Yn Ôl Marc 13:1-37
13 Wrth iddo fynd allan o’r deml, dywedodd un o’i ddisgyblion wrtho: “Athro, edrycha! mae’r cerrig a’r adeiladau mor hyfryd!”
2 Ond, dywedodd Iesu wrtho: “Wyt ti’n gweld yr adeiladau mawr hyn? Ni fydd carreg yn cael ei gadael yma ar garreg ar unrhyw gyfri heb gael ei bwrw i lawr.”
3 Tra oedd yn eistedd ar Fynydd yr Olewydd yn wynebu’r deml, gofynnodd Pedr, Iago, Ioan, ac Andreas iddo’n breifat:
4 “Dyweda wrthon ni, pryd bydd y pethau hyn yn digwydd, a beth fydd yr arwydd pan fydd yr holl bethau hyn ar fin dod i ben?”
5 Felly dechreuodd Iesu ddweud wrthyn nhw: “Gwyliwch nad oes neb yn eich camarwain chi.
6 Bydd llawer yn dod ar sail fy enw i, yn dweud, ‘Fi ydy’r Crist,’ ac yn camarwain llawer.
7 Ar ben hynny, pan fyddwch chi’n clywed am ryfeloedd ac yn clywed sôn am ryfeloedd, peidiwch â dychryn; mae’n rhaid i’r pethau hyn ddigwydd, ond dydy’r diwedd ddim eto.
8 “Oherwydd bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas; bydd ’na ddaeargrynfeydd yn un lle ar ôl y llall; hefyd bydd ’na brinder bwyd. Dechrau cyfnod o boen* ydy’r pethau hyn.
9 “A chithau, gwyliwch eich hunain. Bydd pobl yn eich rhoi chi yn nwylo’r llysoedd lleol, a byddwch chi’n cael eich curo yn y synagogau a’ch gosod i sefyll o flaen llywodraethwyr a brenhinoedd er fy mwyn i, fel tystiolaeth iddyn nhw.
10 Hefyd, yn yr holl genhedloedd, mae’n rhaid i’r newyddion da gael eu pregethu’n gyntaf.
11 A phan fyddan nhw’n eich cymryd chi ac yn eich trosglwyddo chi i eraill, peidiwch â phryderu ymlaen llaw am beth i’w ddweud; ond beth bynnag sy’n cael ei roi ichi yn yr awr honno, dywedwch hwnnw, oherwydd nid chi sy’n siarad, ond yr ysbryd glân sy’n siarad.
12 Ymhellach, bydd brawd yn anfon brawd i gael ei ladd, a thad yn anfon ei blentyn i gael ei ladd, a bydd plant yn codi yn erbyn eu rhieni ac yn achosi iddyn nhw gael eu rhoi i farwolaeth.
13 A bydd yr holl bobl yn eich casáu chi o achos fy enw i. Ond bydd yr un sydd wedi dyfalbarhau* hyd y diwedd yn cael ei achub.
14 “Fodd bynnag, pan welwch chi’r peth ffiaidd sy’n achosi dinistr yn sefyll lle na ddylai fod (gad i’r darllenwr ddefnyddio ei ddeall), yna dylai’r rhai sydd yn Jwdea ddechrau ffoi i’r mynyddoedd.
15 Mae’n rhaid i’r dyn sydd ar ben y tŷ beidio â dod i lawr na mynd i mewn i gymryd unrhyw beth allan o’i dŷ;
16 ac mae’n rhaid i’r dyn sydd yn y cae beidio â throi yn ôl i gymryd ei gôt.
17 Gwae’r merched* beichiog a’r rhai sy’n magu plant yn y dyddiau hynny!
18 Daliwch ati i weddïo na fydd hyn yn digwydd yn y gaeaf;
19 oherwydd trychineb fydd y dyddiau hynny o’r fath sydd ddim wedi digwydd o ddechrau creadigaeth Duw hyd yr amser hwnnw, ac na fydd yn digwydd byth eto.
20 Yn wir, oni bai fod Jehofa’n torri’r dyddiau hynny’n fyr, ni fyddai neb yn cael ei achub. Ond o achos y rhai mae ef wedi eu dewis, mae wedi torri’r dyddiau’n fyr.
21 “Yna, os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Edrychwch! Dyma’r Crist,’ neu, ‘Edrychwch! Dacw ef,’ peidiwch â chredu’r peth.
22 Oherwydd bydd gau Gristiau a gau broffwydi yn codi a byddan nhw’n rhoi arwyddion ac yn cyflawni pethau rhyfeddol er mwyn camarwain, os posib, y rhai sydd wedi eu dewis.
23 Felly, gwyliwch chi. Rydw i wedi dweud pob peth wrthoch chi ymlaen llaw.
24 “Ond yn y dyddiau hynny, ar ôl y trychineb, bydd yr haul yn cael ei dywyllu, ac ni fydd y lleuad yn rhoi ei goleuni,
25 a bydd y sêr yn syrthio allan o’r nef, a bydd y grymoedd sydd yn y nefoedd yn cael eu hysgwyd.
26 Ac yna byddan nhw’n gweld Mab y dyn yn dod yn y cymylau gyda grym a gogoniant mawr.
27 Ac yna bydd ef yn anfon allan yr angylion ac yn casglu’r rhai mae ef wedi eu dewis at ei gilydd o’r pedwar gwynt, o ben draw’r ddaear i ben draw’r nef.
28 “Nawr dysgwch y wers hon oddi wrth y goeden ffigys: Cyn gynted ag y bydd ei changen ifanc yn dyner ac yn deilio, rydych chi’n gwybod bod yr haf yn agos.
29 Felly chithau hefyd, pan welwch chi’r pethau hyn yn digwydd, fe fyddwch chi’n gwybod ei fod ef yn agos wrth y drysau.
30 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi na fydd y genhedlaeth hon ar unrhyw gyfri yn mynd heibio nes i’r holl bethau hyn ddigwydd.
31 Bydd nef a daear yn mynd heibio, ond ni fydd fy ngeiriau i ar unrhyw gyfri yn mynd heibio.
32 “Ynglŷn â’r dydd hwnnw neu’r awr honno does neb yn gwybod, nid yr angylion yn y nef na’r Mab, dim ond y Tad.
33 Daliwch ati i edrych, arhoswch yn effro, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod pryd mae’r amser penodedig.
34 Mae fel dyn sy’n teithio dramor ac sydd wedi gadael ei dŷ a rhoi’r awdurdod i’w gaethweision, a gwaith i bob un ohonyn nhw, ac sydd wedi gorchymyn i geidwad y drws aros yn wyliadwrus.
35 Daliwch ati i fod yn wyliadwrus, felly, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod pryd mae meistr y tŷ yn dod, naill ai’n hwyr yn y dydd neu hanner nos neu cyn iddi wawrio* neu’n gynnar yn y bore.
36 Os nad ydych chi’n wyliadwrus, pan fydd ef yn dod yn sydyn, fe fydd yn dod o hyd ichi yn cysgu.
37 Ond yr hyn rydw i’n ei ddweud wrthoch chi, rydw i’n ei ddweud wrth bawb: Arhoswch yn wyliadwrus.”
Troednodiadau
^ Llyth., “o boenau geni; o wewyr esgor.”
^ Neu “sy’n dyfalbarhau.”
^ Neu “menywod.”
^ Llyth., “pan fydd y ceiliog yn canu.”