Josua 7:1-26
7 Ond roedd yr Israeliaid yn anffyddlon ynglŷn â beth oedd i fod i gael ei ddinistrio, oherwydd roedd Achan, mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda, wedi cymryd ychydig o’r pethau oedd i fod i gael eu dinistrio. Felly, roedd dicter Jehofa yn erbyn yr Israeliaid yn danbaid.
2 Yna anfonodd Josua ddynion o Jericho i Ai, sy’n agos i Beth-afen ac i’r dwyrain o Fethel, gan ddweud wrthyn nhw: “Ewch i ysbïo’r wlad.” Felly aeth y dynion i ysbïo ar Ai.
3 Pan aethon nhw yn ôl at Josua, dywedon nhw wrtho: “Does dim angen anfon y fyddin gyfan. Bydd tua dwy neu dair mil o ddynion yn ddigon i drechu Ai. Paid â blino’r milwyr i gyd drwy wneud iddyn nhw fynd, oherwydd dim ond ychydig sy’n byw yno.”
4 Felly aeth tua 3,000 o ddynion yno, ond roedd rhaid iddyn nhw ffoi oddi wrth ddynion Ai.
5 Bu farw 36 o Israeliaid; roedd dynion Ai wedi mynd ar eu holau nhw i lawr y bryn o’r tu allan i giât y ddinas, mor bell â Sebarim.* Gwnaethon nhw eu lladd nhw ar hyd y ffordd. Felly dyma ddewrder* pobl Israel yn toddi ac yn llifo i ffwrdd fel dŵr.
6 Ar hynny, rhwygodd Josua ei ddillad a syrthio ar ei wyneb ar lawr o flaen Arch Jehofa nes iddi nosi, ef a henuriaid Israel, ac roedden nhw’n taflu llwch ar eu pennau.
7 Dywedodd Josua: “O Sofran Arglwydd Jehofa, pam gwnest ti ddod â’r genedl hon yr holl ffordd ar draws yr Iorddonen dim ond i’n rhoi ni yn nwylo’r Amoriaid i gael ein dinistrio? O na fydden ni wedi bod yn ddigon bodlon aros ar ochr arall* yr Iorddonen!
8 Plîs, O Jehofa, beth alla i ei ddweud nawr bod pobl Israel wedi cilio’n ôl oddi wrth* eu gelynion?
9 Pan fydd y Canaaneaid a phawb arall sy’n byw yn y wlad yn clywed am y peth, byddan nhw’n ein hamgylchynu ni, ac yn dileu ein henwau oddi ar y ddaear, a beth byddi di’n ei wneud am dy enw mawr di?”
10 Dyma Jehofa’n ateb Josua: “Cod! Pam rwyt ti wedi mynd ar dy wyneb ar lawr?
11 Mae Israel wedi pechu. Maen nhw wedi torri’r cyfamod gwnes i orchymyn iddyn nhw ei gadw. Cymeron nhw rai o’r pethau oedd i fod i gael eu dinistrio, gan eu dwyn a’u cuddio ymysg eu heiddo eu hunain.
12 Felly fydd yr Israeliaid ddim yn gallu sefyll yn erbyn eu gelynion. Byddan nhw’n troi eu cefnau ac yn ffoi oddi wrth eu gelynion oherwydd maen nhw wedi eu condemnio eu hunain i gael eu dinistrio. Fydda i ddim gyda chi eto oni bai eich bod chi’n dinistrio’r hyn oedd i fod i gael ei ddinistrio.
13 Cod a sancteiddia’r bobl! Dyweda wrthyn nhw, ‘Sancteiddiwch eich hunain ar gyfer yfory, oherwydd dyma mae Jehofa, Duw Israel, yn ei ddweud: “Mae ’na rywbeth sydd i fod i gael ei ddinistrio yn eich plith, O Israel. Fyddwch chi ddim yn gallu sefyll yn erbyn eich gelynion nes ichi ddinistrio’r hyn sydd i fod i gael ei ddinistrio.
14 Mae’n rhaid ichi fynd o flaen Duw yn y bore fesul llwyth, a bydd y llwyth mae Jehofa’n ei ddewis yn camu ymlaen fesul teulu, a bydd y teulu mae Jehofa’n ei ddewis yn camu ymlaen fesul tŷ, a bydd y tŷ mae Jehofa’n ei ddewis yn camu ymlaen fesul dyn.
15 A bydd yr un sy’n cael ei ddal gyda’r hyn oedd i fod i gael ei ddinistrio yn cael ei losgi â thân,* ef a phopeth sy’n perthyn iddo, am ei fod wedi torri cyfamod Jehofa ac am ei fod wedi gwneud rhywbeth gwarthus yn Israel.”’”
16 Felly cododd Josua yn gynnar y bore wedyn a gorchymyn i Israel gamu ymlaen fesul llwyth, a chafodd llwyth Jwda ei ddewis.
17 Gorchmynnodd i deuluoedd Jwda gamu ymlaen a chafodd teulu Sera ei ddewis, ar ôl hynny, gorchmynnodd i deulu Sera gamu ymlaen fesul dyn, a chafodd Sabdi ei ddewis.
18 Yn olaf, gorchmynnodd i dŷ Sabdi gamu ymlaen fesul dyn, a chafodd Achan, mab Carmi, mab Sabdi, mab Sera, o lwyth Jwda, ei ddewis.
19 Yna dywedodd Josua wrth Achan: “Fy mab, plîs, anrhydedda Jehofa, Duw Israel, a chyfaddef dy bechod iddo. Plîs, dyweda wrtho i beth rwyt ti wedi ei wneud. Paid â’i guddio oddi wrtho i.”
20 Dyma Achan yn ateb Josua: “Mae’n ffaith, fi ydy’r un wnaeth bechu yn erbyn Jehofa, Duw Israel, a dyma beth rydw i wedi ei wneud.
21 Pan welais ddilledyn crand o Sinar, 200 sicl* o arian, ac un bar o aur oedd yn pwyso 50 sicl yng nghanol yr ysbail, roeddwn i eisiau nhw,* felly gwnes i eu cymryd nhw. Bellach maen nhw wedi eu claddu o dan fy mhabell, gyda’r aur a’r arian o dan y dilledyn.”
22 Anfonodd Josua negeswyr ar unwaith, a dyma nhw’n rhedeg at y babell, a dyna lle roedd y dilledyn wedi ei guddio yn ei babell, gyda’r aur a’r arian oddi tano.
23 Felly dyma nhw’n dod â’r pethau allan o’r babell ac yn mynd â nhw at Josua a’r holl Israeliaid ac yn eu rhoi nhw o flaen Jehofa.
24 Yna, gwnaeth Josua a holl Israel gydag ef gymryd Achan fab Sera, yr arian, y dilledyn crand, a’r bar o aur, yn ogystal â meibion Achan, ei ferched, ei darw, ei asyn, ei braidd, ei babell, a phopeth oedd yn perthyn iddo, a mynd â nhw i gyd i Ddyffryn* Achor.
25 Dywedodd Josua: “Pam rwyt ti wedi dod â thrychineb* arnon ni? Bydd Jehofa yn dod â thrychineb arnat ti heddiw.” A gyda hynny, dyma Israel i gyd yn ei labyddio ef a’i deulu, cyn eu llosgi nhw â thân. Dyna sut gwnaethon nhw eu lladd nhw â cherrig.
26 Yna codon nhw bentwr mawr o gerrig drosto sy’n dal yno hyd heddiw. Gyda hynny, tawelodd dicter tanbaid Jehofa. Dyna pam mai enw’r lle yw Dyffryn Achor* hyd heddiw.
Troednodiadau
^ Sy’n golygu “Chwareli.”
^ Llyth., “calon.”
^ Hynny yw, yr ochr ddwyreiniol.
^ Neu “troi eu cefnau ar.”
^ Hynny yw, yn cael ei ladd ac yna’n cael ei losgi.
^ Roedd sicl yn gyfartal ag 11.4 g (0.367 oz t).
^ Neu “yn dyheu amdanyn nhw.”
^ Neu “Gwastatir Isel.”
^ Neu “â thrwbl; ag alltudiaeth.”
^ Sy’n golygu “Trychineb; Alltudiaeth.”