Josua 20:1-9

  • Dinasoedd lloches (1-9)

20  Yna dywedodd Jehofa wrth Josua:  “Dyweda wrth yr Israeliaid, ‘Dewiswch i chi’ch hunain y dinasoedd lloches gwnes i siarad â chi amdanyn nhw drwy Moses,  fel bod yr un sy’n lladd rhywun yn anfwriadol neu yn ddamweiniol* yn gallu ffoi yno. A byddan nhw’n lloches ichi rhag yr un sy’n dial gwaed.  Rhaid iddo ffoi i un o’r dinasoedd hyn a sefyll wrth fynedfa giât y ddinas a chyflwyno ei achos er mwyn i henuriaid y ddinas ei glywed. Yna rhaid iddyn nhw adael iddo ddod i mewn i’r ddinas a rhoi rhywle iddo fyw a bydd ef yn byw gyda nhw.  Os ydy’r un sy’n dial gwaed yn dod ar ei ôl, ddylen nhw ddim gadael iddo gymryd y lladdwr, am ei fod wedi lladd ei gyd-ddyn yn ddamweiniol* a doedd ef ddim yn ei gasáu o’r blaen.  Mae’n rhaid iddo aros yn y ddinas honno nes iddo sefyll ei brawf o flaen y gynulleidfa, ac mae’n rhaid iddo aros yno nes marwolaeth yr un sy’n gwasanaethu fel archoffeiriad ar y pryd. Wedyn gall y lladdwr fynd yn ôl i’r ddinas gwnaeth ef ffoi ohoni, a mynd adref i’w dŷ.’”  Felly fel dinasoedd lloches dyma nhw’n sancteiddio* Cedes yng Ngalilea yn ardal fynyddig Nafftali, Sechem yn ardal fynyddig Effraim, a Ciriath-arba, hynny yw Hebron, yn ardal fynyddig Jwda.  Yn ardal yr Iorddonen, i’r dwyrain o Jericho, dyma nhw’n dewis Beser yn yr anialwch ar yr ucheldir gwastad yn nhiriogaeth llwyth Reuben, Ramoth yn Gilead yn nhiriogaeth llwyth Gad, a Golan yn Basan yn nhiriogaeth llwyth Manasse.  Rhain oedd y dinasoedd gafodd eu penodi ar gyfer yr holl Israeliaid ac ar gyfer yr estroniaid a oedd yn byw yn eu plith, fel bod unrhyw un oedd yn lladd rhywun yn anfwriadol yn gallu ffoi yno a pheidio â chael ei ladd gan yr un sy’n dial gwaed cyn iddo sefyll ei brawf o flaen y gynulleidfa.

Troednodiadau

Neu “heb wybod.”
Neu “heb wybod.”
Neu “neilltuo.”