Josua 24:1-33
24 Yna casglodd Josua holl lwythau Israel at ei gilydd yn Sechem, a galw henuriaid Israel, eu penaethiaid, eu barnwyr, a’u swyddogion, a dyma nhw’n sefyll o flaen y gwir Dduw.
2 Dywedodd Josua wrth y bobl i gyd: “Dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud, ‘Roedd eich cyndadau yn arfer byw ar ochr arall yr Afon* amser maith yn ôl—Tera tad Abraham a thad Nachor—ac roedden nhw’n arfer gwasanaethu duwiau eraill.
3 “‘Ymhen amser, gwnes i gymryd eich cyndad Abraham o ochr arall yr Afon,* a’i anfon drwy holl wlad Canaan a gwneud ei ddisgynyddion* yn niferus. Gwnes i roi Isaac iddo;
4 yna gwnes i roi Jacob ac Esau i Isaac. Yn hwyrach ymlaen, rhoddais Fynydd Seir i Esau, ac aeth Jacob a’i feibion i lawr i’r Aifft.
5 Yn nes ymlaen, anfonais Moses ac Aaron, a gwnes i daro’r Aifft â phlâu, ac yna des i â chi allan.
6 Pan oeddwn i’n dod â’ch tadau allan o’r Aifft, a daethon nhw at y môr, roedd yr Eifftiaid yn mynd ar ôl eich tadau gyda cherbydau rhyfel a marchogion mor bell â’r Môr Coch.
7 Dechreuon nhw alw ar Jehofa, felly rhoddais dywyllwch rhyngoch chi â’r Eifftiaid, a dod â’r môr drostyn nhw a’u gorchuddio nhw, a gwelsoch chi â’ch llygaid eich hunain beth wnes i yn yr Aifft. Yna, gwnaethoch chi fyw yn yr anialwch am lawer o flynyddoedd.*
8 “‘A des i â chi at wlad yr Amoriaid oedd yn byw ar ochr arall* yr Iorddonen, a gwnaethon nhw frwydro yn eich erbyn chi. Ond gwnes i eu rhoi nhw yn eich dwylo chi fel eich bod chi’n gallu meddiannu eu tir, a gwnes i eu dinistrio nhw o’ch blaenau chi.
9 Yna cododd Balac fab Sippor, brenin Moab, a brwydro yn erbyn Israel. Felly, galwodd ar Balaam fab Beor i’ch melltithio chi.
10 Ond gwrthodais wrando ar Balaam. Felly gwnaeth ef eich bendithio chi dro ar ôl tro, a gwnes i eich achub chi o’i law.
11 “‘Yna gwnaethoch chi groesi’r Iorddonen a dod i Jericho. A brwydrodd arweinwyr* Jericho, yr Amoriaid, y Peresiaid, y Canaaneaid, yr Hethiaid, y Girgasiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid yn eich erbyn chi, ond gwnes i eu rhoi nhw yn eich dwylo.
12 Felly gwnes i achosi iddyn nhw ddigalonni,* a dyna pam gwnaethon nhw ffoi oddi wrthoch chi—dau o frenhinoedd yr Amoriaid. Wnaethon nhw ddim ffoi oherwydd eich cleddyf nac oherwydd eich bwa.
13 Felly, rhoddais wlad ichi nad oeddech chi wedi gweithio amdani, a dinasoedd nad oeddech chi wedi eu hadeiladu, a gwnaethoch chi setlo ynddyn nhw. Rydych chi’n bwyta o winllannoedd a choed olewydd wnaethoch chi ddim eu plannu.’
14 “Felly, ofnwch Jehofa a’i wasanaethu’n ffyddlon* gyda chalon bur,* a chael gwared ar y duwiau roedd eich cyndadau yn eu gwasanaethu ar ochr arall yr Afon* ac yn yr Aifft, a gwasanaethwch Jehofa.
15 Nawr, os nad ydych chi eisiau gwasanaethu Jehofa, dewiswch drostoch chi’ch hunain heddiw pwy rydych chi am ei wasanaethu, un ai’r duwiau roedd eich cyndadau yn eu gwasanaethu ar ochr arall yr Afon,* neu dduwiau’r Amoriaid rydych chi’n byw yn eu tir nhw. Ond rydw i a fy nheulu yn mynd i wasanaethu Jehofa.”
16 Gyda hynny, atebodd y bobl: “Fydden ni ddim yn meiddio cefnu ar Jehofa a gwasanaethu duwiau eraill.
17 Jehofa ein Duw ddaeth â ni a’n tadau allan o wlad yr Aifft, allan o wlad ein caethiwed, ac ef a wnaeth arwyddion mawr o flaen ein llygaid a pharhau i’n gwarchod ni drwy gydol ein taith, a’n gwarchod ni rhag y bobl wrth inni fynd drwy eu tiriogaeth.
18 Gyrrodd Jehofa yr holl bobl allan, gan gynnwys yr Amoriaid oedd yn byw yn y wlad cyn i ni fyw yno. Felly, byddwn ninnau hefyd yn gwasanaethu Jehofa, oherwydd ef yw ein Duw.”
19 Yna dywedodd Josua wrth y bobl: “A fyddwch chi’n wir yn gallu gwasanaethu Jehofa? Oherwydd mae’n Dduw sanctaidd; mae’n Dduw sy’n mynnu eich bod chi’n ei addoli ef yn unig. Os na wnewch chi hynny, fydd ef ddim yn maddau eich troseddau* na’ch pechodau.
20 Os byddwch chi’n cefnu ar Jehofa ac yn gwasanaethu duwiau estron, bydd yntau yn cefnu arnoch chi, ac yn eich dinistrio chi, er ei fod wedi bod mor dda tuag atoch chi.”
21 Ond dywedodd y bobl wrth Josua: “Na, fe fyddwn ni’n gwasanaethu Jehofa!”
22 Felly dywedodd Josua wrth y bobl: “Rydych chi’n dystion yn erbyn chi’ch hunain eich bod chi wedi penderfynu drostoch chi’ch hunain i wasanaethu Jehofa.” I hynny, dywedon nhw: “Rydyn ni’n dystion.”
23 “Felly, taflwch y duwiau estron sydd yn eich plith i ffwrdd, a throwch at Jehofa, Duw Israel, â’ch holl galon.”
24 Dywedodd y bobl wrth Josua: “Fe fyddwn ni’n gwasanaethu Jehofa ein Duw, ac fe fyddwn ni’n ufuddhau iddo!”
25 Felly gwnaeth Josua gyfamod â’r bobl y diwrnod hwnnw, a sefydlodd gyfraith a deddf iddyn nhw yn Sechem.
26 Yna ysgrifennodd Josua y geiriau hyn yn llyfr Cyfraith Duw, a chymerodd garreg anferth a’i gosod o dan y goeden fawr sydd wrth ymyl cysegr Jehofa.
27 Aeth Josua ymlaen i ddweud wrth yr holl bobl: “Edrychwch! Bydd y garreg hon yn dyst ar ein cyfer ni, oherwydd mae wedi clywed popeth mae Jehofa wedi ei ddweud wrthon ni, a bydd yn dyst ar eich cyfer chi, fel na fyddwch chi’n gwadu eich Duw.”
28 Gyda hynny, anfonodd Josua y bobl i ffwrdd, pob un i’w etifeddiaeth.
29 Ar ôl hyn i gyd, bu farw Josua fab Nun, gwas Jehofa, yn 110 mlwydd oed.
30 Felly dyma nhw’n ei gladdu yn nhiriogaeth ei etifeddiaeth yn Timnath-sera, sydd yn ardal fynyddig Effraim, i’r gogledd o Fynydd Gaas.
31 Parhaodd Israel i wasanaethu Jehofa holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau’r henuriaid wnaeth fyw yn hirach na Josua ac a oedd wedi gweld popeth a wnaeth Jehofa dros Israel.
32 Cafodd esgyrn Joseff, y rhai roedd yr Israeliaid wedi dod gyda nhw allan o’r Aifft, eu claddu yn Sechem, yn y rhan o’r cae roedd Jacob wedi ei phrynu oddi wrth feibion Hamor, tad Sechem, am 100 darn o arian; a daeth hynny yn etifeddiaeth i feibion Joseff.
33 Hefyd, bu farw Eleasar fab Aaron. Felly gwnaethon nhw ei gladdu ym Mryn Phineas ei fab, oedd wedi cael ei roi iddo yn ardal fynyddig Effraim.
Troednodiadau
^ Hynny yw, Afon Ewffrates.
^ Hynny yw, Afon Ewffrates.
^ Llyth., “had.”
^ Llyth., “dyddiau.”
^ Hynny yw, yr ochr ddwyreiniol.
^ Neu efallai, “perchnogion tir.”
^ Neu efallai, “ofni; panicio.”
^ Llyth., “mewn gwirionedd.”
^ Neu “mewn ffordd ddidwyll.”
^ Hynny yw, Afon Ewffrates.
^ Hynny yw, Afon Ewffrates.
^ Neu “ichi am wrthryfela.”