Yn Ôl Luc 23:1-56
23 Felly cododd y dyrfa gyfan, a’i arwain at Peilat.
2 Yna dechreuon nhw ei gyhuddo, gan ddweud: “Rydyn ni wedi dal y dyn hwn yn camarwain ein cenedl, yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn dweud mai ef ei hun ydy’r Crist, y brenin.”
3 Nawr gofynnodd Peilat iddo: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd drwy ddweud: “Ti sy’n dweud hynny.”
4 Yna dywedodd Peilat wrth y prif offeiriaid a’r tyrfaoedd: “Dydw i ddim yn meddwl bod y dyn hwn yn droseddwr.”
5 Ond dyma nhw’n mynnu, drwy ddweud: “Mae’n cynhyrfu’r bobl drwy ddysgu trwy gydol Jwdea. Dechreuodd yng Ngalilea ac mae hyd yn oed wedi cyrraedd fan hyn.”
6 Ar ôl clywed hynny, gofynnodd Peilat a oedd y dyn yn dod o Galilea.
7 Ar ôl cael gwybod ei fod o dan awdurdod Herod, fe anfonodd ef ymlaen at Herod, a oedd hefyd yn Jerwsalem yn y dyddiau hynny.
8 Pan welodd Herod Iesu, dyma’n llawenhau’n fawr iawn. Am gryn dipyn o amser roedd wedi bod eisiau gweld Iesu oherwydd ei fod wedi clywed llawer amdano, ac roedd yn gobeithio gweld rhyw arwydd ganddo.
9 Felly dechreuodd ef ofyn llawer o gwestiynau iddo, ond ni roddodd Iesu unrhyw ateb.
10 Ond parhaodd y prif offeiriaid a’r ysgrifenyddion i sefyll a’i gyhuddo’n chwyrn.
11 Yna gwnaeth Herod ynghyd â’i filwyr ei drin yn ddirmygus, a gwnaeth hwyl am ei ben drwy roi gwisg grand amdano ac yna ei anfon yn ôl at Peilat.
12 Daeth Herod a Peilat yn ffrindiau i’w gilydd ar yr union ddiwrnod hwnnw, oherwydd cyn hynny roedden nhw wedi bod yn elynion.
13 Yna galwodd Peilat y prif offeiriaid, y rheolwyr, a’r bobl at ei gilydd
14 a dywedodd wrthyn nhw: “Daethoch chi â’r dyn yma ata i fel un a oedd yn annog y bobl i wrthryfela. Nawr edrychwch! rydw i wedi ei gwestiynu o’ch blaen chi a dydw i ddim wedi cael hyd i unrhyw sail dros y cyhuddiadau rydych chi wedi eu gwneud yn ei erbyn.
15 Yn wir, dydy Herod ddim chwaith, oherwydd mae wedi ei anfon yn ôl aton ni, ac edrychwch! dydy ef ddim wedi gwneud unrhyw beth sy’n haeddu marwolaeth.
16 Felly fe wna i ei gosbi a’i ryddhau.”
17 ——
18 Ond dyma’r holl dyrfa yn gweiddi: “Lladda’r dyn yma, a rhyddha Barabbas inni!”
19 (Roedd y dyn hwn wedi cael ei luchio i’r carchar am y gwrthryfel a oedd wedi digwydd yn y ddinas ac am lofruddio.)
20 Unwaith eto dyma Peilat yn eu hannerch nhw, oherwydd roedd ef eisiau rhyddhau Iesu.
21 Yna dechreuon nhw weiddi, gan ddweud: “Lladda ef ar y stanc! Lladda ef ar y stanc!”*
22 Y trydydd tro dywedodd ef wrthyn nhw: “Pam? Pa beth drwg wnaeth y dyn yma? Dydw i ddim wedi gweld unrhyw beth ynddo sy’n haeddu marwolaeth; felly fe wna i ei gosbi a’i ryddhau.”
23 Ar hynny roedden nhw’n benderfynol, yn mynnu â lleisiau uchel ei fod yn cael ei ddienyddio,* nes i’w lleisiau ennill y dydd.
24 Felly dyma Peilat yn penderfynu rhoi iddyn nhw beth roedden nhw eisiau.
25 Fe ryddhaodd y dyn roedden nhw’n gofyn amdano, a oedd wedi cael ei luchio i’r carchar am annog gwrthryfel ac am lofruddio, ond fe roddodd ef Iesu iddyn nhw i wneud beth roedden nhw’n ei ddymuno.
26 Nawr tra oedden nhw’n ei arwain i ffwrdd, dyma nhw’n gafael yn Simon o Cyrene, a oedd yn dod o gefn gwlad, a gosodon nhw’r stanc dienyddio* arno i’w gario y tu ôl i Iesu.
27 Roedd nifer mawr o bobl yn ei ddilyn, gan gynnwys merched* a oedd yn eu curo eu hunain mewn galar ac yn wylo drosto.
28 Trodd Iesu at y merched* a dweud: “Ferched Jerwsalem, stopiwch wylo drosto i. Wylwch yn hytrach drostoch chi’ch hunain a thros eich plant;
29 oherwydd edrychwch! mae dyddiau’n dod pan fydd pobl yn dweud, ‘Hapus ydy’r merched* diffrwyth, y groth sydd heb roi genedigaeth a’r bronnau sydd heb roi llaeth!’
30 Yna byddan nhw’n dechrau dweud wrth y mynyddoedd, ‘Syrthiwch arnon ni!’ ac wrth y bryniau, ‘Cuddiwch ni!’
31 Os ydyn nhw’n gwneud y pethau yma pan fydd y goeden yn llawn dail, beth fydd yn digwydd pan fydd hi wedi crino?”
32 Roedd dau ddyn arall, troseddwyr, hefyd yn cael eu harwain i ffwrdd i gael eu dienyddio gydag ef.
33 A phan ddaethon nhw i’r lle o’r enw Penglog, dyma nhw’n ei hoelio ar y stanc wrth ymyl y troseddwyr, un ar ei ochr dde ac un ar ei ochr chwith.
34 Ond roedd Iesu’n dweud: “Dad, maddau iddyn nhw, oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod beth maen nhw’n ei wneud.” Ar ben hynny, roedden nhw’n bwrw coelbren er mwyn rhannu ei ddillad.
35 Ac roedd y bobl yn sefyll ac yn gwylio. Ond roedd y rheolwyr yn gwneud hwyl am ei ben gan ddweud: “Fe achubodd bobl eraill; gadewch iddo ei achub ei hun os mai ef ydy’r Crist, yr Un mae Duw wedi ei ddewis.”
36 Roedd hyd yn oed y milwyr yn ei wawdio, yn dod ato ac yn cynnig gwin sur iddo
37 ac yn dweud wrtho: “Os mai ti ydy Brenin yr Iddewon, achuba dy hun.”
38 Hefyd roedd ’na arwydd uwch ei ben: “Hwn ydy Brenin yr Iddewon.”
39 Yna dyma un o’r troseddwyr a oedd yn hongian yno yn dechrau siarad yn gas wrtho, gan ddweud: “Ai ti ydy’r Crist? Achuba dy hun a ninnau hefyd!”
40 Atebodd y llall drwy ei geryddu, gan ddweud: “Onid wyt ti’n ofni Duw o gwbl, nawr dy fod ti wedi derbyn yr un farnedigaeth?
41 Ac mae hynny’n gyfiawn, oherwydd rydyn ni’n derbyn yr hyn rydyn ni’n ei haeddu am y pethau a wnaethon ni; ond dydy’r dyn yma ddim wedi gwneud unrhyw beth o’i le.”
42 Yna dywedodd ef: “Iesu, cofia fi pan fyddi di’n mynd i mewn i dy Deyrnas.”
43 A dywedodd yntau wrtho: “Yn wir rydw i’n dweud wrthot ti heddiw, byddi di gyda mi ym Mharadwys.”
44 Wel, erbyn hyn roedd hi tua’r chweched awr,* ac eto daeth tywyllwch dros y wlad i gyd hyd y nawfed awr,*
45 oherwydd doedd yr haul ddim yn disgleirio; yna cafodd llen y cysegr ei rhwygo ar hyd ei chanol.
46 A gwaeddodd Iesu â llais uchel, gan ddweud: “Dad, rydw i’n rhoi fy ysbryd yng ngofal dy ddwylo di.” Ar ôl iddo ddweud hyn, bu farw.*
47 Oherwydd iddo weld beth ddigwyddodd, dechreuodd y swyddog o’r fyddin ogoneddu Duw, gan ddweud: “Yn wir, roedd y dyn yma’n gyfiawn.”
48 Ac ar ôl i’r holl dyrfaoedd a oedd wedi dod at ei gilydd i wylio ei ddienyddio weld y pethau a ddigwyddodd, aethon nhw yn ôl adref, yn curo eu bronnau.
49 Ac roedd pawb a oedd yn ei adnabod ef yn sefyll yn bell i ffwrdd. Hefyd, roedd ’na ferched* yno a oedd wedi dod gydag ef o Galilea ac fe welson nhw’r pethau hyn.
50 Ac edrycha! roedd ’na ddyn o’r enw Joseff, aelod o’r Cyngor, a oedd yn ddyn da a chyfiawn.
51 (Doedd y dyn hwn ddim wedi pleidleisio o blaid eu cynllwyn a’u gweithredoedd.) Roedd yn dod o Arimathea, un o ddinasoedd y Jwdeaid, ac roedd yn aros am Deyrnas Dduw.
52 Aeth y dyn hwn i mewn gerbron Peilat a gofynnodd am gorff Iesu.
53 A dyma ef yn ei gymryd i lawr a’i lapio mewn lliain main, a’i osod mewn beddrod* oedd wedi ei naddu yn y graig, lle nad oedd unrhyw ddyn arall wedi cael ei osod.
54 Nawr dydd y Paratoad oedd hi, ac roedd y Saboth ar fin dechrau.
55 Ond dyma’r merched* a oedd wedi dod gydag ef o Galilea yn dilyn ac yn edrych ar y beddrod* a gweld sut roedd ei gorff wedi cael ei osod,
56 ac aethon nhw yn ôl i baratoi sbeisys ac olewydd persawrus. Ond wrth gwrs gwnaethon nhw orffwys ar y Saboth yn ôl y gorchymyn.
Troednodiadau
^ Neu “Dienyddia ef ar y stanc! Dienyddia ef ar y stanc!”
^ Neu “ei ddienyddio ar y stanc.”
^ Neu “menywod.”
^ Neu “menywod.”
^ Neu “menywod.”
^ Hynny yw, tua hanner dydd.
^ Hynny yw, tua 3:00 p.m.
^ Neu “tynnodd ef ei anadl olaf.”
^ Neu “roedd ’na fenywod.”
^ Neu “beddrod coffa.”
^ Neu “menywod.”
^ Neu “y beddrod coffa.”