Josua 22:1-34
22 Yna, dyma Josua yn galw y Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner llwyth Manasse at ei gilydd
2 a dweud wrthyn nhw: “Rydych chi wedi gwneud popeth a orchmynnodd Moses gwas Jehofa ichi, ac rydych chi wedi ufuddhau i bopeth rydw i wedi ei orchymyn ichi.
3 Dydych chi ddim wedi cefnu ar eich brodyr yn ystod yr holl amser, hyd heddiw; ac rydych chi wedi ufuddhau i orchymyn Jehofa eich Duw.
4 Nawr mae Jehofa eich Duw wedi rhoi gorffwys i’ch brodyr, fel gwnaeth ef addo iddyn nhw. Felly nawr cewch chi fynd yn ôl i’ch pebyll yn y wlad rhoddodd Moses gwas Jehofa ichi ei meddiannu ar ochr arall* yr Iorddonen.
5 Ond byddwch yn ofalus iawn i gadw’r gorchmynion a’r Gyfraith roddodd Moses gwas Jehofa ichi, drwy garu Jehofa eich Duw, drwy gerdded yn ei holl ffyrdd, drwy gadw ei orchmynion, drwy lynu wrtho, a thrwy ei wasanaethu â’ch holl galon ac â’ch holl enaid.”*
6 Yna gwnaeth Josua eu bendithio nhw a’u hanfon nhw i ffwrdd, ac aethon nhw i’w pebyll.
7 Ac roedd Moses wedi rhoi etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse yn Basan, a rhoddodd Josua dir i hanner arall y llwyth ar ochr orllewinol yr Iorddonen, gyda’u brodyr. Yn ogystal, pan anfonodd Josua nhw i ffwrdd i’w pebyll, gwnaeth ef eu bendithio nhw
8 a dweud wrthyn nhw: “Ewch yn ôl i’ch pebyll gyda chyfoeth mawr, gyda nifer mawr o anifeiliaid, gydag arian ac aur, copr a haearn, a llawer iawn o ddillad. Cymerwch ysbail eich gelynion a’i rhannu gyda’ch brodyr.”
9 Ar ôl hynny, dyma’r Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner llwyth Manasse yn gadael yr Israeliaid eraill yn Seilo yng ngwlad Canaan, ac yn mynd yn ôl i wlad Gilead, i’r wlad oedd wedi cael ei rhoi iddyn nhw i’w meddiannu a setlo ynddi, yn ôl gorchymyn Jehofa drwy Moses.
10 Pan ddaethon nhw at ardaloedd yr Iorddonen yng ngwlad Canaan, adeiladodd y Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner llwyth Manasse allor yno wrth ymyl yr Iorddonen, allor fawr a thrawiadol.
11 Yn nes ymlaen, clywodd yr Israeliaid eraill y geiriau hyn: “Edrychwch! Mae llwythau Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse wedi adeiladu allor ar ffin gwlad Canaan, yn ardaloedd yr Iorddonen ar yr ochr sy’n perthyn i ni.”
12 Ar ôl iddyn nhw glywed am y peth, daeth holl gynulleidfa’r Israeliaid at ei gilydd yn Seilo i fynd i ryfela yn eu herbyn nhw.
13 Yna gwnaeth yr Israeliaid anfon Phineas fab Eleasar yr offeiriad at y Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner llwyth Manasse yng ngwlad Gilead,
14 ac roedd deg pennaeth gydag ef, un pennaeth o bob un o deuluoedd llwythau Israel, pob un yn ben ar ei dŷ* ymhlith grwpiau o filoedd o ddynion* Israel.
15 Pan ddaethon nhw at y Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner llwyth Manasse yng ngwlad Gilead, dywedon nhw wrthyn nhw:
16 “Dyma beth mae holl gynulleidfa Jehofa yn ei ddweud: ‘Pam rydych chi wedi bod yn anffyddlon i Dduw Israel? Heddiw rydych chi wedi troi yn ôl rhag dilyn Jehofa drwy adeiladu allor i chi’ch hunain a gwrthryfela yn erbyn Jehofa.
17 Onid oedd y drwg wnaethon ni yn Peor yn ddigon inni? Ydych chi wedi anghofio’r pla wnaeth daro cynulleidfa Jehofa? Rydyn ni’n dal i ddioddef effeithiau’r pechod hwnnw hyd heddiw.
18 Ac o ystyried hynny, ydych chi nawr eisiau troi yn ôl rhag dilyn Jehofa? Os ydych chi’n gwrthryfela yn erbyn Jehofa heddiw, yna yfory, bydd ef yn digio yn erbyn holl gynulleidfa Israel.
19 Nawr os ydych chi’n meddwl bod y wlad rydych chi wedi ei meddiannu yn aflan o flaen Duw, dewch drosodd i’r wlad sy’n perthyn i Jehofa, lle mae tabernacl Jehofa, a setlo yn ein mysg. Ond peidiwch â gwrthryfela yn erbyn Jehofa, a pheidiwch â’n gwneud ni’n wrthryfelwyr drwy adeiladu allor i chi’ch hunain yn ogystal ag allor Jehofa ein Duw.
20 Pan fuodd Achan fab Sera yn anffyddlon ynglŷn â’r hyn oedd i fod i gael ei ddinistrio, oni wnaeth Duw ddigio yn erbyn yr holl Israeliaid? Nid ef oedd yr unig un wnaeth farw oherwydd ei bechod.’”
21 Yna, dyma’r Reubeniaid, y Gadiaid, a hanner llwyth Manasse yn ateb pennau y grwpiau o filoedd o ddynion* Israel:
22 “Duw y duwiau, Jehofa!* Duw y duwiau, Jehofa! Mae ef yn gwybod, a bydd Israel hefyd yn gwybod. Os ydyn ni wedi gwrthryfela, ac wedi bod yn anffyddlon i Jehofa, paid â’n hachub ni heddiw.
23 Os ydyn ni wedi adeiladu allor i ni’n hunain i droi yn ôl rhag dilyn Jehofa ac i gyflwyno offrymau llosg, offrymau grawn, ac aberthau heddwch arni, bydd Jehofa yn ein cosbi ni.
24 Na, gwnaethon ni hyn am reswm arall, oherwydd roedden ni’n poeni y byddai eich meibion chi yn dweud wrth ein meibion ni yn y dyfodol: ‘Beth sydd gynnoch chi i’w wneud â Jehofa Duw Israel?
25 Mae Jehofa wedi rhoi’r Iorddonen fel ffin rhyngon ni a chi, y Reubeniaid a’r Gadiaid. Does gynnoch chi ddim hawl i gael rhan yn addoli Jehofa.’ A bydd eich meibion chi yn rhwystro ein meibion ni rhag addoli* Jehofa.”
26 “Felly dyma ni’n dweud, ‘Gadewch i ni weithredu drwy adeiladu allor, nid ar gyfer offrymau llosg neu aberthau,
27 ond i fod yn dyst rhyngoch chi a ni a’n disgynyddion* ar ein holau ni i ddangos y byddwn ni’n addoli Jehofa drwy gyflwyno ein hoffrymau llosg, ein haberthau, a’n haberthau heddwch o’i flaen. Wedyn, ni fydd eich meibion chi yn gallu dweud wrth ein meibion ni yn y dyfodol: “Does gynnoch chi ddim hawl i gael rhan yn addoli Jehofa.”’
28 Felly dywedon ni, ‘Os byddan nhw’n dweud hynny wrthon ni ac wrth ein disgynyddion* yn y dyfodol, yna byddwn ni’n dweud: “Edrychwch ar y copi hwn y gwnaeth ein cyndadau o allor Jehofa, nid ar gyfer offrymau llosg neu aberthau, ond i fod yn dyst rhyngoch chi a ni.”’
29 Fydden ni ddim yn meiddio gwrthryfela yn erbyn Jehofa a throi yn ôl rhag dilyn Jehofa drwy adeiladu allor ar gyfer offrymau llosg, offrymau grawn, ac aberthau, heblaw am allor Jehofa ein Duw sydd o flaen ei dabernacl!”
30 Pan wnaeth Phineas yr offeiriad, penaethiaid y gynulleidfa, a phennau y grwpiau o filoedd o ddynion* Israel oedd gydag ef glywed yr hyn a ddywedodd disgynyddion Reuben, Gad, a Manasse, roedden nhw’n fodlon.
31 Felly dywedodd Phineas fab Eleasar yr offeiriad wrth ddisgynyddion Reuben, Gad, a Manasse: “Heddiw rydyn ni’n gwybod bod Jehofa yn ein plith, oherwydd dydych chi ddim wedi gwrthryfela yn erbyn Jehofa. Rydych chi nawr wedi achub yr Israeliaid o law Jehofa.”
32 Yna aeth Phineas fab Eleasar yr offeiriad a’r penaethiaid yn ôl i Ganaan ar ôl iddyn nhw gyfarfod â’r Reubeniaid a’r Gadiaid yng ngwlad Gilead, a gwnaethon nhw sôn wrth yr Israeliaid eraill am beth oedd wedi digwydd.
33 Ac roedd yr Israeliaid yn fodlon gyda’r adroddiad. Yna, dyma’r Israeliaid yn moli Duw, ac ni ddywedon nhw air arall am fynd i ryfel yn erbyn y Reubeniaid a’r Gadiaid i ddinistrio’r wlad roedden nhw’n byw ynddi.
34 Felly gwnaeth y Reubeniaid a’r Gadiaid enwi’r allor,* oherwydd dywedon nhw, “Mae’n dyst rhyngon ni mai Jehofa yw’r gwir Dduw.”
Troednodiadau
^ Hynny yw, yr ochr ddwyreiniol.
^ Llyth., “y teulu ar ochr y tad.”
^ Neu “ymhlith claniau.”
^ Neu “pennau claniau.”
^ Neu “Yr Un Dwyfol, Duw, Jehofa.”
^ Llyth., “ofni.”
^ Llyth., “cenedlaethau.”
^ Llyth., “cenedlaethau.”
^ Neu “a phennau claniau.”
^ O’r esboniad sy’n cael ei roi, mae’n debyg mai enw’r allor oedd Tyst.