Josua 9:1-27
9 Pan glywodd yr holl frenhinoedd oedd ar ochr orllewinol yr Iorddonen beth oedd wedi digwydd, hynny yw, y rhai yn yr ardal fynyddig, yn y Seffela, ar hyd arfordir gyfan y Môr Mawr,* ac o flaen Lebanon—yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Canaaneaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid—
2 gwnaethon nhw ffurfio cynghrair i frwydro yn erbyn Josua ac Israel.
3 Roedd pobl Gibeon hefyd wedi clywed beth roedd Josua wedi ei wneud i Jericho ac Ai.
4 Felly dyma nhw’n ymddwyn yn graff a rhoi bwyd i mewn i hen sachau ar gefnau eu hasynnod gyda hen grwyn gwin oedd wedi byrstio ac wedi cael eu trwsio;
5 roedden nhw hefyd yn gwisgo hen sandalau blêr am eu traed, ac yn gwisgo dillad carpiog. Roedd yr holl fara oedd ganddyn nhw yn sych ac yn troi’n friwsion.
6 Yna, aethon nhw at Josua yng ngwersyll Gilgal, a dweud wrtho ef a dynion Israel: “Rydyn ni wedi dod o wlad bell. Felly plîs gwnewch gyfamod â ni.”
7 Ond dywedodd dynion Israel wrth yr Hefiaid: “Efallai eich bod chi’n byw yn agos aton ni. Felly sut gallwn ni wneud cyfamod â chi?”
8 Dyma nhw’n ateb Josua: “Dy weision di ydyn ni.”
Yna dywedodd Josua wrthyn nhw: “Pwy ydych chi, ac o le rydych chi’n dod?”
9 Gyda hynny, dywedon nhw wrtho: “Mae dy weision wedi dod o wlad bell iawn allan o barch at enw Jehofa dy Dduw, oherwydd rydyn ni wedi clywed sôn amdano a phopeth wnaeth ef yn yr Aifft
10 ac am bopeth wnaeth ef i ddau frenin yr Amoriaid oedd ar ochr arall* yr Iorddonen—Sihon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, oedd yn Astaroth.
11 Felly dyma ein henuriaid a phawb sy’n byw yn ein gwlad yn dweud wrthon ni, ‘Ewch â bwyd gyda chi ar gyfer y daith ac ewch i’w cyfarfod nhw. Dywedwch wrthyn nhw: “Byddwn ni’n weision ichi; felly plîs gwnewch gyfamod â ni.”’
12 Roedd y bara hwn rydyn ni wedi dod gyda ni yn dal yn boeth ar y diwrnod gadawon ni ein tai i ddod yma atoch chi. Ond fel rydych chi’n gweld, mae’n sych ac yn troi’n friwsion bellach.
13 Ac roedd y crwyn gwin hyn yn newydd pan wnaethon ni eu llenwi, ond bellach maen nhw wedi byrstio. Ac mae ein dillad a’n sandalau wedi gwisgo* am fod y daith wedi bod mor hir.”
14 A gyda hynny, cymerodd dynion Israel ychydig o’u bwyd i gael edrych yn agosach arno, ond wnaethon nhw ddim gofyn i Jehofa beth dylen nhw ei wneud.
15 Felly gwnaeth Josua gytundeb heddwch â nhw, a chyfamod â nhw i adael iddyn nhw fyw, a dyna beth gwnaeth penaethiaid y gynulleidfa ei addo iddyn nhw ar lw.
16 Dri diwrnod wedyn, ar ôl iddyn nhw wneud cyfamod â nhw, clywodd yr Israeliaid eu bod nhw’n byw yn agos, yn eu hardal nhw.
17 Yna, aeth yr Israeliaid allan a chyrraedd eu dinasoedd ar y trydydd diwrnod; Gibeon, Ceffira, Beeroth, a Ciriath-jearim oedd eu dinasoedd.
18 Ond wnaeth yr Israeliaid ddim ymosod arnyn nhw, am fod penaethiaid y gynulleidfa wedi mynd ar eu llw ac wedi addo yn enw Jehofa, Duw Israel, y byddan nhw’n cael byw. Felly dechreuodd y gynulleidfa gyfan gwyno* am y penaethiaid.
19 Gyda hynny, dywedodd y penaethiaid i gyd wrth y gynulleidfa gyfan: “Gan ein bod ni wedi gwneud addewid yn enw Jehofa, Duw Israel, chawn ni ddim eu brifo nhw.
20 Dyma beth wnawn ni: Gwnawn ni adael iddyn nhw fyw, fel na fydd dicter Duw yn dod yn ein herbyn oherwydd y llw gwnaethon ni ei dyngu.”
21 Ac ychwanegodd y penaethiaid: “Gadewch iddyn nhw fyw, ond gadewch iddyn nhw fod yn gasglwyr pren a chasglwyr dŵr ar gyfer y gynulleidfa gyfan.” Dyna beth wnaeth y penaethiaid ei addo iddyn nhw.
22 Nawr dyma Josua yn eu galw nhw ac yn dweud: “Pam gwnaethoch chi ein twyllo ni drwy ddweud, ‘Rydyn ni’n dod o rywle pell i ffwrdd,’ pan ydych chi mewn gwirionedd yn byw wrth ein hymyl ni?
23 O hyn ymlaen rydych chi wedi eich melltithio, a byddwch chi’n wastad yn gaethweision yn casglu pren ac yn casglu dŵr ar gyfer tŷ fy Nuw.”
24 Dyma nhw’n ateb Josua: “Gwnaethon ni hyn oherwydd roedden ni, eich gweision, wedi clywed yr holl sôn bod Jehofa eich Duw wedi gorchymyn i Moses ei was roi’r wlad gyfan ichi, ac i ddinistrio pawb a oedd yn byw ynddi o’ch blaenau chi. Felly, roedd gynnon ni ofn am ein bywydau* o’ch herwydd chi, a dyna pam gwnaethon ni hyn.
25 Nawr rydyn ni yn dy ddwylo di. Gwna inni beth bynnag rwyt ti’n meddwl sy’n dda ac sy’n iawn.”
26 A dyna beth wnaeth ef gyda nhw; achubodd Josua nhw o ddwylo’r Israeliaid, ac ni wnaethon nhw eu lladd nhw.
27 Ond y diwrnod hwnnw, dyma Josua yn eu gwneud nhw’n gasglwyr pren ac yn gasglwyr dŵr ar gyfer y gynulleidfa, ac ar gyfer allor Jehofa yn y fan y byddai Ef yn ei dewis, a dyna maen nhw’n ei wneud hyd heddiw.
Troednodiadau
^ Hynny yw, Môr y Canoldir.
^ Hynny yw, yr ochr ddwyreiniol.
^ Neu “treulio.”
^ Neu “dechreuodd y gynulleidfa gyfan rwgnach.”
^ Neu “ein heneidiau.”