Josua 3:1-17

  • Israel yn croesi’r Iorddonen (1-17)

3  Yna cododd Josua yn gynnar yn y bore, a gwnaeth ef a’r holl Israeliaid* adael Sittim a chyrraedd yr Iorddonen. Arhoson nhw yno dros nos cyn croesi drosodd.  Ar ôl tri diwrnod, dyma’r swyddogion yn mynd drwy’r gwersyll  ac yn rhoi’r gorchymyn hwn i’r bobl: “Cyn gynted ag yr ydych chi’n gweld arch cyfamod Jehofa eich Duw yn cael ei chario gan yr offeiriaid sy’n Lefiaid, dylech chi adael lle rydych chi a’i dilyn.  Ond cadwch bellter o tua 2,000 cufydd* oddi wrthi; peidiwch â dod fymryn yn agosach ati, er mwyn ichi wybod pa ffordd i fynd, oherwydd dydych chi ddim wedi teithio’r ffordd hon o’r blaen.”  Nawr dywedodd Josua wrth y bobl: “Sancteiddiwch eich hunain, oherwydd yfory bydd Jehofa yn gwneud pethau rhyfeddol yn eich mysg.”  Yna dywedodd Josua wrth yr offeiriaid: “Codwch arch y cyfamod ac arwain y bobl.” Felly dyma nhw’n codi arch y cyfamod ac yn mynd i’r tu blaen.  Yna dywedodd Jehofa wrth Josua: “Heddiw bydda i’n dechrau dy ddyrchafu di yng ngolwg Israel i gyd, er mwyn iddyn nhw wybod y bydda i gyda ti yn union fel roeddwn i gyda Moses.  Dylet ti roi’r gorchymyn hwn i’r offeiriaid sy’n cario arch y cyfamod: ‘Pan fyddwch chi’n cyrraedd glan yr Iorddonen, dylech chi fynd i mewn i’r dŵr a sefyll yn llonydd yn yr afon.’”  A dywedodd Josua wrth yr Israeliaid: “Dewch yma a gwrandewch ar eiriau Jehofa eich Duw.” 10  Yna dywedodd Josua: “Dyma sut byddwch chi’n gwybod bod ’na Dduw byw yn eich mysg, ac y bydd yn sicr o yrru allan o’ch blaenau y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Hefiaid, y Peresiaid, y Girgasiaid, yr Amoriaid, a’r Jebusiaid. 11  Edrychwch! Mae arch cyfamod Arglwydd y ddaear gyfan yn mynd o’ch blaenau i mewn i’r Iorddonen. 12  Nawr cymerwch 12 dyn o lwythau Israel, un dyn ar gyfer pob llwyth, 13  a chyn gynted ag y mae traed yr offeiriaid sy’n cario Arch Jehofa, Arglwydd y ddaear gyfan, yn cyffwrdd â* dŵr yr Iorddonen, bydd y dyfroedd sy’n llifo i lawr yr Iorddonen yn stopio ac yn sefyll yn llonydd fel wal.”* 14  Felly pan wnaeth y bobl adael eu gwersyll yn fuan cyn croesi’r Iorddonen, aeth yr offeiriaid a oedd yn cario arch y cyfamod o flaen y bobl. 15  (Mae’r Iorddonen yn gorlifo ei glannau holl ddyddiau’r cynhaeaf.) Ond cyn gynted ag y gwnaeth yr offeiriaid a oedd yn cario’r Arch gyrraedd yr Iorddonen a chamu i mewn i’r dŵr, 16  safodd y dyfroedd a oedd yn dod i lawr yr afon yn llonydd. Dyma nhw’n codi fel wal* yn bell i ffwrdd wrth Adam, y ddinas sy’n agos i Sarethan, wrth i’r dyfroedd a oedd yn mynd tuag at Fôr yr Araba, y Môr Marw, ddiflannu. Cafodd y dyfroedd eu stopio, a dyma’r bobl yn croesi gyferbyn â Jericho. 17  Tra oedd yr offeiriaid a oedd yn cario arch cyfamod Jehofa yn dal i sefyll yn stond ar dir sych yng nghanol yr Iorddonen, croesodd Israel i gyd drosodd ar dir sych nes bod y genedl gyfan wedi gorffen croesi’r Iorddonen.

Troednodiadau

Llyth., “a holl feibion Israel.”
Tua 890 m (2,920 tr).
Llyth., “gorffwys yn.”
Neu “argae.”
Neu “argae.”