Josua 23:1-16

  • Josua yn ffarwelio ag arweinwyr Israel (1-16)

    • Does yr un o eiriau Jehofa wedi methu (14)

23  Lawer o ddyddiau ar ôl i Jehofa roi gorffwys i Israel rhag yr holl elynion o’u cwmpas, pan oedd Josua yn hen ac yn agos at ddiwedd ei fywyd,  dyma Josua yn galw Israel i gyd at ei gilydd, eu henuriaid, eu penaethiaid, eu barnwyr, a’u swyddogion, a dweud wrthyn nhw: “Rydw i wedi heneiddio; rydw i’n agos at ddiwedd fy mywyd.  Ac rydych chi wedi gweld drostoch chi’ch hunain bopeth mae Jehofa eich Duw wedi ei wneud i’r holl genhedloedd hyn ar eich rhan. Yn wir, Jehofa eich Duw oedd yr un a oedd yn brwydro drostoch chi.  Edrychwch, rydw i wedi gyrru allan y bobl oedd yn byw rhwng yr Iorddonen a’r Môr Mawr* yn y gorllewin* ac wedi aseinio’r tir hwnnw i’ch llwythau drwy daflu coelbren. Mae ’na bobl eraill yn dal i fyw yn y wlad, ond mae’r tir yn perthyn i chi.  A Jehofa eich Duw oedd yr un wnaeth ddal ati i’w gwthio nhw i ffwrdd o’ch blaenau chi, a’u gyrru nhw allan ichi, a gwnaethoch chi gymryd meddiant o’u gwlad, yn union fel gwnaeth Jehofa eich Duw addo ichi.  “Nawr, mae’n rhaid ichi fod yn ddewr iawn i ufuddhau yn llwyr i bopeth sydd wedi ei ysgrifennu yn llyfr Cyfraith Moses drwy beidio byth â chrwydro oddi wrtho i’r dde nac i’r chwith,  drwy beidio byth â chymysgu â’r cenhedloedd hyn sydd ar ôl yn eich mysg. Peidiwch hyd yn oed â dweud enwau eu duwiau na thyngu llw yn eu henwau nhw, a pheidiwch byth â’u gwasanaethu nhw nac ymgrymu iddyn nhw.  Ond mae’n rhaid ichi lynu wrth Jehofa eich Duw, yn union fel rydych chi wedi gwneud hyd heddiw.  Bydd Jehofa yn gyrru cenhedloedd mawr a nerthol allan o’ch blaenau chi, oherwydd does neb wedi gallu sefyll yn eich erbyn chi hyd heddiw. 10  Bydd un ohonoch chi yn unig yn ddigon i drechu mil, oherwydd mae Jehofa eich Duw yn ymladd drostoch chi, yn union fel gwnaeth ef addo ichi. 11  Felly byddwch yn wyliadwrus drwy’r amser* drwy garu Jehofa eich Duw. 12  “Ond os byddwch chi’n troi yn ôl o gwbl ac yn glynu wrth weddill y cenhedloedd sydd yn dal i fod gyda chi, ac yn cymysgu â nhw, ac yn priodi eu meibion a’u merched, 13  gallwch chi fod yn sicr na fydd Jehofa eich Duw yn parhau i yrru’r cenhedloedd hyn allan ichi. Byddan nhw fel magl ichi ac fel chwip ar eich cefnau a drain yn eich llygaid nes byddwch chi wedi marw ac wedi diflannu o’r wlad dda hon mae Jehofa eich Duw wedi ei rhoi ichi. 14  “Nawr edrychwch! Rydw i ar fin marw,* ac rydych chi’n gwybod yn iawn â’ch holl galon ac â’ch holl enaid* nad oes yr un gair allan o’r holl addewidion da mae Jehofa eich Duw wedi eu gwneud ichi wedi methu. Maen nhw i gyd wedi dod yn wir ichi. Does ’na’r un gair ohonyn nhw wedi methu. 15  Ond yn union fel mae’r holl addewidion da mae Jehofa eich Duw wedi eu gwneud ichi wedi dod yn wir, felly hefyd bydd pob trychineb mae Jehofa wedi ei addo* yn dod arnoch chi a bydd ef yn cael gwared arnoch chi o’r wlad dda hon mae Jehofa eich Duw wedi ei rhoi ichi. 16  Os ydych chi’n torri cyfamod Jehofa eich Duw, yr un mae ef wedi gorchymyn ichi ei gadw, ac os ydych chi’n mynd i wasanaethu duwiau eraill ac yn ymgrymu iddyn nhw, yna bydd Jehofa yn gwylltio â chi ac yn cael gwared arnoch chi yn gyflym o’r wlad dda mae wedi ei rhoi ichi.”

Troednodiadau

Hynny yw, Môr y Canoldir.
Neu “i gyfeiriad y machlud.”
Neu “Felly gwyliwch eich eneidiau yn ofalus.”
Llyth., “Rydw i’n mynd heddiw yn ffordd yr holl ddaear.”
Gweler Geirfa.
Neu “yr holl eiriau drwg.”