Josua 14:1-15

  • Rhannu’r wlad i’r gorllewin o’r Iorddonen (1-5)

  • Caleb yn etifeddu Hebron (6-15)

14  Nawr dyma beth gymerodd yr Israeliaid fel etifeddiaeth yng ngwlad Canaan, yr hyn a roddodd Eleasar yr offeiriad a Josua fab Nun a phennau teuluoedd llwythau Israel iddyn nhw i’w etifeddu.  Cafodd eu hetifeddiaeth ei haseinio iddyn nhw drwy daflu coelbren, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn drwy Moses ar gyfer y naw llwyth a hanner.  Roedd Moses wedi rhoi etifeddiaeth y ddau lwyth a hanner arall iddyn nhw ar ochr arall* yr Iorddonen, ond wnaeth ef ddim rhoi etifeddiaeth i’r Lefiaid ymysg y llwythau eraill.  Roedd disgynyddion Joseff yn cael eu hystyried yn ddau lwyth, Manasse ac Effraim; ac ni wnaethon nhw roi unrhyw dir i’r Lefiaid, heblaw am ddinasoedd i fyw ynddyn nhw a’u caeau ar gyfer eu hanifeiliaid a’u heiddo.  Felly gwnaeth yr Israeliaid rannu’r tir yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.  Yna aeth dynion Jwda at Josua yn Gilgal, a dywedodd Caleb fab Jeffunne y Cenesiad wrtho: “Rwyt ti’n gwybod yn iawn beth ddywedodd Jehofa wrth Moses, dyn y gwir Dduw, amdanat ti a fi yn Cades-barnea.  Roeddwn i’n 40 mlwydd oed pan wnaeth Moses gwas Jehofa fy anfon i allan o Cades-barnea i ysbïo’r wlad, a des i yn ôl gydag adroddiad hollol onest.*  Er bod fy mrodyr a aeth i fyny gyda mi wedi achosi i galonnau’r bobl suddo,* gwnes i ddilyn Jehofa fy Nuw gyda fy holl galon.*  Gwnaeth Moses dyngu llw ar y diwrnod hwnnw, gan ddweud: ‘Bydd y tir rwyt ti wedi cerdded arno yn parhau fel etifeddiaeth i ti a dy feibion, am dy fod ti wedi dilyn Jehofa fy Nuw â dy holl galon.’ 10  Nawr yn union fel gwnaeth ef addo, mae Jehofa wedi fy nghadw i’n fyw am 45 mlynedd ers i Jehofa addo hynny i Moses pan oedd Israel yn cerdded yn yr anialwch; rydw i’n dal yma heddiw, yn 85 mlwydd oed. 11  A heddiw rydw i mor gryf ag yr oeddwn i ar y diwrnod gwnaeth Moses fy anfon i allan. Mae fy nerth cystal nawr ag yr oedd bryd hynny, ar gyfer rhyfel ac ar gyfer gweithgareddau eraill. 12  Felly, rho’r ardal fynyddig hon imi, yr un gwnaeth Jehofa ei haddo imi ar y diwrnod hwnnw. Er dy fod ti wedi clywed ar y diwrnod hwnnw bod ’na Anacim yno gyda dinasoedd mawr caerog, yn sicr* bydd Jehofa gyda mi, a bydda i’n eu gyrru nhw allan, yn union fel gwnaeth Jehofa addo.” 13  Felly, gwnaeth Josua ei fendithio a rhoi Hebron i Caleb fab Jeffunne fel etifeddiaeth. 14  Dyna pam mae Hebron yn perthyn i Caleb fab Jeffunne y Cenesiad fel etifeddiaeth hyd heddiw, am ei fod wedi dilyn Jehofa, Duw Israel, â’i holl galon. 15  Roedd Hebron yn arfer cael ei galw’n Ciriath-arba (Arba oedd y dyn pwysicaf ymysg yr Anacim). A chafodd y wlad orffwys rhag rhyfel.

Troednodiadau

Hynny yw, yr ochr ddwyreiniol.
Llyth., “yn dweud yn union fel roedd yn fy nghalon.”
Llyth., “toddi.”
Llyth., “yn llawn; yn llwyr.”
Neu “mae’n debyg.”