Josua 13:1-33

  • Y tir sydd eto i’w goncro (1-7)

  • Rhannu’r wlad i’r dwyrain o’r Iorddonen (8-14)

  • Etifeddiaeth Reuben (15-23)

  • Etifeddiaeth Gad (24-28)

  • Etifeddiaeth Manasse yn y dwyrain (29-32)

  • Jehofa yw etifeddiaeth y Lefiaid (33)

13  Nawr roedd Josua wedi heneiddio, ac roedd yn agos at ddiwedd ei fywyd. Felly, dywedodd Jehofa wrtho: “Rwyt ti wedi heneiddio; ond mae ’na lawer o’r wlad yn dal ar ôl i’w choncro.*  Dyma’r tir sydd ar ôl: holl ardal y Philistiaid a’r Gesuriaid i gyd  (o afon Sihor* sydd i’r dwyrain* o’r Aifft hyd at ffin Ecron i’r gogledd, oedd yn arfer bod yn rhan o diriogaeth y Canaaneaid) gan gynnwys tiriogaeth pum arglwydd y Philistiaid—Gasa, Asdod, Ascalon, Gath, ac Ecron; tiriogaeth yr Afim  i’r de; holl wlad y Canaaneaid; Meara, sy’n perthyn i’r Sidoniaid, mor bell ag Affec, hyd at ffin yr Amoriaid;  tir y Gebaliaid a Lebanon i gyd i’r dwyrain, o Baal-gad wrth droed Mynydd Hermon i Lebo-hamath;*  pawb sy’n byw yn yr ardal fynyddig o Lebanon i Misreffoth-maim; a’r Sidoniaid i gyd. Bydda i’n eu gyrru nhw allan o flaen yr Israeliaid. Y cwbl sydd rhaid iti ei wneud yw aseinio’r tir i Israel fel etifeddiaeth, yn union fel rydw i wedi gorchymyn iti.  Nawr mae’n rhaid iti ddosbarthu’r wlad hon fel etifeddiaeth rhwng y naw llwyth, a hanner llwyth Manasse.”  Cymerodd y Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner arall llwyth Manasse eu hetifeddiaeth, yr etifeddiaeth roedd Moses wedi ei rhoi iddyn nhw ar ochr ddwyreiniol yr Iorddonen, yn union fel roedd Moses gwas Jehofa wedi aseinio iddyn nhw:  o Aroer, sydd ar ymyl Dyffryn Arnon,* a’r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, a holl ucheldir gwastad Medeba hyd at Dibon; 10  a holl deyrnasoedd Sihon brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Hesbon, i fyny at ffin yr Ammoniaid; 11  a hefyd Gilead a thiriogaeth y Gesuriaid a’r Maachathiaid a holl Fynydd Hermon a Basan i gyd mor bell â Salcha; 12  holl deyrnas frenhinol Og yn Basan, oedd yn teyrnasu yn Astaroth ac yn Edrei. (Ef oedd un o’r diwethaf o’r Reffaim.) Roedd Moses wedi eu gorchfygu nhw a’u gyrru nhw allan. 13  Ond ni wnaeth yr Israeliaid yrru’r Gesuriaid a’r Maachathiaid allan, yn hytrach mae pobl Gesur a Maacha yn dal i fyw yn nhiriogaeth Israel hyd heddiw. 14  Rhoddodd ef etifeddiaeth i bob llwyth heblaw’r Lefiaid. Fel roedd Duw wedi addo iddyn nhw, yr offrymau mae pobl yn eu llosgi i Jehofa, Duw Israel, yw eu hetifeddiaeth. 15  Yna, rhoddodd Moses etifeddiaeth i lwyth Reuben yn ôl eu teuluoedd, 16  ac roedd eu tiriogaeth yn mynd o Aroer, sydd ar ymyl Dyffryn Arnon,* a’r ddinas ynghanol y dyffryn, a’r holl ucheldir gwastad wrth ymyl Medeba; 17  Hesbon a’i holl drefi ar yr ucheldir gwastad, Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon, 18  Jahas, Cedemoth, Meffaath, 19  Ciriathaim, Sibma, a Sereth-sahar ar fynydd y dyffryn,* 20  Beth-peor, llethrau Pisga, Beth-jesimoth, 21  holl ddinasoedd yr ucheldir gwastad, a holl deyrnas frenhinol Sihon brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Hesbon. Gwnaeth Moses ei drechu ef a phenaethiaid y Midianiaid—Efi, Recem, Sur, Hur, a Reba, brenhinoedd oedd o dan reolaeth Sihon ac a oedd yn byw yn y wlad. 22  Balaam fab Beor, y dewin, oedd un o’r rhai gwnaeth yr Israeliaid ei ladd â’r cleddyf. 23  Ffin y Reubeniaid oedd yr Iorddonen; a’r diriogaeth hon oedd etifeddiaeth y Reubeniaid yn ôl eu teuluoedd, gyda’r dinasoedd a’u pentrefi. 24  Hefyd, rhoddodd Moses etifeddiaeth i lwyth Gad yn ôl eu teuluoedd, 25  ac roedd eu tiriogaeth yn cynnwys Jaser a holl ddinasoedd Gilead a hanner tir yr Ammoniaid mor bell ag Aroer, sy’n wynebu Rabba; 26  ac o Hesbon i Ramath-mispa a Betonim, ac o Mahanaim hyd at ffin Debir; 27  ac yn y dyffryn,* Beth-haram, Beth-nimra, Succoth, a Saffon, gweddill teyrnas frenhinol Sihon brenin Hesbon, gyda’r Iorddonen fel ffin o ben deheuol Môr Cinnereth* ar ochr ddwyreiniol yr Iorddonen. 28  Dyma oedd etifeddiaeth y Gadiaid yn ôl eu teuluoedd, gyda’r dinasoedd a’u pentrefi. 29  Hefyd, rhoddodd Moses etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse yn ôl eu teuluoedd. 30  Ac roedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Mahanaim gan gynnwys Basan i gyd, a holl deyrnas frenhinol Og brenin Basan, a holl bentrefi pebyll Jair yn Basan, 60 tref. 31  A chafodd hanner Gilead, ac Astaroth ac Edrei, dinasoedd teyrnas frenhinol Og yn Basan, eu rhoi i feibion Machir fab Manasse, hynny yw, i hanner o feibion Machir yn ôl eu teuluoedd. 32  Dyma oedd yr etifeddiaeth roddodd Moses iddyn nhw yn anialwch Moab y tu hwnt i’r Iorddonen, i’r dwyrain o Jericho. 33  Ond wnaeth Moses ddim rhoi etifeddiaeth i lwyth y Lefiaid. Jehofa, Duw Israel, yw eu hetifeddiaeth, yn union fel roedd ef wedi addo iddyn nhw.

Troednodiadau

Neu “i’w meddiannu.”
Hynny yw, rhan o Afon Nîl.
Llyth., “o flaen.”
Neu “i fynedfa Hamath.”
Neu “Wadi Arnon.”
Neu “Wadi Arnon.”
Neu “gwastatir isel.”
Neu “gwastatir isel.”
Hynny yw, Llyn Genesaret, neu Môr Galilea.