Yn Ôl Luc 14:1-35
14 Ar achlysur arall, aeth ef i fwyta pryd o fwyd yn nhŷ un o arweinwyr y Phariseaid ar y Saboth, ac roedden nhw’n ei wylio’n ofalus.
2 Ac edrycha! roedd ’na ddyn o’i flaen a’r dropsi* arno.
3 Felly ymatebodd Iesu drwy ofyn i’r arbenigwyr yn y Gyfraith a’r Phariseaid: “Ydy hi’n gyfreithlon i iacháu ar y Saboth neu ddim?”
4 Ond arhoson nhw’n ddistaw. Ar hynny, dyma’n cyffwrdd y dyn, ei iacháu, a’i anfon i ffwrdd.
5 Yna dywedodd wrthyn nhw: “Pwy ohonoch chi, os ydy ei fab neu ei darw yn syrthio i mewn i ffynnon, na fydd yn ei dynnu allan ohoni ar unwaith ar ddydd y Saboth?”
6 A doedden nhw ddim yn gallu ateb hyn.
7 Yna dywedodd ddameg wrth y gwesteion ar ôl iddo sylwi eu bod nhw’n dewis y llefydd mwyaf pwysig iddyn nhw eu hunain. Dywedodd wrthyn nhw:
8 “Pan gei di dy wahodd gan rywun i wledd briodas, paid ag eistedd yn y lle mwyaf pwysig. Efallai bydd rhywun mwy adnabyddus na ti wedi cael ei wahodd hefyd.
9 Yna bydd yr un a wnaeth wahodd y ddau ohonoch chi yn dod atat ti ac yn dweud, ‘Gad i’r dyn yma gael dy le di.’ Yna byddi di’n mynd mewn cywilydd i eistedd yn y lle isaf.
10 Ond pan gei di wahoddiad, dos i eistedd yn y lle isaf, wedyn pan fydd y dyn a wnaeth dy wahodd di yn dod, fe fydd yn dweud wrthot ti, ‘Ffrind, dos yn uwch.’ Yna bydd gen ti anrhydedd o flaen dy holl gyd-westeion.
11 Oherwydd bydd pob un sy’n ei ddyrchafu ei hun yn cael ei fychanu, a bydd pwy bynnag sy’n ostyngedig yn cael ei ddyrchafu.”
12 Nesaf, dywedodd hefyd wrth y dyn a oedd wedi ei wahodd: “Pan wyt ti’n paratoi cinio neu swper, paid â galw dy ffrindiau na dy frodyr na dy berthnasau na dy gymdogion cyfoethog. Neu fel arall byddan nhw’n dy wahodd di, er mwyn dy dalu di’n ôl.
13 Ond pan fyddi di’n paratoi gwledd, gwahodda’r tlawd, yr anabl, y cloff, y dall;
14 a byddi di’n hapus, oherwydd does ganddyn nhw ddim byd i’w dalu yn ôl iti. Oherwydd byddi di’n cael dy dalu yn ôl yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.”
15 Wrth iddo glywed y pethau hyn, dywedodd un o’r cyd-westeion wrtho: “Hapus ydy’r un sy’n bwyta* yn Nheyrnas Dduw.”
16 Dywedodd Iesu wrtho: “Roedd dyn yn paratoi swper crand, ac roedd ef wedi gwahodd llawer o bobl.
17 Anfonodd ei gaethwas allan ar awr y swper i ddweud wrth y rhai a oedd wedi cael eu gwahodd, ‘Dewch, oherwydd mae popeth yn barod nawr.’
18 Ond dechreuon nhw i gyd hel esgusodion. Dywedodd yr un cyntaf wrtho, ‘Rydw i wedi prynu cae ac mae angen imi fynd i’w weld; a wnei di fy esgusodi i?’
19 A dywedodd un arall, ‘Rydw i wedi prynu pum pâr* o wartheg ac rydw i am fynd i brofi pa mor dda maen nhw’n gweithio; a wnei di fy esgusodi i?’
20 Ac meddai un arall, ‘Rydw i newydd briodi, ac oherwydd hynny dydw i ddim yn gallu dod.’
21 Felly daeth y caethwas ac adrodd y pethau hyn wrth ei feistr. Yna gwylltiodd meistr y tŷ a dywedodd wrth ei gaethwas, ‘Dos allan yn gyflym i brif strydoedd a strydoedd cefn y ddinas, a thyrd â’r tlawd a’r anabl a’r dall a’r cloff i mewn yma.’
22 Mewn amser dywedodd y caethwas, ‘Feistr, mae’r hyn wnest ti ei orchymyn wedi cael ei wneud, ac mae ’na le i fwy eto.’
23 Felly dywedodd y meistr wrth y caethwas, ‘Dos allan i’r ffyrdd a’r lonydd cefn gwlad a mynna eu bod nhw’n dod i mewn, er mwyn i fy nhŷ gael ei lenwi.
24 Oherwydd rydw i’n dweud wrthot ti, ni fydd yr un o’r dynion hynny a gafodd ei wahodd yn blasu fy swper i.’”
25 Nawr roedd tyrfaoedd mawr yn teithio gydag ef, a dyma’n troi ac yn dweud wrthyn nhw:
26 “Os oes unrhyw un yn dod ata i sydd ddim yn casáu* ei dad a’i fam a’i wraig a’i blant a’i frodyr a’i chwiorydd, ie, hyd yn oed ei fywyd ei hun, dydy hwnnw ddim yn gallu bod yn ddisgybl imi.
27 Dydy pwy bynnag sydd ddim yn cario ei stanc dienyddio* ac yn dod ar fy ôl i ddim yn gallu bod yn ddisgybl imi.
28 Er enghraifft, os ydych chi eisiau adeiladu tŵr, pwy ohonoch chi na fyddai’n eistedd i lawr a chyfri’r gost i weld a oes ganddo ddigon i gwblhau’r gwaith?
29 Fel arall, efallai byddai’n gosod y sylfaen heb allu ei orffen, a byddai pawb sy’n gwylio yn dechrau chwerthin am ei ben,
30 gan ddweud: ‘Dechreuodd y dyn yma adeiladu, ond doedd ddim yn gallu gorffen.’
31 Neu pa frenin sy’n mynd i ryfel yn erbyn brenin arall na fyddai’n eistedd i lawr yn gyntaf i drafod a fyddai ef a’i 10,000 o filwyr yn gallu gwrthsefyll yr un sy’n dod yn ei erbyn â 20,000?
32 Yn wir, os nad yw’n gallu, yna tra bod y llall yn dal yn bell i ffwrdd, mae’n anfon llysgenhadon allan i geisio heddwch.
33 Yn yr un modd, gallwch chi fod yn sicr nad ydy’r un ohonoch chi sydd ddim yn cefnu ar* ei holl eiddo yn gallu bod yn ddisgybl imi.
34 “Yn wir, mae halen yn dda. Ond os ydy’r halen yn colli ei flas, sut bydd yn cael ei flas hallt yn ôl?
35 Nid yw’n addas ar gyfer pridd na gwrtaith. Mae pobl yn ei daflu allan. Gadewch i’r un sydd â chlustiau i wrando, wrando.”
Troednodiadau
^ Neu “oedema,” sef gormodedd o hylif yn casglu yn y corff.
^ Neu “bwyta bara.”
^ Neu “iau.”
^ Neu “caru i raddau llai.”
^ Neu “ildio.”