Yn Ôl Luc 8:1-56

  • Merched yn teithio gyda Iesu (1-3)

  • Dameg y ffermwr yn hau (4-8)

  • Pam roedd Iesu’n defnyddio damhegion (9, 10)

  • Esboniad dameg y ffermwr yn hau (11-15)

  • Peidio â chuddio lamp (16-18)

  • Mam a brodyr Iesu (19-21)

  • Iesu’n tawelu storm (22-25)

  • Iesu’n anfon cythreuliaid i mewn i’r moch (26-39)

  • Merch Jairus; dynes yn cyffwrdd â chôt Iesu (40-56)

8  Yn fuan wedyn, teithiodd o ddinas i ddinas ac o bentref i bentref yn pregethu ac yn cyhoeddi’r newyddion da am Deyrnas Dduw. Ac roedd y Deuddeg gydag ef, 2  a hefyd rai merched* a oedd wedi cael eu hiacháu o ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair a oedd yn cael ei galw Magdalen, yr un y daeth saith cythraul allan ohoni hi; 3  Joanna gwraig Chwsa, y dyn oedd yn gofalu am dŷ Herod; Swsanna; a llawer o ferched* eraill, a oedd yn gweini arnyn nhw o’r pethau oedd ganddyn nhw. 4  Nawr, pan ddaeth tyrfa fawr at ei gilydd, ynghyd â’r bobl a oedd wedi dod ato o ddinasoedd eraill, siaradodd drwy ddefnyddio dameg: 5  “Aeth ffermwr allan i hau. Tra oedd yn hau, syrthiodd rhai o’r hadau wrth ochr y ffordd a gwnaeth pobl sathru arnyn nhw, a daeth adar y nef a’u bwyta nhw. 6  Syrthiodd ychydig ar y graig, ac ar ôl dechrau tyfu, dyma nhw’n gwywo oherwydd doedd ’na ddim digon o ddŵr. 7  Syrthiodd hadau eraill ymhlith y drain, ac fe wnaeth y drain a oedd wedi tyfu gyda nhw eu tagu nhw. 8  Ond syrthiodd hadau eraill ar y pridd da, ac ar ôl tyfu, dyma nhw’n cynhyrchu ganwaith cymaint mwy o ffrwyth.” Tra oedd yn dweud y pethau hyn, fe waeddodd ef: “Gadewch i’r un sydd â chlustiau i wrando, wrando.” 9  Ond, gofynnodd ei ddisgyblion iddo beth oedd ystyr y ddameg hon. 10  Dywedodd ef: “Rydych chi’n cael gwybod cyfrinachau cysegredig Teyrnas Dduw, ond i’r gweddill rydw i’n siarad drwy ddefnyddio damhegion fel na fyddan nhw’n gweld, er eu bod nhw’n edrych, fel na fydden nhw’n deall, er eu bod nhw’n clywed. 11  Nawr, dyma beth ydy ystyr y ddameg: Yr had ydy gair Duw. 12  Y rhai wrth ochr y ffordd ydy’r rhai sydd wedi clywed, ac mae’r Diafol yn dod ac yn cipio’r gair o’u calonnau fel na allan nhw gredu a chael eu hachub. 13  Y rhai ar y graig ydy’r rhai sydd, ar ôl iddyn nhw glywed y gair, yn ei dderbyn yn llawen, ond does gynnon nhw ddim gwreiddyn. Maen nhw’n credu am ychydig, ond pan maen nhw’n cael eu profi, maen nhw’n cefnu ar y ffydd. 14  Y rhai a syrthiodd ymysg y drain, dyma’r rhai sydd wedi clywed, ond oherwydd bod pryderon, cyfoeth, a phleserau’r bywyd hwn wedi denu eu sylw, maen nhw wedi cael eu tagu yn llwyr a dydyn nhw ddim yn dwyn ffrwyth i aeddfedrwydd. 15  A’r hadau ar y pridd da, dyma’r rhai sydd, ar ôl clywed y gair â chalon dda a diffuant, yn ei gadw ac yn dwyn ffrwyth gyda dyfalbarhad. 16  “Does neb yn goleuo lamp ac yn ei chuddio hi â llestr neu’n ei gosod hi o dan y gwely, ond mae’n ei rhoi ar ei stand fel y bydd y rhai sy’n dod i mewn yn gweld y goleuni. 17  Oherwydd does dim byd sydd wedi ei guddio na fydd yn dod yn amlwg, na dim byd sydd wedi ei guddio’n ofalus na fydd byth yn cael ei ddatgelu nac yn dod i’r golwg. 18  Felly rhowch sylw i sut rydych chi’n gwrando, oherwydd pwy bynnag sydd gan rywbeth, bydd mwy yn cael ei roi iddo, ond pwy bynnag nad oes gan rywbeth, bydd hyd yn oed y pethau mae’n dychmygu sydd ganddo yn cael eu cymryd oddi arno.” 19  Nawr, daeth ei fam a’i frodyr ato, ond doedden nhw ddim yn gallu dod yn agos ato oherwydd y dyrfa. 20  Felly dywedodd rhywun wrtho: “Mae dy fam a dy frodyr yn sefyll y tu allan, ac maen nhw eisiau dy weld ti.” 21  Atebodd drwy ddweud wrthyn nhw: “Fy mam a fy mrodyr ydy’r rhai sy’n clywed gair Duw ac yn gwneud beth mae’n ei ddweud.” 22  Un diwrnod aeth ef a’i ddisgyblion i mewn i gwch, a dywedodd ef wrthyn nhw: “Gadewch inni groesi i ochr arall y llyn.” Felly dyma nhw’n dechrau hwylio. 23  Ond tra oedden nhw’n hwylio, syrthiodd i gysgu. A disgynnodd storm wynt wyllt ar y llyn, a dechreuodd eu cwch lenwi â dŵr, ac roedden nhw mewn peryg. 24  Felly aethon nhw ato a’i ddeffro, gan ddweud: “Athro, Athro, rydyn ni ar fin marw!” Gyda hynny, cododd a cheryddu’r gwynt a’r tonnau gwyllt, a stopiodd y storm, ac aeth popeth yn dawel. 25  Yna dywedodd ef wrthyn nhw: “Lle mae eich ffydd?” Ond roedden nhw’n llawn ofn ac wedi rhyfeddu, gan ddweud wrth ei gilydd: “Pwy ydy hwn? Gan ei fod yn gorchymyn hyd yn oed y gwyntoedd a’r dyfroedd, ac maen nhw’n ufuddhau iddo.” 26  A daethon nhw i’r lan yn ardal y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea. 27  Tra oedd Iesu’n dod allan o’r cwch, dyma ddyn o’r ddinas a oedd wedi ei feddiannu gan gythraul yn dod i’w gyfarfod. Ers amser maith, doedd ef ddim wedi gwisgo dillad, ac roedd yn aros, nid mewn tŷ, ond ymhlith y beddrodau.* 28  Ar ôl iddo weld Iesu, gwaeddodd a syrthio o’i flaen, a dywedodd mewn llais uchel: “Beth rwyt ti eisiau gen i, Iesu, Fab y Duw Goruchaf? Rydw i’n erfyn arnat ti, paid â fy mhoenydio i.” 29  (Oherwydd roedd Iesu wedi bod yn gorchymyn yr ysbryd aflan i ddod allan o’r dyn. Roedd y cythraul wedi cydio ynddo lawer o weithiau. A sawl gwaith drosodd, roedd ef yn cael ei glymu â chadwyni a rhwymau a’i gadw o dan warchodaeth, ond fe fyddai’n torri’r rhwymau a chael ei yrru gan y cythraul i ganol llefydd unig.) 30  Gofynnodd Iesu iddo: “Beth ydy dy enw?” Dywedodd yntau: “Lleng,” oherwydd bod llawer o gythreuliaid wedi mynd i mewn iddo. 31  Ac roedden nhw’n dal i ymbil arno i beidio â gorchymyn iddyn nhw fynd i ffwrdd i mewn i’r dyfnder. 32  Nawr, roedd ’na genfaint fawr o foch yn pori ar y mynydd, felly dyma nhw’n ymbil arno i adael iddyn nhw fynd i mewn i’r moch, ac fe roddodd ganiatâd iddyn nhw. 33  Gyda hynny, daeth y cythreuliaid allan o’r dyn a mynd i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i mewn i’r llyn a boddi. 34  Ond pan welodd bugeiliaid y moch yr hyn oedd wedi digwydd, dyma nhw’n ffoi ac adrodd yr hanes yn y ddinas ac yng nghefn gwlad. 35  Yna, aeth pobl allan i weld beth oedd wedi digwydd. Daethon nhw at Iesu a dod ar draws y dyn roedd y cythreuliaid wedi dod allan ohono, yn gwisgo dillad ac yn ei iawn bwyll, yn eistedd wrth draed Iesu, a daeth ofn arnyn nhw. 36  Gwnaeth y rhai a oedd wedi gweld hyn adrodd yr hanes wrthyn nhw am sut roedd y dyn a chythreuliaid ynddo wedi cael ei iacháu. 37  Yna gwnaeth nifer mawr o bobl o ardal y Geraseniaid ofyn i Iesu fynd i ffwrdd oddi wrthyn nhw, oherwydd eu bod nhw wedi dychryn am eu bywydau. Yna, aeth i mewn i’r cwch i adael. 38  Fodd bynnag, roedd y dyn roedd y cythreuliaid wedi dod allan ohono yn dal i ymbil ar Iesu i gael aros gydag ef, ond fe anfonodd y dyn i ffwrdd, gan ddweud: 39  “Dos adref, a dal ati i sôn am beth wnaeth Duw i ti.” Felly aeth i ffwrdd, gan gyhoeddi drwy’r holl ddinas yr hyn roedd Iesu wedi ei wneud iddo. 40  Pan ddaeth Iesu yn ei ôl, rhoddodd y dyrfa groeso cynnes iddo, oherwydd roedden nhw i gyd yn disgwyl amdano. 41  Ond edrycha! dyma ddyn o’r enw Jairus yn dod; roedd y dyn hwn yn arweinydd yn y synagog. A syrthiodd wrth draed Iesu a dechrau ymbil arno i ddod i’w dŷ, 42  oherwydd bod ei unig ferch, tua 12 mlwydd oed, yn marw. Tra oedd Iesu’n mynd, roedd y tyrfaoedd yn gwasgu arno. 43  Nawr roedd ’na ddynes* a oedd wedi bod yn dioddef o waedlif ers 12 mlynedd, a doedd hi ddim yn gallu cael ei hiacháu gan neb. 44  Daeth hi ato o’r tu ôl a chyffwrdd ymyl ei gôt, ac ar unwaith dyma ei gwaedlif hi yn stopio. 45  Felly dywedodd Iesu: “Pwy wnaeth fy nghyffwrdd i?” Pan oedd pawb yn gwadu’r peth, dywedodd Pedr: “Athro, mae’r tyrfaoedd yn dy amgylchynu ac yn gwasgu arnat ti.” 46  Ond meddai Iesu: “Fe wnaeth rhywun gyffwrdd â mi, oherwydd fy mod i’n gwybod bod grym wedi mynd allan ohono i.” 47  Pan welodd y ddynes* nad oedd hi wedi osgoi sylw, daeth hi ato yn crynu a syrthio o’i flaen a chyhoeddi o flaen pawb pam gwnaeth hi gyffwrdd ag ef a sut cafodd hi ei hiacháu ar unwaith. 48  Ond meddai ef wrthi: “Fy merch, mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn heddwch.” 49  Tra oedd ef yn siarad, daeth rhywun a oedd yn cynrychioli arweinydd y synagog, gan ddweud: “Mae dy ferch di wedi marw; paid â phoeni’r Athro bellach.” 50  Pan glywodd Iesu hyn, dywedodd wrtho: “Paid ag ofni, dim ond ffydd sydd ei angen arnat ti, ac fe fydd hi’n cael ei hachub.” 51  Pan gyrhaeddodd y tŷ, ni wnaeth adael i neb fynd i mewn gydag ef heblaw am Pedr, Ioan, Iago, a thad a mam y ferch. 52  Ond roedd pawb yn wylo ac yn eu curo eu hunain mewn galar drosti. Felly dywedodd ef: “Stopiwch wylo, oherwydd dydy hi ddim wedi marw, cysgu mae hi.” 53  Ar hynny dechreuon nhw chwerthin yn ddirmygus am ei ben, oherwydd roedden nhw’n gwybod ei bod hi wedi marw. 54  Ond gafaelodd ef yn ei llaw a dweud yn uchel wrthi: “Fy mhlentyn i, cod!” 55  Ac fe ddaeth hi’n ôl yn fyw,* a chodi ar unwaith, a gorchmynnodd ef iddyn nhw roi rhywbeth iddi hi i’w fwyta. 56  Wel, roedd ei rhieni ar ben eu digon, ond gorchmynnodd ef iddyn nhw i beidio â dweud wrth neb am yr hyn oedd wedi digwydd.

Troednodiadau

Neu “menywod.”
Neu “o fenywod.”
Neu “y beddrodau coffa.”
Neu “fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “fe ddaeth ei hysbryd yn ôl; ei grym bywyd.”