Josua 8:1-35

  • Josua yn gosod milwyr i ymosod ar Ai (1-13)

  • Ai yn cael ei chipio yn llwyddiannus (14-29)

  • Y Gyfraith yn cael ei darllen wrth Fynydd Ebal (30-35)

8  Yna dywedodd Jehofa wrth Josua: “Paid ag ofni na dychryn. Cymera’r holl filwyr gyda ti a dos i fyny yn erbyn Ai. Edrycha, rydw i wedi rhoi brenin Ai, ei bobl, ei ddinas, a’i dir yn dy ddwylo di.  Gwna’r un fath i Ai a’i brenin ag y gwnest ti i Jericho a’i brenin, ond cewch chi gymryd ei hysbail a’i hanifeiliaid i chi’ch hunain. Gorchmynna i filwyr guddio y tu cefn i’r ddinas yn barod i ymosod.”  Felly aeth Josua a’r holl filwyr i fyny yn erbyn Ai. Dewisodd Josua 30,000 o filwyr cryf a’u hanfon nhw allan yn y nos.  Rhoddodd y gorchymyn hwn iddyn nhw: “Rhaid ichi guddio y tu ôl i’r ddinas yn barod i ymosod. Peidiwch â mynd ymhell o’r ddinas, a byddwch yn barod, bob un ohonoch chi.  Bydda i a’r holl filwyr gyda mi yn symud tuag at y ddinas, a phan fyddan nhw’n dod allan yn ein herbyn ni fel o’r blaen, byddwn ni’n cilio’n ôl oddi wrthyn nhw.  Pan fyddan nhw’n dod allan ar ein holau ni, byddwn ni’n eu denu nhw oddi wrth y ddinas, oherwydd byddan nhw’n dweud, ‘Maen nhw’n cilio’n ôl oddi wrthon ni fel o’r blaen.’ A byddwn ni’n cilio’n ôl oddi wrthyn nhw.  Yna dylech chi sy’n cuddio ymosod ar y ddinas a’i chipio; bydd Jehofa eich Duw yn ei rhoi hi yn eich dwylo.  Cyn gynted ag yr ydych chi wedi cipio’r ddinas, dylech chi ei rhoi ar dân. Dylech chi wneud fel mae Jehofa wedi dweud. Dyna fy ngorchmynion i chi.”  Yna gwnaeth Josua eu hanfon nhw allan, a dyma nhw’n martsio* i le roedden nhw am guddio yn barod i ymosod, rhwng Bethel ac Ai, i’r gorllewin o Ai, tra arhosodd Josua gyda gweddill y milwyr dros nos. 10  Ar ôl i Josua godi’n gynnar yn y bore a chasglu’r milwyr at ei gilydd, gwnaeth ef a henuriaid Israel eu harwain nhw i Ai. 11  Dyma’r holl filwyr oedd gydag ef yn martsio tuag at flaen y ddinas. Gwnaethon nhw wersylla i’r gogledd o Ai, gyda’r dyffryn rhyngddyn nhw ac Ai. 12  Yn y cyfamser, roedd ef wedi cymryd tua 5,000 o ddynion ac wedi gorchymyn iddyn nhw guddio rhwng Bethel ac Ai, i’r gorllewin o’r ddinas, yn barod i ymosod. 13  Felly dyma’r mwyafrif o’r milwyr yn gwersylla i’r gogledd o’r ddinas a gweddill y fyddin i’r gorllewin o’r ddinas. Ac ar y noson honno aeth Josua i ganol y dyffryn.* 14  Cyn gynted ag y gwelodd brenin Ai hyn, rhuthrodd ef a dynion y ddinas allan yn gynnar yn y bore i frwydro yn erbyn Israel mewn lle penodol oedd yn edrych dros yr anialwch. Ond doedd ef ddim yn gwybod bod ’na filwyr y tu cefn i’r ddinas yn barod i ymosod arno. 15  Unwaith i ddynion Ai ymosod, gwnaeth Josua a’r holl Israeliaid oedd gydag ef ffoi ar hyd y ffordd i gyfeiriad yr anialwch. 16  Yna, dyma weddill y dynion oedd yn y ddinas yn cael eu galw allan i fynd ar eu holau; ac wrth iddyn nhw fynd ar ôl Josua, cawson nhw eu denu oddi wrth y ddinas. 17  Doedd ’na’r un dyn ar ôl yn Ai na Bethel wnaeth ddim mynd allan ar ôl Israel. Gadawon nhw’r ddinas yn lled agored a mynd ar ôl Israel. 18  Nawr dywedodd Jehofa wrth Josua: “Estynna’r waywffon sydd yn dy law i gyfeiriad Ai, oherwydd bydda i’n ei rhoi yn dy ddwylo.” Felly estynnodd Josua y waywffon oedd yn ei law i gyfeiriad y ddinas. 19  Y foment estynnodd ei law, gwnaeth y rhai a oedd yn cuddio godi yn gyflym a rhedeg i mewn i’r ddinas a’i chipio. Ar unwaith dyma nhw’n rhoi’r ddinas ar dân. 20  Pan edrychodd dynion Ai yn ôl, gwelson nhw fwg y ddinas yn codi i’r awyr, a doedd ganddyn nhw ddim nerth i ffoi i unrhyw gyfeiriad. Yna gwnaeth yr Israeliaid oedd wedi bod yn ffoi tuag at yr anialwch droi ar y rhai oedd wedi bod yn rhedeg ar eu holau. 21  Pan welodd Josua a’r holl Israeliaid gydag ef fod y rhai oedd wedi bod yn cuddio wedi cipio’r ddinas, a gweld mwg y ddinas yn codi, dyma nhw’n troi ar eu sodlau ac yn ymosod ar ddynion Ai. 22  A daeth y rhai oedd wedi cipio’r ddinas allan i’w cyfarfod nhw, fel bod dynion Ai wedi eu dal yn y canol, gyda rhai Israeliaid ar yr ochr hon ac eraill ar yr ochr draw, a lladdodd yr Israeliaid nhw i gyd; wnaeth neb oroesi na dianc. 23  Ond gwnaethon nhw ddal brenin Ai yn fyw a mynd ag ef o flaen Josua. 24  Ar ôl i Israel orffen lladd holl bobl Ai â’r cleddyf yn yr anialwch lle roedden nhw wedi dod ar eu holau nhw, aeth holl Israel yn ôl i Ai a’i tharo â’r cleddyf. 25  Cafodd 12,000 o bobl eu lladd y diwrnod hwnnw, dynion a merched,* holl boblogaeth Ai. 26  Wnaeth Josua ddim gostwng y llaw oedd yn dal y waywffon nes bod pawb yn Ai wedi cael eu dinistrio’n llwyr. 27  Ond cymerodd Israel anifeiliaid ac ysbail y ddinas honno iddyn nhw eu hunain, yn ôl y gorchmynion roedd Jehofa wedi eu rhoi i Josua. 28  Yna gwnaeth Josua losgi Ai nes ei bod hi’n bentwr o gerrig, ac felly mae hi hyd heddiw. 29  Rhoddodd gorff brenin Ai i hongian ar stanc* nes iddi nosi, a phan oedd yr haul ar fin machlud, rhoddodd Josua y gorchymyn i gymryd ei gorff i lawr oddi ar y stanc. Yna gwnaethon nhw ei daflu wrth fynedfa giât y ddinas a chodi pentwr mawr o gerrig drosto, sydd yno hyd heddiw. 30  Dyna pryd cododd Josua allor i Jehofa, Duw Israel, ar Fynydd Ebal, 31  yn union fel roedd Moses gwas Jehofa wedi gorchymyn i’r Israeliaid, ac fel sydd wedi cael ei ysgrifennu yn llyfr Cyfraith Moses: “Allor o gerrig cyfan sydd heb gael eu torri â haearn.” Gwnaethon nhw gyflwyno offrymau llosg i Jehofa arni yn ogystal ag aberthau heddwch. 32  Yna ysgrifennodd ar y cerrig gopi o’r Gyfraith roedd Moses wedi ei hysgrifennu o flaen yr Israeliaid. 33  Roedd yr Israeliaid i gyd, eu henuriaid, y swyddogion, a’u barnwyr yn sefyll ar ddwy ochr yr Arch o flaen yr offeiriaid a oedd yn Lefiaid ac a oedd yn cario arch cyfamod Jehofa. Roedd yr estroniaid yno yn ogystal â’r brodorion. Safodd hanner ohonyn nhw o flaen Mynydd Gerisim a’r hanner arall o flaen Mynydd Ebal (yn union fel roedd Moses gwas Jehofa wedi gorchymyn ynghynt), er mwyn bendithio pobl Israel. 34  Ar ôl hynny, darllenodd holl eiriau’r Gyfraith yn uchel, y bendithion a’r melltithion, yn union fel maen nhw wedi cael eu hysgrifennu yn llyfr y Gyfraith. 35  Doedd ’na’r un gair o bopeth roedd Moses wedi ei orchymyn wnaeth Josua ddim ei ddarllen yn uchel o flaen holl gynulleidfa Israel, gan gynnwys y merched,* y plant, a’r estroniaid a oedd yn byw* yn eu plith.

Troednodiadau

Neu “gorymdeithio.”
Neu “gwastatir isel.”
Neu “menywod.”
Neu “ar goeden.”
Neu “menywod.”
Llyth., “cerdded.”