Yn Ôl Luc 15:1-32

  • Dameg y ddafad golledig (1-7)

  • Dameg y ddrachma golledig (8-10)

  • Dameg y mab colledig (11-32)

15  Nawr roedd yr holl gasglwyr trethi a’r pechaduriaid yn parhau i gasglu o’i gwmpas i’w glywed. 2  Ac roedd y Phariseaid a’r ysgrifenyddion yn dal i gwyno: “Mae’r dyn yma yn croesawu pechaduriaid ac yn bwyta gyda nhw.” 3  Yna dywedodd y ddameg hon wrthyn nhw: 4  “Os oes gan ddyn yn eich plith 100 o ddefaid, ac mae’n colli un ohonyn nhw, oni fydd ef yn gadael y 99 ar ôl yn yr anialwch ac yn chwilio am yr un sydd ar goll nes iddo ddod o hyd iddi? 5  Ac ar ôl iddo ddod o hyd iddi, mae’n ei rhoi ar ei ysgwyddau ac yn llawenhau. 6  A phan mae’n dod adref, mae’n galw ei ffrindiau a’i gymdogion at ei gilydd, gan ddweud wrthyn nhw, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd fy mod i wedi dod o hyd i fy nafad a oedd ar goll.’ 7  Rydw i’n dweud wrthoch chi, yn yr un modd bydd ’na fwy o lawenydd yn y nef oherwydd un pechadur sy’n edifarhau nag oherwydd 99 o rai cyfiawn sydd ddim angen edifarhau. 8  “Neu os oes gan ddynes* ddeg drachma, ac mae hi’n colli un ohonyn nhw, oni fyddai hi’n goleuo lamp ac yn ysgubo ei thŷ ac yn chwilio’n ofalus amdano nes iddi ddod o hyd iddo? 9  Ac ar ôl iddi ddod o hyd iddo, mae hi’n galw ei ffrindiau* a’i chymdogion at ei gilydd, gan ddweud, ‘Llawenhewch gyda mi, oherwydd fy mod i wedi dod o hyd i’r drachma gwnes i ei golli.’ 10  Yn yr un modd, rydw i’n dweud wrthoch chi, mae ’na lawenydd ymhlith angylion Duw oherwydd un pechadur sy’n edifarhau.” 11  Yna dywedodd ef: “Roedd gan ddyn ddau fab. 12  A dywedodd y mab ifanc wrth ei dad, ‘Dad, rho fy rhan i o’r etifeddiaeth imi.’ Felly dyma’n rhannu ei eiddo rhyngddyn nhw. 13  Ychydig o ddyddiau wedyn, casglodd y mab ifanc ei holl bethau at ei gilydd a theithiodd i wlad bell ac yno dyma’n gwastraffu ei eiddo trwy fyw bywyd gwyllt.* 14  Ar ôl iddo wario popeth, roedd ’na newyn ofnadwy drwy gydol y wlad honno, a doedd ganddo ddim byd ar ôl. 15  Fe lwyddodd hyd yn oed i gael ei gyflogi gan un o ddinasyddion y wlad honno, a wnaeth ei anfon i mewn i’w gaeau i ofalu am y moch. 16  Ac roedd yn dyheu am gael ei lenwi â’r bwyd* roedd y moch yn ei fwyta, ond doedd neb yn rhoi unrhyw beth iddo. 17  “Pan ddaeth ato’i hun, dywedodd, ‘Mae gan fy nhad lawer o weithwyr ac mae ganddyn nhw fwy na digon o fara, tra fy mod i yma yn marw o newyn! 18  Fe wna i godi a theithio i dŷ fy nhad a dweud wrtho: “Dad, rydw i wedi pechu yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. 19  Dydw i ddim yn haeddu cael fy ngalw’n fab iti bellach. Ystyria fi fel un o dy weithwyr.’” 20  Felly cododd ac aeth at ei dad. Tra oedd ef yn dal yn bell i ffwrdd, gwnaeth ei dad ei weld ac roedd yn llawn trueni, a dyma’n rhedeg ato ac yn ei gofleidio ac yn ei gusanu’n dyner. 21  Yna dywedodd y mab wrtho, ‘Dad, rydw i wedi pechu yn erbyn y nef ac yn dy erbyn di. Dydw i ddim yn haeddu cael fy ngalw’n fab iti bellach.’ 22  Ond dywedodd y tad wrth ei gaethweision, ‘Brysiwch! dewch â mantell allan, yr un orau, a’i rhoi amdano, rhowch fodrwy ar ei law a sandalau am ei draed. 23  Hefyd, dewch â’r llo mwyaf tew, lladdwch ef, a gadewch inni fwyta a dathlu, 24  oherwydd roedd fy mab wedi marw ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd ar goll ac mae wedi cael ei ddarganfod.’ A dechreuon nhw fwynhau eu hunain. 25  “Nawr roedd ei fab hynaf yn y cae, ac wrth iddo ddod yn ôl ac agosáu at y tŷ, fe glywodd gerddoriaeth a dawnsio. 26  Felly galwodd un o’r gweision ato a gofyn beth oedd yn digwydd. 27  Dywedodd ef wrtho, ‘Mae dy frawd wedi dod yn ôl, ac mae dy dad wedi lladd y llo tewaf oherwydd bod dy frawd wedi dod yn ôl mewn iechyd da.’* 28  Ond fe aeth yn ddig a gwrthod mynd i mewn. Yna daeth ei dad allan a dechrau erfyn arno. 29  Atebodd drwy ddweud wrth ei dad, ‘Edrycha! Am lawer o flynyddoedd rydw i wedi llafurio i ti a dydw i erioed wedi bod yn anufudd i dy orchmynion, ac eto wnest ti erioed roi gafr ifanc i mi i’w fwynhau gyda fy ffrindiau. 30  Ond unwaith i hwn gyrraedd, dy fab a wnaeth wastraffu* dy eiddo ar buteiniaid, fe wnest ti ladd y llo mwyaf tew iddo.’ 31  Yna dywedodd ef wrtho, ‘Fy mab, rwyt ti wastad wedi bod gyda mi, ac mae popeth sy’n perthyn i mi yn perthyn i tithau hefyd. 32  Ond roedd rhaid inni ddathlu a llawenhau, oherwydd roedd dy frawd wedi marw ond mae wedi dod yn ôl yn fyw; roedd ar goll ac mae wedi cael ei ddarganfod.’”

Troednodiadau

Neu “gan fenyw.”
Neu “ei chyfeillesau.”
Neu “gwastraffus; anfoesol.”
Neu “codau carob; plisg carob.”
Neu “yn saff.”
Llyth., “wnaeth ddifa.”