Josua 17:1-18

  • Etifeddiaeth Manasse yn y gorllewin (1-13)

  • Mwy o dir i ddisgynyddion Joseff (14-18)

17  Yna, ar ôl taflu coelbren, cafodd tir ei aseinio i lwyth Manasse oherwydd ef oedd cyntaf-anedig Joseff. Gan fod Machir, cyntaf-anedig Manasse a thad Gilead, yn ddyn rhyfel, gwnaeth ef dderbyn Gilead a Basan.  A disgynnodd y coelbren ar gyfer gweddill disgynyddion Manasse yn ôl eu teuluoedd, hynny yw, meibion Abieser, meibion Helech, meibion Asriel, meibion Sechem, meibion Heffer, a meibion Semida. Dyma oedd disgynyddion Manasse fab Joseff, y dynion yn ôl eu teuluoedd.  Ond doedd gan Seloffehad fab Heffer, fab Gilead, fab Machir, fab Manasse, ddim meibion, dim ond merched, a dyma oedd enwau ei ferched: Mala, Noa, Hogla, Milca, a Tirsa.  Felly aethon nhw o flaen Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nun, a’r penaethiaid, gan ddweud: “Jehofa a orchmynnodd i Moses roi etifeddiaeth inni ymysg ein brodyr.” Felly yn ôl gorchymyn Jehofa, rhoddodd etifeddiaeth iddyn nhw ymysg brodyr eu tad.  Hefyd cafodd deg darn o dir eu rhoi i Manasse yn ogystal â thir Gilead a Basan, a oedd ar ochr arall* yr Iorddonen,  oherwydd cafodd merched Manasse etifeddiaeth ynghyd â’i feibion, a daeth tir Gilead yn eiddo i weddill disgynyddion Manasse.  Ac roedd ffin Manasse yn mynd o Aser i Michmetha, sy’n wynebu Sechem, ac roedd y ffin yn parhau tua’r de* i wlad pobl En-tappua.  Daeth gwlad Tappua yn eiddo i Manasse, ond roedd dinas Tappua ar ffin Manasse yn perthyn i ddisgynyddion Effraim.  Ac roedd y ffin yn mynd i lawr at Wadi Cana, i’r de o’r wadi. Roedd rhai o ddinasoedd Effraim ymhlith dinasoedd Manasse, ac roedd ffin Manasse ar ogledd y wadi, ac roedd yn gorffen wrth y môr. 10  Roedd yr ochr ddeheuol yn perthyn i Effraim, a’r ochr ogleddol yn perthyn i Manasse, a’r môr oedd ffin Manasse, ac roedden nhw’n* cyrraedd Aser i’r gogledd, ac Issachar i’r dwyrain. 11  Yn nhiriogaeth Issachar ac Aser, cafodd Manasse Beth-sean a’i threfi cyfagos, Ibleam a’i threfi cyfagos, pobl Dor a’i threfi cyfagos, pobl Endor a’i threfi cyfagos, pobl Taanach a’i threfi cyfagos, a phobl Megido a’i threfi cyfagos, tair o’r ardaloedd uchel. 12  Ond doedd disgynyddion Manasse ddim yn gallu meddiannu’r dinasoedd hyn; roedd y Canaaneaid yn benderfynol o barhau i fyw yn y wlad hon. 13  Unwaith i fyddin Israel gryfhau, gwnaethon nhw orfodi’r Canaaneaid i lafurio fel caethweision, ond wnaethon nhw ddim eu gyrru nhw allan yn gyfan gwbl. 14  Dywedodd disgynyddion Joseff wrth Josua: “Pam rwyt ti ond wedi rhoi un darn bach o dir inni* fel etifeddiaeth? Mae ’na nifer mawr ohonon ni gan fod Jehofa wedi ein bendithio ni hyd yn hyn.” 15  Atebodd Josua: “Os oes ’na gymaint ohonoch chi, ewch i fyny i’r goedwig a chliriwch le i chi’ch hunain yno yng ngwlad y Peresiaid a’r Reffaim, gan fod ardal fynyddig Effraim yn rhy fach ichi.” 16  Yna dywedodd disgynyddion Joseff: “Dydy’r ardal fynyddig ddim yn ddigon inni, ac mae gan y Canaaneaid sy’n byw yng ngwlad y dyffryn* gerbydau rhyfel â chleddyfau haearn ar yr olwynion,* hynny yw, yr holl Ganaaneaid yn Beth-sean a’i threfi cyfagos, yn ogystal â’r rhai yn Nyffryn* Jesreel.” 17  Felly, dyma beth ddywedodd Josua wrth dŷ Joseff, wrth Effraim a Manasse: “Mae ’na lawer ohonoch chi, ac rydych chi’n bwerus iawn. Byddwch chi’n derbyn mwy na dim ond un darn o dir; 18  bydd yr ardal fynyddig hefyd yn perthyn i chi. Er ei bod yn goedwig, byddwch chi’n ei chlirio, a dyna fydd pen pellaf eich tiriogaeth. Oherwydd byddwch chi’n gyrru allan y Canaaneaid, er eu bod nhw’n gryf ac er bod ganddyn nhw gerbydau rhyfel â chleddyfau haearn ar yr olwynion.”*

Troednodiadau

Hynny yw, yr ochr ddwyreiniol.
Llyth., “i’r dde.”
Hynny yw, pobl Manasse neu diriogaeth Manasse.
Llyth., “i mi.”
Neu “gwastatir isel.”
Llyth., “cerbydau haearn.”
Neu “yng Ngwastatir Isel.”
Llyth., “cerbydau haearn.”