Josua 15:1-63

  • Etifeddiaeth Jwda (1-12)

  • Merch Caleb yn cael tir (13-19)

  • Dinasoedd Jwda (20-63)

15  Roedd y tir gafodd ei roi* i lwyth Jwda yn ymestyn at ffin Edom, anialwch Sin, hyd at ran ddeheuol y Negef.  Roedd y ffin ddeheuol yn mynd o ben pellaf y Môr Marw, o’r bae sy’n wynebu’r de.  Ac roedd yn ymestyn tua’r de hyd at y ffordd sy’n mynd i fyny at Acrabbim, yn mynd drosodd tuag at Sin, ac yna yn mynd i fyny o’r de tuag at Cades-barnea, drosodd i Hesron, i fyny at Adar, ac yn troi tuag at Carca.  Yna, aeth ymlaen tuag at Asmon, ac ymestyn at Wadi’r Aifft, a gorffennodd y ffin wrth y Môr.* Dyma oedd eu ffin ddeheuol.  Y ffin ddwyreiniol oedd y Môr Marw, i fyny hyd at aber yr Iorddonen, ac roedd cornel ogleddol y ffin yn cychwyn o fae’r môr, wrth aber yr Iorddonen.  Roedd y ffin yn mynd i fyny hyd at Beth-hogla, ac yn mynd drosodd i’r gogledd o Beth-araba, ac roedd y ffin yn mynd i fyny hyd at garreg Bohan fab Reuben.  Roedd y ffin yn mynd i fyny at Debir yn Nyffryn* Achor ac yn troi tua’r gogledd at Gilgal, sydd o flaen y ffordd sy’n mynd i fyny at Adummim sydd i’r de o’r wadi, ac yna roedd y ffin yn mynd drosodd tuag at ffynnon En-semes, ac yn gorffen yn En-rogel.  Roedd y ffin yn mynd i fyny hyd at Ddyffryn Mab Hinnom hyd at lethr y Jebusiaid yn y de, hynny yw Jerwsalem, ac roedd y ffin yn mynd i fyny at gopa’r mynydd sy’n wynebu Dyffryn Hinnom i’r gorllewin, sydd wrth ben pellaf Dyffryn* Reffaim i’r gogledd.  Ac roedd y ffin wedi cael ei marcio o gopa’r mynydd hwnnw hyd at ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac roedd yn ymestyn tuag at ddinasoedd Mynydd Effron; ac roedd y ffin wedi cael ei marcio hyd at Baala, hynny yw, Ciriath-jearim. 10  Roedd y ffin yn mynd o gwmpas o Baala i gyfeiriad y gorllewin, hyd at Fynydd Seir, ac yn mynd drosodd at lethr gogleddol Mynydd Jearim, hynny yw, Cesalon, ac roedd yn mynd i lawr at Beth-semes ac yn mynd drosodd tuag at Timna. 11  Ac roedd y ffin yn ymestyn hyd at lethr gogleddol Ecron, ac roedd y ffin wedi cael ei marcio at Sicceron, ac yn mynd drosodd at Fynydd Baala, ac yn ymestyn at Jabneel. A gorffennodd y ffin wrth y môr. 12  Roedd y ffin orllewinol yn dilyn glannau’r Môr Mawr.* Dyma oedd ffiniau tiriogaeth disgynyddion Jwda yn ôl eu teuluoedd. 13  A rhoddodd Josua dir ymhlith disgynyddion Jwda i Caleb fab Jeffunne yn ôl y gorchymyn a roddodd Jehofa i Josua, hynny yw, Ciriath-arba (Arba oedd tad Anac), sef Hebron. 14  Felly gyrrodd Caleb dri mab Anac allan o’r ardal: Sesai, Ahiman, a Talmai, disgynyddion Anac. 15  Yna, aeth i fyny o’r fan honno yn erbyn pobl Debir. (Roedd Debir yn arfer cael ei galw’n Ciriath-seffer.) 16  Yna dywedodd Caleb: “Bydda i’n rhoi fy merch Achsa yn wraig i’r dyn sy’n taro Ciriath-seffer ac yn ei chipio.” 17  A gwnaeth Othniel fab Cenas, brawd Caleb, gipio’r ddinas. Felly rhoddodd Caleb ei ferch Achsa iddo yn wraig. 18  Tra oedd hi’n mynd adref, roedd hi’n mynnu bod Othniel yn gofyn i’w thad am gae. Yna daeth hi i lawr oddi ar ei hasyn,* a gofynnodd Caleb iddi: “Beth wyt ti eisiau?” 19  Dywedodd hi: “Plîs rho fendith imi. Rydw i ond wedi cael darn o dir sych yn y de.* Felly rho Guloth-maim* imi hefyd.” Felly, gwnaeth ef roi Guloth Uchaf a Guloth Isaf iddi. 20  Dyma oedd etifeddiaeth llwyth Jwda yn ôl eu teuluoedd. 21  Dyma’r dinasoedd oedd ym mhen pellaf llwyth Jwda tuag at ffin Edom yn y de: Cabseel, Eder, Jagur, 22  Cina, Dimona, Adada, 23  Cedes, Hasor, Ithnan, 24  Siff, Telem, Bealoth, 25  Hasor-hadatta, a Cerioth-hesron, hynny yw, Hasor, 26  Amam, Sema, Molada, 27  Hasar-gada, Hesmon, Beth-pelet, 28  Hasar-sual, Beer-seba, Bisiothia, 29  Baala, Iim, Esem, 30  Eltolad, Cesil, Horma, 31  Siclag, Madmanna, Sansanna, 32  Lebaoth, Silhim, Ain, a Rimmon—cyfanswm o 29 dinas gyda’u pentrefi. 33  Yn y Seffela, roedd ’na: Estaol, Sora, Asna, 34  Sanoa, En-gannim, Tappua, Enam, 35  Jarmuth, Adulam, Socho, Aseca, 36  Saaraim, Adithaim, a Gedera a Gederothaim*—14 dinas a’u pentrefi. 37  Senan, Hadasa, Migdal-gad, 38  Dilean, Mispe, Joctheel, 39  Lachis, Boscath, Eglon, 40  Cabbon, Lahmam, Cithlis, 41  Gederoth, Beth-dagon, Naama, a Macceda—16 dinas a’u pentrefi. 42  Libna, Ether, Asan, 43  Jiffta, Asna, Nesib, 44  Ceila, Achsib, a Maresa—naw dinas a’u pentrefi. 45  Ecron, ei threfi cyfagos, a’i phentrefi; 46  o Ecron i’r gorllewin, popeth sydd wrth ymyl Asdod a’u pentrefi. 47  Asdod, ei threfi cyfagos, a’i phentrefi; Gasa, ei threfi cyfagos, a’i phentrefi, i lawr at Wadi’r Aifft, y Môr Mawr,* a’r ardal gyfagos. 48  Ac yn yr ardal fynyddig, Samir, Jattir, Socho, 49  Danna, Ciriath-sannath, hynny yw, Debir, 50  Anab, Astemo, Anim, 51  Gosen, Holon, a Gilo—11 dinas a’u pentrefi. 52  Arab, Duma, Esean, 53  Janum, Beth-tappua, Affeca, 54  Humta, Ciriath-arba, hynny yw, Hebron, a Sïor—naw dinas a’u pentrefi. 55  Maon, Carmel, Siff, Jutta, 56  Jesreel, Jocdeam, Sanoa, 57  Cain, Gibea, a Timna—deg dinas a’u pentrefi. 58  Halhul, Beth-sur, Gedor, 59  Maarath, Beth-anoth, ac Eltecon—chwe dinas a’u pentrefi. 60  Ciriath-baal, hynny yw, Ciriath-jearim, a Rabba—dwy ddinas a’u pentrefi. 61  Yn yr anialwch, Betharaba, Midin, Sechacha, 62  Nibsan, Dinas yr Halen, ac En-gedi—chwe dinas a’u pentrefi. 63  Ynglŷn â’r Jebusiaid a oedd yn byw yn Jerwsalem, doedd dynion Jwda ddim yn gallu eu gyrru nhw allan. Felly mae’r Jebusiaid yn dal i fyw ymhlith pobl Jwda yn Jerwsalem hyd heddiw.

Troednodiadau

Neu “ei roi drwy daflu coelbren.”
Hynny yw, y Môr Mawr, Môr y Canoldir.
Neu “yng Ngwastatir Isel.”
Neu “Gwastatir Isel.”
Hynny yw, Môr y Canoldir.
Neu efallai, “gwnaeth hi glapio ei dwylo tra oedd hi ar gefn ei hasyn.”
Neu “y Negef.”
Sy’n golygu “Pyllau o Ddŵr.”
Neu efallai, “Gedera a’i chorlannau.”
Hynny yw, Môr y Canoldir.