Josua 21:1-45
21 Nawr daeth pennau teuluoedd y Lefiaid at Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nun, a phennau teuluoedd llwythau Israel,
2 a siarad â nhw yn Seilo yng ngwlad Canaan, gan ddweud: “Gorchmynnodd Jehofa drwy Moses inni gael dinasoedd i fyw ynddyn nhw, a’u tir pori ar gyfer ein hanifeiliaid.”
3 Felly yn ôl gorchymyn Jehofa, rhoddodd yr Israeliaid y dinasoedd hyn a’u tir pori i’r Lefiaid allan o’u hetifeddiaeth eu hunain.
4 Disgynnodd y coelbren cyntaf i deuluoedd y Cohathiaid, a derbyniodd y Lefiaid a oedd yn ddisgynyddion i Aaron yr offeiriad 13 dinas allan o lwyth Jwda, llwyth Simeon, a llwyth Benjamin.
5 Drwy daflu coelbren, derbyniodd gweddill y Cohathiaid ddeg dinas allan o deuluoedd llwyth Effraim, llwyth Dan, a hanner llwyth Manasse.
6 A derbyniodd y Gersoniaid 13 dinas allan o deuluoedd llwyth Issachar, llwyth Aser, llwyth Nafftali, a hanner llwyth Manasse yn Basan.
7 I’r Merariaid yn ôl eu teuluoedd, roedd ’na 12 dinas allan o lwyth Reuben, llwyth Gad, a llwyth Sabulon.
8 Felly rhoddodd yr Israeliaid y dinasoedd hyn a’u tir pori i’r Lefiaid drwy daflu coelbren, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn drwy Moses.
9 Felly dyma’r dinasoedd roddon nhw o lwyth Jwda a llwyth Simeon,
10 a chawson nhw eu rhoi i feibion Aaron o deuluoedd y Cohathiaid o lwyth Lefi, oherwydd disgynnodd y coelbren cyntaf iddyn nhw.
11 Gwnaethon nhw roi iddyn nhw Ciriath-arba (Arba oedd tad Anac), hynny yw, Hebron, yn ardal fynyddig Jwda, a’i thir pori o’i chwmpas.
12 Ond rhoddon nhw gaeau’r ddinas a’i phentrefi i Caleb fab Jeffunne eu meddiannu.
13 Ac i feibion Aaron yr offeiriad, rhoddon nhw’r ddinas sy’n lloches i’r lladdwyr, sef Hebron a’i thir pori, hefyd Libna a’i thir pori,
14 Jattir a’i thir pori, Estemoa a’i thir pori,
15 Holon a’i thir pori, Debir a’i thir pori,
16 Ain a’i thir pori, Jutta a’i thir pori, a Beth-semes a’i thir pori—naw dinas allan o’r ddau lwyth hwn.
17 Ac o lwyth Benjamin: Gibeon a’i thir pori, Geba a’i thir pori,
18 Anathoth a’i thir pori, ac Almon a’i thir pori—pedair dinas.
19 Cafodd 13 dinas a’u tir pori eu rhoi i ddisgynyddion Aaron, sef yr offeiriaid.
20 A derbyniodd gweddill teuluoedd Cohath o lwyth Lefi ddinasoedd o lwyth Effraim drwy daflu coelbren.
21 Gwnaethon nhw roi iddyn nhw’r ddinas sy’n lloches i’r lladdwyr, sef Sechem a’i thir pori yn ardal fynyddig Effraim, Geser a’i thir pori,
22 Cibsaim a’i thir pori, Beth-horon a’i thir pori—pedair dinas.
23 Ac o lwyth Dan: Eltece a’i thir pori, Gibbethon a’i thir pori,
24 Ajalon a’i thir pori, Gath-rimmon a’i thir pori—pedair dinas.
25 Ac o hanner llwyth Manasse: Taanach a’i thir pori a Gath-rimmon a’i thir pori—dwy ddinas.
26 Cafodd gweddill teuluoedd y Cohathiaid ddeg dinas i gyd, a’u tir pori.
27 Ac o hanner llwyth Manasse, cafodd teuluoedd Gerson o lwyth Lefi y ddinas sy’n lloches i’r lladdwyr, sef Golan yn Basan a’i thir pori, a Beestera a’i thir pori—dwy ddinas.
28 Ac o lwyth Issachar: Cison a’i thir pori, Daberath a’i thir pori,
29 Jarmuth a’i thir pori, ac En-gannim a’i thir pori—pedair dinas.
30 Ac o lwyth Aser: Misal a’i thir pori, Abdon a’i thir pori,
31 Helcath a’i thir pori, a Rehob a’i thir pori—pedair dinas.
32 Ac o lwyth Nafftali: y ddinas sy’n lloches i’r lladdwyr, sef Cedes yng Ngalilea a’i thir pori, Hammoth-dor a’i thir pori, a Cartan a’i thir pori—tair dinas.
33 Derbyniodd y Gersoniaid yn ôl eu teuluoedd 13 dinas i gyd a’u tir pori.
34 Ac o lwyth Sabulon, derbyniodd teuluoedd y Merariaid, sef gweddill y Lefiaid, Jocneam a’i thir pori, Carta a’i thir pori,
35 Dimna a’i thir pori, a Nahalal a’i thir pori—pedair dinas.
36 Ac o lwyth Reuben: Beser a’i thir pori, Jahas a’i thir pori,
37 Cedemoth a’i thir pori, a Meffaath a’i thir pori—pedair dinas.
38 Ac o lwyth Gad: y ddinas sy’n lloches i’r lladdwyr, sef Ramoth yn Gilead a’i thir pori, Mahanaim a’i thir pori,
39 Hesbon a’i thir pori, a Jaser a’i thir pori—cyfanswm o bedair dinas.
40 Derbyniodd y Merariaid yn ôl eu teuluoedd, sef gweddill teuluoedd y Lefiaid, 12 dinas i gyd.
41 Cafodd 48 dinas a’u tir pori eu rhoi i’r Lefiaid o fewn tiriogaeth yr Israeliaid.
42 Roedd gan bob un o’r dinasoedd hyn ei thir pori o’i chwmpas—roedd hyn yn wir ar gyfer yr holl ddinasoedd hyn.
43 Felly rhoddodd Jehofa i Israel yr holl wlad gwnaeth ef addo ar lw ei rhoi i’w cyndadau, a gwnaethon nhw ei meddiannu a setlo ynddi.
44 Ar ben hynny, rhoddodd Jehofa orffwys iddyn nhw i bob cyfeiriad, yn union fel roedd ef wedi addo ar lw i’w cyndadau nhw. A doedd dim un o’u gelynion yn gallu sefyll yn eu herbyn. Rhoddodd Jehofa eu gelynion i gyd yn eu dwylo.
45 Allan o’r holl addewidion da roedd Jehofa wedi eu gwneud i dŷ Israel, ni wnaeth unrhyw un o’r addewidion* hynny fethu; daethon nhw i gyd yn wir.
Troednodiadau
^ Neu “geiriau.”