Josua 18:1-28
18 Yna daeth holl gynulleidfa Israel at ei gilydd yn Seilo a gosod pabell y cyfarfod yno, am eu bod nhw wedi meddiannu’r wlad.
2 Ond roedd saith o lwythau Israel yn dal heb ddosbarthu eu hetifeddiaeth ymysg ei gilydd.
3 Felly dywedodd Josua wrth yr Israeliaid: “Am faint mwy rydych chi am oedi cyn mynd i mewn i gymryd meddiant o’r wlad mae Jehofa, Duw eich cyndadau, wedi ei rhoi ichi?
4 Rhowch dri dyn o bob llwyth imi eu hanfon nhw allan; dylen nhw fynd a cherdded drwy gydol y wlad a’i mapio yn ôl eu hetifeddiaeth. Yna dylen nhw ddod yn ôl ata i.
5 Rhaid iddyn nhw ei rhannu’n saith a’i dosbarthu ymysg ei gilydd. Bydd Jwda yn aros yn ei diriogaeth yn y de, a bydd tŷ Joseff yn aros yn eu tiriogaeth nhw yn y gogledd.
6 Mae’n rhaid ichi fynd allan i’r wlad, gwneud mapiau ohoni, a’i rhannu’n saith. Dewch â nhw ata i, a bydda i’n taflu coelbren ar eich cyfer chi o flaen Jehofa ein Duw.
7 Ond fydd y Lefiaid ddim yn cael rhan o’r tir yn eich plith, oherwydd offeiriadaeth Jehofa yw eu hetifeddiaeth; ac mae Gad, Reuben, a hanner llwyth Manasse eisoes wedi cymryd eu hetifeddiaeth ar ochr ddwyreiniol yr Iorddonen, yr etifeddiaeth roddodd Moses gwas Jehofa iddyn nhw.”
8 Gwnaeth y dynion baratoi i fynd, a gorchmynnodd Josua i’r rhai oedd am fapio’r wlad: “Ewch a cherddwch drwy gydol y wlad a’i mapio a dewch yn ôl ata i, a bydda i’n taflu coelbren ar eich cyfer yma o flaen Jehofa yn Seilo.”
9 Gyda hynny aeth y dynion allan a theithio trwy gydol y wlad gan ei mapio fesul dinas i mewn i saith rhan, a gwneud cofnod mewn llyfr. Ar ôl hynny aethon nhw yn ôl at Josua yn y gwersyll yn Seilo.
10 Yna taflodd Josua goelbren ar eu cyfer yn Seilo o flaen Jehofa. Dyna lle gwnaeth Josua ddosbarthu’r wlad rhwng yr Israeliaid, un rhan i bob llwyth.
11 Wrth daflu coelbren, cafodd llwyth Benjamin diriogaeth oedd rhwng pobl Jwda a phobl Joseff.
12 Yn y gogledd, roedd eu ffin yn cychwyn wrth yr Iorddonen, ac roedd y ffin yn mynd i fyny at lethr Jericho yn y gogledd ac yn mynd i fyny ar y mynydd tua’r gorllewin, ac yn ymestyn at anialwch Beth-afen.
13 Ac aeth y ffin o’r fan yna hyd at Lus, ar lethr deheuol Lus, hynny yw, Bethel; aeth y ffin i lawr at Ataroth-adar ar y mynydd sydd i’r de o Beth-horon Isaf.
14 Ac roedd y ffin wedi cael ei marcio ar yr ochr orllewinol ac roedd yn troi tua’r de o’r mynydd sy’n wynebu Beth-horon i’r de; roedd yn gorffen yn Ciriath-baal, hynny yw Ciriath-jearim, un o ddinasoedd Jwda. Dyma ydy’r ochr orllewinol.
15 Roedd yr ochr ddeheuol yn mynd o ben pellaf Ciriath-jearim, ac roedd y ffin yn ymestyn tua’r gorllewin; roedd yn mynd allan at ffynnon dyfroedd Nefftoa.
16 Roedd y ffin yn mynd i lawr at ben pellaf y mynydd sy’n wynebu Dyffryn Mab Hinnom sydd yn Nyffryn* Reffaim i’r gogledd, ac roedd yn mynd i lawr at Ddyffryn Hinnom, at lethr y Jebusiad yn y de, ac i lawr at En-rogel.
17 Ac roedd wedi cael ei marcio tua’r gogledd ac roedd yn ymestyn at En-semes ac yna allan at Geliloth, sydd o flaen y ffordd sy’n mynd i fyny at Adummim, ac aeth i lawr at garreg Bohan fab Reuben.
18 A pharhaodd at y llethr gogleddol sydd o flaen yr Araba ac i lawr at yr Araba.
19 A pharhaodd y ffin at lethr gogleddol Beth-hogla, a gorffennodd y ffin wrth fae gogleddol y Môr Marw ym mhen deheuol yr Iorddonen. Dyma oedd y ffin ddeheuol.
20 Ac roedd y ffin ddwyreiniol yn rhedeg ar hyd yr Iorddonen. Dyma oedd etifeddiaeth disgynyddion Benjamin yn ôl eu teuluoedd, a’i ffiniau.
21 A dyma ddinasoedd llwyth Benjamin yn ôl eu teuluoedd: Jericho, Beth-hogla, Emec-cesis,
22 Beth-araba, Semaraim, Bethel,
23 Afim, Para, Offra,
24 Ceffar-haammonai, Offni, a Geba—12 dinas a’u pentrefi.
25 Gibeon, Rama, Beeroth,
26 Mispe, Ceffira, Mosa,
27 Recem, Irpeel, Tarala,
28 Sela, Eleff, Jebusi, hynny yw, Jerwsalem, Gibea, a Ciriath—14 dinas a’u pentrefi.
Dyma oedd etifeddiaeth disgynyddion Benjamin yn ôl eu teuluoedd.
Troednodiadau
^ Neu “yng Ngwastatir Isel.”