Josua 19:1-51

  • Etifeddiaeth Simeon (1-9)

  • Etifeddiaeth Sabulon (10-16)

  • Etifeddiaeth Issachar (17-23)

  • Etifeddiaeth Aser (24-31)

  • Etifeddiaeth Nafftali (32-39)

  • Etifeddiaeth Dan (40-48)

  • Etifeddiaeth Josua (49-51)

19  Yr ail lwyth i gael eu tir wrth daflu coelbren oedd llwyth Simeon. Ac roedd eu hetifeddiaeth y tu mewn i etifeddiaeth Jwda.  Eu hetifeddiaeth oedd Beer-seba gyda Seba, Molada,  Hasar-sual, Bala, Esem,  Eltolad, Bethul, Horma,  Siclag, Beth-marcaboth, Hasar-usa,  Beth-lebaoth, a Saruhen—13 dinas a’u pentrefi;  Ain, Rimmon, Ether, ac Asan—pedair dinas a’u pentrefi;  a’r holl bentrefi oedd o gwmpas y dinasoedd hyn mor bell â Baalath-beer, sef Ramath y de. Dyma oedd etifeddiaeth llwyth Simeon yn ôl eu teuluoedd.  Cafodd etifeddiaeth disgynyddion Simeon ei chymryd allan o dir Jwda, oherwydd roedd rhan Jwda yn rhy fawr iddyn nhw. Felly cafodd disgynyddion Simeon ddarnau o dir o fewn eu hetifeddiaeth. 10  Nesaf disgynnodd y trydydd coelbren i ddisgynyddion Sabulon yn ôl eu teuluoedd, ac roedd ffin eu hetifeddiaeth yn mynd mor bell â Sarid. 11  Roedd eu ffin yn mynd i fyny i’r gorllewin i Marala ac yn ymestyn at Dabbeseth ac yna i’r dyffryn* sydd o flaen Jocneam. 12  Ac roedd yn mynd o Sarid i’r dwyrain i gyfeiriad y wawr, at ffin Cisloth-tabor ac allan i Daberath ac yna i fyny i Jaffia. 13  Ac roedd yn parhau o fan ’na i’r gorllewin i gyfeiriad y wawr i Gath-heffer, i Eth-casin, ac allan i Rimmon, ac roedd yn ymestyn at Nea. 14  Ac yn y gogledd trodd y ffin at Hannathon, a gorffen yn Nyffryn Ifftahel, 15  a Cattath, Nahalal, Simron, Idala, a Bethlehem—12 dinas a’u pentrefi. 16  Dyma oedd etifeddiaeth disgynyddion Sabulon yn ôl eu teuluoedd. Dyma oedd y dinasoedd a’u pentrefi. 17  Disgynnodd y pedwerydd coelbren i ddisgynyddion Issachar yn ôl eu teuluoedd. 18  Ac roedd eu ffin yn mynd i Jesreel, Cesuloth, Sunem, 19  Haffraim, Sihon, Anaharath, 20  Rabbith, Cision, Ebes, 21  Remeth, En-gannim, En-hada, a Beth-passes. 22  Ac roedd y ffin yn cyrraedd Tabor a Sahasima a Beth-semes, ac roedd y ffin yn gorffen wrth yr Iorddonen—16 dinas a’u pentrefi. 23  Dyma oedd etifeddiaeth llwyth Issachar yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd a’u pentrefi. 24  Yna disgynnodd y pumed coelbren i lwyth Aser yn ôl eu teuluoedd. 25  A’u ffin oedd Helcath, Hali, Beten, Achsaff, 26  Alammelech, Amad, a Misal. Roedd yn ymestyn i’r gorllewin i Garmel ac i Sihor-libnath, 27  ac yna roedd yn troi yn ôl i’r dwyrain at Beth-dagon ac yn cyrraedd Sabulon a Dyffryn Ifftahel i’r gogledd, i Beth-emec a Neiel, ac roedd yn ymestyn i Cabwl ar y chwith, 28  ac i Ebron, Rehob, Hammon, a Cana hyd at Sidon Fawr. 29  Ac roedd y ffin yn mynd yn ôl i Rama ac mor bell â dinas gaerog Tyrus. Yna roedd y ffin yn mynd yn ôl i Hosa, ac roedd yn gorffen wrth y môr yn ardal Achsib, 30  Umma, Affec, a Rehob—22 dinas a’u pentrefi. 31  Dyma oedd etifeddiaeth llwyth Aser yn ôl eu teuluoedd. Dyma oedd y dinasoedd a’u pentrefi. 32  Disgynnodd y chweched coelbren i ddisgynyddion Nafftali yn ôl eu teuluoedd. 33  Roedd eu ffin yn mynd o Heleff, o’r goeden fawr yn Saanannim, ac Adami-neceb, a Jabneel mor bell â Laccum; ac roedd yn gorffen wrth yr Iorddonen. 34  Roedd y ffin yn mynd yn ôl i’r gorllewin i Asnoth-tabor ac yn ymestyn o fan ’na i Huccoc ac yn cyrraedd Sabulon i’r de ac Aser i’r gorllewin a Jwda wrth yr Iorddonen i gyfeiriad y dwyrain. 35  A’r dinasoedd caerog oedd Sidim, Ser, Hammath, Raccath, Cinnereth, 36  Adama, Rama, Hasor, 37  Cedes, Edrei, En-hasor, 38  Iron, Migdal-el, Horem, Beth-anath, a Beth-semes—19 dinas a’u pentrefi. 39  Dyma oedd etifeddiaeth llwyth Nafftali yn ôl eu teuluoedd, y dinasoedd a’u pentrefi. 40  Disgynnodd y seithfed coelbren i lwyth Dan yn ôl eu teuluoedd. 41  A ffin eu hetifeddiaeth oedd Sora, Estaol, Ir-semes, 42  Saalabbin, Ajalon, Ithla, 43  Elon, Timna, Ecron, 44  Eltece, Gibbethon, Baalath, 45  Jehud, Bene-berac, Gath-rimmon, 46  Meiarcon, a Raccon, gyda’r ffin yn wynebu Jopa. 47  Ond roedd tiriogaeth Dan yn rhy gyfyng iddyn nhw. Felly aethon nhw i fyny a brwydro yn erbyn Lesem a’i chipio a’i tharo â’r cleddyf. Yna gwnaethon nhw ei meddiannu a setlo ynddi, a newid enw Lesem i Dan, ar ôl enw Dan eu cyndad. 48  Dyma oedd etifeddiaeth llwyth Dan yn ôl eu teuluoedd. Dyma oedd y dinasoedd a’u pentrefi. 49  Felly gorffennon nhw rannu tiriogaethau’r wlad er mwyn i bob llwyth gael ei etifeddiaeth. Yna rhoddodd yr Israeliaid etifeddiaeth yn eu mysg i Josua fab Nun. 50  Yn unol â gorchymyn Jehofa, rhoddon nhw i Josua y ddinas roedd ef wedi gofyn amdani, sef Timnath-sera, yn ardal fynyddig Effraim, a gwnaeth ef ailadeiladu’r ddinas a setlo ynddi. 51  Dyma oedd y tir gwnaeth Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nun, a phennau teuluoedd llwythau Israel ei ddosbarthu i’r llwythau fel etifeddiaeth drwy daflu coelbren yn Seilo o flaen Jehofa, wrth fynedfa pabell y cyfarfod. Felly gorffennon nhw rannu’r wlad.

Troednodiadau

Neu “wadi.”