Yn Ôl Luc 13:1-35
13 Yr adeg honno, roedd rhai yn bresennol a wnaeth adrodd wrtho fod Peilat wedi lladd y Galileaid a oedd yn offrymu aberthau.
2 Atebodd yntau: “Ydych chi’n meddwl bod y Galileaid hynny yn waeth pechaduriaid na’r holl Galileaid eraill oherwydd eu bod nhw wedi dioddef y pethau hyn?
3 Nac ydyn, medda i wrthoch chi; ond os nad ydych chi’n edifarhau, fe fyddwch chi i gyd yn cael eich dinistrio yn yr un modd.
4 Neu’r 18 hynny y syrthiodd tŵr Siloam arnyn nhw a’u lladd nhw—ydych chi’n meddwl roedden nhw’n fwy euog na’r holl ddynion eraill sy’n byw yn Jerwsalem?
5 Nac oedden, medda i wrthoch chi; ond os nad ydych chi’n edifarhau, fe fyddwch chi i gyd yn cael eich dinistrio, fel y cawson nhw eu dinistrio.”
6 Yna dechreuodd adrodd y ddameg hon: “Roedd gan ddyn goeden ffigys wedi ei phlannu yn ei winllan, a daeth i chwilio am ffrwyth arni ond ni ddaeth o hyd i unrhyw beth.
7 Yna dywedodd wrth y gweithiwr yn y winllan, ‘Ers tair blynedd rydw i wedi bod yn chwilio am ffrwyth ar y goeden ffigys hon, ond heb gael dim. Torra hi i lawr! Pam dylai hi wastraffu tir da?’
8 Atebodd drwy ddweud wrtho, ‘Feistr, gad iddi fod am un flwyddyn arall hyd nes imi balu o’i chwmpas hi a’i gwrteithio hi.
9 Os ydy hi’n cynhyrchu ffrwyth yn y dyfodol, popeth yn iawn; ond os ddim, torra hi i lawr.’”
10 Nawr, roedd yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Saboth.
11 Ac edrycha! roedd ’na ddynes* ag ysbryd ynddi a oedd wedi ei gwneud hi’n anabl* am 18 mlynedd; ac roedd ei chefn hi wedi crymu a doedd hi ddim yn gallu sythu o gwbl.
12 Pan welodd Iesu hi, dyma’n ei chyfarch hi a dweud: “Ddynes,* rwyt ti wedi cael dy ryddhau oddi wrth dy anabledd.”
13 A rhoddodd ei ddwylo arni, ac ar unwaith fe sythodd hi a dechrau gogoneddu Duw.
14 Ond roedd arweinydd y synagog yn ddig iawn oherwydd bod Iesu wedi iacháu ar y Saboth, a dywedodd wrth y dyrfa: “Mae ’na chwe diwrnod ar gyfer gweithio; felly dewch i gael eich iacháu ar un o’r dyddiau hynny, ond nid ar ddydd y Saboth.”
15 Fodd bynnag, atebodd yr Arglwydd ef: “Ragrithwyr, onid ydy pob un ohonoch chi ar y Saboth yn gollwng ei darw neu ei asyn o’r stâl ac yn ei arwain i ffwrdd er mwyn rhoi dŵr iddo?
16 Oni ddylai’r ddynes* hon, sy’n ferch i Abraham ac sydd wedi cael ei rhwymo gan Satan am 18 mlynedd, gael ei rhyddhau o’r rhwymyn hwn ar ddydd y Saboth?”
17 Wel, pan ddywedodd y pethau hyn, dechreuodd ei holl wrthwynebwyr deimlo cywilydd, ond dechreuodd y dyrfa gyfan lawenhau oherwydd yr holl bethau gogoneddus yr oedd ef wedi eu gwneud.
18 Felly aeth yn ei flaen i ddweud: “I beth mae Teyrnas Dduw yn debyg, ac â beth y galla i ei chymharu hi?
19 Mae’n debyg i hedyn mwstard y gwnaeth dyn ei gymryd a’i blannu yn ei ardd, ac fe dyfodd a dod yn goeden, a dyma adar y nef yn nythu yn ei changhennau.”
20 A dywedodd eto: “Â beth y galla i gymharu Teyrnas Dduw?
21 Mae’n debyg i lefain y gwnaeth dynes* ei gymryd a’i gymysgu â thri mesur mawr* o flawd nes i’r toes cyfan godi.”
22 Ac fe deithiodd o ddinas i ddinas ac o bentref i bentref, yn dysgu ac yn parhau ar ei daith i Jerwsalem.
23 Nawr dywedodd dyn wrtho: “Arglwydd, ai ychydig ydy’r rhai sy’n cael eu hachub?” Dywedodd ef wrthyn nhw:
24 “Gwnewch ymdrech lew i fynd i mewn drwy’r drws cul, oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd llawer yn ceisio mynd i mewn ond fyddan nhw ddim yn gallu.
25 Pan fydd perchennog y tŷ yn codi ac yn cloi’r drws, fe fyddwch chi’n sefyll y tu allan ac yn cnocio ar y drws, gan ddweud, ‘Arglwydd, agora inni.’ Ond bydd ef yn eich ateb chi: ‘Dydw i ddim yn gwybod o le rydych chi’n dod.’
26 Yna byddwch yn dechrau dweud, ‘Roedden ni’n bwyta ac yn yfed yn dy bresenoldeb, ac roeddet ti’n dysgu yn ein prif strydoedd.’
27 Ond bydd ef yn dweud wrthoch chi, ‘Dydw i ddim yn gwybod o le rydych chi’n dod. Ewch o ’ma, chi holl weithwyr anghyfiawnder!’
28 Yno y byddwch chi’n wylo ac yn crensian eich dannedd, pan fyddwch chi’n gweld Abraham, Isaac, Jacob, a’r holl broffwydi yn Nheyrnas Dduw, ond chithau yn cael eich taflu y tu allan.
29 Ar ben hynny, bydd pobl yn dod o’r dwyrain a’r gorllewin ac o’r gogledd a’r de, a byddan nhw’n cymryd eu lle wrth y bwrdd yn Nheyrnas Dduw.
30 Ac edrychwch! bydd rhai sy’n olaf yn gyntaf, a rhai sy’n gyntaf yn olaf.”
31 Yr union awr honno, daeth rhai o’r Phariseaid ato a dweud wrtho: “Dos i ffwrdd o fan hyn, oherwydd mae Herod eisiau dy ladd di.”
32 Ac meddai wrthyn nhw: “Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, ‘Edrycha! Rydw i’n bwrw cythreuliaid allan ac yn iacháu pobl heddiw ac yfory, ac ar y trydydd dydd fe fydda i wedi gorffen.’
33 Er hynny, mae’n rhaid imi barhau i deithio heddiw, yfory, a’r diwrnod canlynol, oherwydd mae’n amhosib meddwl y byddai proffwyd yn cael ei roi i farwolaeth y tu allan i Jerwsalem.
34 Jerwsalem, Jerwsalem, yr un sy’n lladd y proffwydi ac yn llabyddio’r rhai a anfonwyd ati hi—mor aml roeddwn i eisiau casglu dy blant at ei gilydd fel mae iâr yn casglu ei chywion o dan ei hadenydd! Ond doeddech chi bobl ddim eisiau hynny.
35 Edrychwch! Mae eich tŷ yn cael ei adael yn adfail. Rydw i’n dweud wrthoch chi, fyddwch chi ddim yn fy ngweld i ar unrhyw gyfri nes ichi ddweud: ‘Bendigedig yw’r un sy’n dod yn enw Jehofa!’”
Troednodiadau
^ Neu “roedd ’na fenyw.”
^ Neu “ysbryd gwendid.”
^ Neu “Fenyw.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Neu “menyw.”
^ Llyth., “mesur sea.” Roedd sea yn gyfartal â 7.33 L.