon.”
^ Neu “Wadi Arnon.”
^ Neu “Wadi.”
^ Hynny yw, Llyn Genesaret, neu Môr Galilea.