Yn Ôl Marc 5:1-43

  • Iesu’n anfon cythreuliaid i mewn i’r moch (1-20)

  • Merch Jairus; dynes yn cyffwrdd â chôt Iesu (21-43)

5  Yna daethon nhw i ochr draw y môr i mewn i ardal y Geraseniaid. 2  Ac yn syth ar ôl i Iesu ddod allan o’r cwch, dyma ddyn a oedd o dan rym ysbryd aflan yn dod ato o blith y beddrodau* i’w gyfarfod. 3  Roedd yn byw ymhlith y beddrodau, a hyd at yr amser hwnnw, doedd neb o gwbl wedi gallu ei rwymo’n sownd, hyd yn oed â chadwyn. 4  Roedd wedi cael ei glymu’n aml â rhwymau a chadwyni, ond fe wnaeth dorri’r cadwyni yn ddarnau a malu’r rhwymau; a doedd gan neb y nerth i’w rwystro. 5  Ac yn ddi-baid, nos a dydd, roedd yn gweiddi yn y beddrodau ac yn y mynyddoedd ac yn ei anafu ei hun â cherrig. 6  Ond pan welodd ef Iesu o bell, dyma’n rhedeg ac yn plygu i lawr o’i flaen. 7  Yna fe waeddodd â llais uchel: “Beth rwyt ti eisiau gen i, Iesu, Fab y Duw Goruchaf? Addo i mi o flaen Duw na fyddi di’n fy mhoenydio i.” 8  Oherwydd roedd Iesu wedi bod yn dweud wrtho: “Ysbryd aflan, tyrd allan o’r dyn.” 9  Ond gofynnodd Iesu iddo: “Beth ydy dy enw di?” Ac fe atebodd: “Fy enw i ydy Lleng, oherwydd bod ’na lawer ohonon ni.” 10  Ac roedd yn parhau i ymbil ar Iesu am iddo beidio ag anfon yr ysbrydion allan o’r wlad. 11  Nawr roedd ’na genfaint fawr o foch yn pori yno ar y mynydd. 12  Felly gwnaeth yr ysbrydion ymbil arno: “Anfona ni i mewn i’r moch, er mwyn inni allu mynd i mewn iddyn nhw.” 13  Ac fe roddodd ganiatâd iddyn nhw. Ar hynny daeth yr ysbrydion aflan allan a mynd i mewn i’r moch, a dyma’r genfaint yn rhuthro dros y dibyn i mewn i’r môr, tua 2,000 ohonyn nhw, a boddi yn y môr. 14  Ond gwnaeth y bugeiliaid ffoi ac adrodd y peth yn y ddinas ac yng nghefn gwlad, a daeth pobl i weld beth oedd wedi digwydd. 15  Felly daethon nhw at Iesu a gweld y dyn, yr un roedd y lleng wedi bod ynddo, yn eistedd â’i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll, a daeth ofn arnyn nhw. 16  Hefyd, gwnaeth y rhai a welodd y peth adrodd wrthyn nhw am sut digwyddodd hyn i’r dyn roedd y cythreuliaid wedi bod ynddo ac i’r moch. 17  Felly dechreuon nhw ymbil ar Iesu i fynd i ffwrdd o’u hardal nhw. 18  Nawr tra oedd Iesu’n mynd i mewn i’r cwch, dyma’r dyn roedd y cythreuliaid wedi bod ynddo yn erfyn arno i gael mynd gydag ef. 19  Fodd bynnag, ni roddodd ganiatâd iddo ond dywedodd wrtho: “Dos adref i dy berthnasau, ac adrodd iddyn nhw am yr holl bethau mae Jehofa wedi eu gwneud i ti a’r trugaredd mae wedi ei ddangos tuag atat ti.” 20  Aeth y dyn hwn i ffwrdd a dechrau cyhoeddi yn y Decapolis* yr holl bethau roedd Iesu wedi eu gwneud iddo, ac roedd yr holl bobl yn rhyfeddu. 21  Ar ôl i Iesu groesi unwaith eto mewn cwch i ochr arall y môr, daeth tyrfa fawr ato, ac roedd ef ar lan y môr. 22  Nawr daeth un o arweinwyr y synagog, o’r enw Jairus, ac wrth iddo weld Iesu, dyma’n syrthio wrth ei draed. 23  Fe wnaeth ymbil arno lawer gwaith, gan ddweud: “Mae fy merch fach yn ddifrifol wael.* Tyrd plîs a rho dy ddwylo arni er mwyn iddi wella a byw.” 24  Ar hynny aeth Iesu gydag ef, ac roedd ’na dyrfa fawr yn ei ddilyn ac yn gwasgu arno. 25  Nawr roedd ’na ddynes* a oedd wedi bod yn dioddef o waedlif am 12 mlynedd. 26  Roedd hi wedi dioddef yn fawr iawn dan ddwylo llawer o feddygon ac wedi gwario ei holl arian, a doedd hi ddim wedi gwella o gwbl ond, yn hytrach, wedi mynd yn waeth. 27  Pan glywodd hi’r adroddiadau am Iesu, daeth hi y tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd ei gôt, 28  oherwydd roedd hi’n dweud o hyd: “Os ydw i ond yn cyffwrdd â’i ddillad, bydda i’n gwella.” 29  Ac ar unwaith fe wnaeth ei gwaedlif sychu, ac roedd hi’n synhwyro yn ei chorff ei bod hi wedi cael ei hiacháu o’r salwch difrifol. 30  Ar unwaith sylweddolodd Iesu ynddo’i hun fod nerth wedi mynd allan ohono, a dyma’n troi yng nghanol y dyrfa a gofyn: “Pwy gyffyrddodd â fy nghôt?” 31  Ond dywedodd ei ddisgyblion wrtho: “Rwyt ti’n gweld y dyrfa yn gwasgu arnat ti, ac rwyt ti’n gofyn, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’” 32  Fodd bynnag, roedd yn edrych o gwmpas i weld pwy oedd wedi gwneud hyn. 33  Roedd y ddynes* wedi dychryn ac yn crynu, gan wybod beth oedd wedi digwydd iddi, a dyma hi’n syrthio o’i flaen ac yn dweud y cwbl wrtho. 34  Dywedodd ef wrthi: “Fy merch, mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn heddwch, nawr dy fod ti wedi cael dy iacháu o dy salwch difrifol.” 35  Tra oedd ef yn siarad, daeth rhai dynion o gartref arweinydd y synagog a dweud: “Mae dy ferch di wedi marw! Pam rwyt ti’n poeni’r Athro bellach?” 36  Ond clywodd Iesu eu geiriau a dywedodd wrth arweinydd y synagog: “Paid ag ofni,* ond dylet ti ymarfer ffydd.” 37  Nawr ni wnaeth adael i unrhyw un ei ddilyn heblaw am Pedr, Iago, ac Ioan brawd Iago. 38  Felly daethon nhw i dŷ arweinydd y synagog, a gwelodd Iesu’r cynnwrf a’r bobl yn wylo’n uchel ac yn galaru. 39  Ar ôl mynd i mewn, dywedodd ef wrthyn nhw: “Pam rydych chi’n wylo ac yn achosi’r cynnwrf yma? Dydy’r plentyn ddim wedi marw, cysgu mae hi.” 40  Ar hynny dechreuon nhw chwerthin yn ddirmygus am ei ben. Ond ar ôl eu hanfon nhw i gyd allan, dyma ef yn cymryd tad a mam y plentyn a’r rhai oedd gydag ef, a mynd i mewn i le roedd y plentyn. 41  Yna, gan gymryd llaw’r plentyn, dywedodd ef wrthi hi: “Talitha cwmi,” sy’n golygu o’i gyfieithu: “Fy merch fach, rydw i’n dweud wrthot ti, cod!” 42  Ac yn syth dyma’r ferch yn codi ac yn dechrau cerdded. (Roedd hi’n 12 mlwydd oed.) Ac ar unwaith roedden nhw ar ben eu digon oherwydd eu llawenydd mawr. 43  Ond gwnaeth Iesu eu gorchymyn nhw dro ar ôl tro* i beidio â gadael i neb glywed am hyn, a dywedodd y dylen nhw roi rhywbeth i’w fwyta iddi hi.

Troednodiadau

Neu “beddrodau coffa.”
Neu “yn Rhanbarth y Deg Dinas.”
Neu “yn tynnu at ei diwedd.”
Neu “fenyw.”
Neu “y fenyw.”
Neu “Stopia fod yn ofnus.”
Neu “gorchynnodd Iesu iddyn nhw’n llym.”