Josua 5:1-15

  • Enwaedu yn Gilgal (1-9)

  • Dathlu’r Pasg; manna yn stopio (10-12)

  • Tywysog byddin Jehofa (13-15)

5  Felly roedd Jehofa wedi sychu dŵr yr Iorddonen o flaen yr Israeliaid nes eu bod nhw wedi ei chroesi. Unwaith i holl frenhinoedd yr Amoriaid oedd ar ochr orllewinol* yr Iorddonen, a holl frenhinoedd y Canaaneaid oedd wrth ymyl y môr, glywed am hyn, suddodd eu calonnau nhw, a chollon nhw bob hyder oherwydd yr Israeliaid.  Bryd hynny dywedodd Jehofa wrth Josua: “Gwna gyllyll o garreg fflint i ti dy hun ac enwaedu dynion Israel eto am yr ail dro.”  Felly dyma Josua yn gwneud cyllyll fflint ac yn enwaedu dynion Israel yn Gibeath-araloth.*  Dyma pam gwnaeth Josua eu henwaedu nhw: Roedd yr holl ddynion ymhlith y bobl a wnaeth adael yr Aifft, hynny yw y dynion a oedd yn ddigon hen i ryfela, wedi marw ar y daith drwy’r anialwch ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft.  Roedd yr holl bobl wnaeth adael yr Aifft wedi cael eu henwaedu, ond doedd yr holl bobl gafodd eu geni ar y daith drwy’r anialwch ar ôl iddyn nhw adael yr Aifft ddim wedi cael eu henwaedu.  Roedd yr Israeliaid wedi cerdded yn yr anialwch am 40 mlynedd nes bod y genedl gyfan wedi marw, hynny yw, y dynion wnaeth adael yr Aifft ac a oedd yn ddigon hen i ryfela. Dyma’r rhai oedd yn anufudd i Jehofa, y rhai dywedodd Jehofa ar lw na fyddai’n gadael iddyn nhw weld y wlad roedd Jehofa wedi addo i’n cyndadau y byddai’n ei rhoi inni, gwlad sy’n llifo â llaeth a mêl.  Felly aeth eu meibion yn eu lle. Dyma’r rhai gwnaeth Josua eu henwaedu oherwydd doedden nhw ddim wedi cael eu henwaedu yn ystod y daith.  Unwaith iddyn nhw orffen enwaedu’r genedl gyfan, arhoson nhw lle roedden nhw yn y gwersyll nes bod y dynion wedi gwella.  Yna, dywedodd Jehofa wrth Josua: “Heddiw, rydw i wedi cymryd* sarhad* yr Aifft oddi wrthoch chi.” Felly mae’r fan honno wedi cael ei galw’n Gilgal* hyd heddiw. 10  Parhaodd yr Israeliaid i wersylla yn Gilgal, a dathlu’r Pasg gyda’r nos ar y pedwerydd diwrnod ar ddeg o’r mis, yn anialwch Jericho. 11  Y diwrnod ar ôl y Pasg, dechreuon nhw fwyta cynnyrch y tir. Ar y diwrnod hwnnw, gwnaethon nhw fwyta bara croyw a grawn wedi ei rostio.* 12  Stopiodd y manna ar y diwrnod pan wnaethon nhw fwyta ychydig o gynnyrch y tir; doedd ’na ddim manna i’r Israeliaid mwyach, ond dechreuon nhw fwyta cynnyrch gwlad Canaan y flwyddyn honno. 13  Pan oedd Josua wrth ymyl Jericho, edrychodd i fyny a gweld dyn yn sefyll o’i flaen gyda chleddyf yn ei law. Cerddodd Josua ato a gofyn: “Wyt ti ar ein hochr ni neu ar ochr ein gelynion?” 14  I hynny dywedodd: “Na, rydw i wedi dod fel tywysog* byddin Jehofa.” Gyda hynny, ymgrymodd Josua â’i wyneb ar y llawr, a dweud wrtho: “Beth sydd gan fy arglwydd i’w ddweud wrth ei was?” 15  Gwnaeth tywysog byddin Jehofa ateb Josua: “Tynna dy sandalau oherwydd mae’r fan lle rwyt ti’n sefyll yn sanctaidd.” Felly dyna wnaeth Josua ar unwaith.

Troednodiadau

Llyth., “yr ochr agosaf at y môr.”
Sy’n golygu “Bryn y Blaengrwyn.”
Neu “rholio.”
Neu “cywilydd; gwarth.”
Sy’n golygu “Rholio; Rholio i Ffwrdd.”
Neu “ei grasu.”
Neu “pennaeth.”