Josua 4:1-24
-
Cerrig i atgoffa pobl Israel (1-24)
4 Cyn gynted ag yr oedd y genedl gyfan wedi croesi’r Iorddonen, dywedodd Jehofa wrth Josua:
2 “Cymera 12 dyn o blith y bobl, un dyn o bob llwyth,
3 a rho’r gorchymyn hwn iddyn nhw: ‘Cymerwch 12 carreg o ganol yr Iorddonen, o’r fan lle roedd yr offeiriaid yn sefyll yn llonydd, ac ewch â nhw gyda chi a’u gosod nhw lle byddwch chi’n aros dros nos.’”
4 Felly dyma Josua yn galw’r 12 dyn roedd ef wedi eu penodi o blith yr Israeliaid, un dyn o bob llwyth,
5 a dywedodd wrthyn nhw: “Ewch o flaen Arch Jehofa eich Duw i ganol yr Iorddonen, a dylai pob un ohonoch chi godi carreg ar ei ysgwydd, un garreg ar gyfer pob un o lwythau Israel,
6 i fod yn arwydd yn eich plith. Os bydd eich plant* yn gofyn ichi yn hwyrach ymlaen, ‘Pam gwnaethoch chi roi’r cerrig yma yn fan hyn?’
7 bydd rhaid ichi ddweud wrthyn nhw: ‘Oherwydd cafodd dyfroedd yr Iorddonen eu stopio o flaen arch cyfamod Jehofa. Pan wnaeth yr Arch groesi’r Iorddonen, cafodd dyfroedd yr Iorddonen eu stopio. Bydd y cerrig hyn yn wastad yn atgoffa pobl Israel o beth ddigwyddodd.’”
8 Felly dyma’r Israeliaid yn gwneud yn union beth roedd Josua wedi ei orchymyn. Cymeron nhw 12 carreg o ganol yr Iorddonen, un i bob un o lwythau Israel, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Josua. Aethon nhw â’r cerrig draw i’r fan lle bydden nhw’n aros dros nos a’u gosod nhw i lawr yno.
9 Hefyd gosododd Josua 12 carreg yng nghanol yr Iorddonen yn y fan lle roedd yr offeiriaid a oedd yn cario arch y cyfamod wedi sefyll, ac mae’r cerrig yno hyd heddiw.
10 Safodd yr offeiriaid a oedd yn cario’r Arch yng nghanol yr Iorddonen, nes i’r bobl gwblhau popeth roedd Josua wedi gofyn iddyn nhw ei wneud ar orchymyn Jehofa. Roedden nhw wedi gwneud yn union beth roedd Moses wedi ei orchymyn i Josua. Yn y cyfamser, roedd y bobl yn rhuthro drosodd.
11 Unwaith i’r bobl i gyd groesi, gwnaethon nhw wylio’r offeiriaid yn cario Arch Jehofa drosodd.
12 Ac roedd llwyth Reuben, Gad, a hanner llwyth Manasse wedi croesi’r afon cyn yr Israeliaid eraill yn barod i frwydro, yn union fel roedd Moses wedi gorchymyn iddyn nhw.
13 Gwnaeth tua 40,000 o filwyr a oedd yn barod i frwydro groesi drosodd i anialwch Jericho, ac roedd Jehofa gyda nhw.
14 Y diwrnod hwnnw gwnaeth Jehofa ddyrchafu Josua yng ngolwg Israel gyfan, ac roedd ganddyn nhw barch mawr tuag ato* am weddill ei fywyd, yn union fel roedd ganddyn nhw barch mawr tuag at Moses.
15 Yna dywedodd Jehofa wrth Josua:
16 “Gorchmynna i’r offeiriaid sy’n cario arch y Dystiolaeth ddod allan o’r Iorddonen.”
17 Felly gorchmynnodd Josua i’r offeiriaid: “Dewch allan o’r Iorddonen.”
18 A phan ddaeth yr offeiriaid a oedd yn cario arch cyfamod Jehofa allan o ganol yr Iorddonen a chamu ar lan yr afon, dechreuodd dyfroedd yr Iorddonen lifo eto a gorlifo ei glannau fel o’r blaen.
19 Croesodd y bobl yr Iorddonen ar ddegfed diwrnod y mis cyntaf a gwersylla yn Gilgal ar ffin ddwyreiniol Jericho.
20 Ynglŷn â’r 12 carreg roedden nhw wedi eu cymryd allan o’r Iorddonen, gwnaeth Josua eu gosod nhw yn Gilgal.
21 Yna dywedodd wrth yr Israeliaid: “Yn y dyfodol pan fydd eich plant yn gofyn i’w tadau, ‘Beth mae’r cerrig hyn yn ei olygu?’
22 rhaid ichi esbonio i’ch plant: ‘Gwnaeth Israel groesi’r Iorddonen ar dir sych
23 pan sychodd Jehofa eich Duw ddyfroedd yr Iorddonen o’u blaenau nhw nes eu bod nhw wedi ei chroesi, yn union fel gwnaeth Jehofa eich Duw sychu’r Môr Coch o’n blaenau ni nes ein bod ni wedi ei groesi.
24 Gwnaeth ef hyn er mwyn i holl bobloedd y ddaear wybod pa mor gryf ydy llaw Jehofa ac er mwyn ichi ofni Jehofa eich Duw bob amser.’”