Yn Ôl Mathew 10:1-42
10 Felly galwodd ato ei 12 disgybl a rhoi awdurdod iddyn nhw dros ysbrydion aflan, er mwyn bwrw’r rhain allan ac er mwyn iacháu pob math o afiechydon a phob math o salwch.
2 Enwau’r 12 apostol yw’r rhain: Yn gyntaf, Simon, yr un sy’n cael ei alw’n Pedr, ac Andreas ei frawd; Iago fab Sebedeus ac Ioan ei frawd;
3 Philip a Bartholomeus; Tomos a Mathew y casglwr trethi; Iago fab Alffeus; a Thadeus;
4 Simon y Cananead;* a Jwdas Iscariot, a fradychodd Iesu yn nes ymlaen.
5 Y 12 hyn y gwnaeth Iesu eu hanfon allan, gan roi iddyn nhw’r cyfarwyddiadau canlynol: “Peidiwch â mynd at bobl y cenhedloedd, a pheidiwch â mynd i mewn i unrhyw un o ddinasoedd y Samariaid;
6 ond, yn hytrach, ewch yn unig at ddefaid coll tŷ Israel.
7 Wrth ichi fynd, pregethwch, gan ddweud: ‘Mae Teyrnas y nefoedd wedi dod yn agos.’
8 Ewch i iacháu’r rhai sy’n sâl, codwch y meirw, gwnewch y rhai gwahanglwyfus yn lân, bwriwch allan gythreuliaid. Gwnaethoch chi dderbyn heb dâl, rhowch heb dâl.
9 Peidiwch â chymryd aur nac arian na phres yn eich beltiau,
10 na bag bwyd ar gyfer y daith, na dau ddilledyn,* na sandalau, na ffon, oherwydd bod y gweithiwr yn haeddu ei fwyd.
11 “I ba bynnag ddinas neu bentref yr ewch chi, chwiliwch am bwy yno sy’n deilwng, ac arhoswch yno hyd nes ichi adael.
12 Pan fyddwch chi’n mynd i mewn i’r tŷ, cyfarchwch y rhai sydd yno.
13 Os yw’r tŷ yn deilwng, gadewch i’ch heddwch ddod arno; ond os nad yw’n deilwng, gadewch i’ch heddwch ddychwelyd atoch chi.
14 Ble bynnag nad oes neb yn eich derbyn chi nac yn gwrando ar eich geiriau, wrth ichi fynd allan o’r tŷ hwnnw neu’r ddinas honno, mae’n rhaid ichi ysgwyd y llwch oddi ar eich traed.
15 Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd hi’n haws i dir Sodom a Gomorra ar Ddydd y Farn nag i’r ddinas honno.
16 “Edrychwch! Rydw i’n eich anfon chi allan fel defaid ymhlith bleiddiaid; felly dangoswch eich hunain yn gall fel nadroedd* ac yn ddiniwed fel colomennod.
17 Gwyliwch rhag dynion, oherwydd byddan nhw yn eich rhoi chi yn nwylo’r llysoedd lleol a byddan nhw yn eich chwipio yn eu synagogau.
18 A byddwch yn cael eich llusgo gerbron llywodraethwyr a brenhinoedd er fy mwyn i, fel tystiolaeth iddyn nhw ac i’r cenhedloedd.
19 Fodd bynnag, pan fyddan nhw’n eich arestio, peidiwch â phryderu am sut i siarad nac am beth i’w ddweud, oherwydd y bydd yr hyn y byddwch yn ei ddweud yn cael ei roi i chi yn yr awr honno;
20 oherwydd nid chi yn unig sy’n siarad, ond ysbryd eich Tad sy’n siarad drwyddoch chi.
21 Ymhellach, bydd brawd yn anfon brawd i gael ei ladd, a thad yn anfon ei blentyn, a bydd plant yn gwrthryfela yn erbyn rhieni ac yn achosi iddyn nhw gael eu rhoi i farwolaeth.
22 A byddwch chi’n cael eich casáu gan bawb o achos fy enw i, ond bydd yr un sydd wedi dyfalbarhau* hyd y diwedd yn cael ei achub.
23 Pan fyddan nhw’n eich erlid chi mewn un ddinas, ffowch i un arall, oherwydd yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, ni fyddwch chi ar unrhyw gyfri yn gorffen teithio drwy ddinasoedd Israel nes bydd Mab y dyn yn cyrraedd.
24 “Dydy myfyriwr ddim yn uwch na’i athro, na chaethwas yn uwch na’i feistr.
25 Digon yw i’r myfyriwr fod fel ei athro, a’r caethwas fel ei feistr. Os yw pobl wedi galw meistr y tŷ yn Beelsebwl,* oni fyddan nhw’n sicr o alw’r rhai sydd yn ei dŷ yr un fath?
26 Felly peidiwch â’u hofni nhw, oherwydd does dim byd sydd wedi ei guddio na fydd yn cael ei ddatguddio, na dim byd sy’n gyfrinach na fydd yn cael ei ddatgelu.
27 Yr hyn rydw i’n ei ddweud wrthoch chi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni, a’r hyn rydw i’n ei sibrwd wrthoch chi, pregethwch o bennau’r tai.
28 A pheidiwch ag ofni’r rhai sy’n lladd y corff ond sydd ddim yn gallu lladd yr enaid;* yn hytrach, ofnwch yr un sy’n gallu dinistrio enaid a chorff yn Gehenna.*
29 Mae dau aderyn y to yn gwerthu am geiniog,* onid ydyn nhw? Ond eto ni fydd yr un ohonyn nhw’n syrthio i’r ddaear heb i’ch Tad wybod amdano.
30 Ond mae hyd yn oed pob un blewyn o wallt eich pennau wedi ei rifo.
31 Felly peidiwch ag ofni; rydych chithau’n werth mwy na llawer o adar y to.
32 “Pwy bynnag, felly, sy’n fy nghydnabod i gerbron dynion, bydda innau hefyd yn ei gydnabod yntau gerbron fy Nhad sydd yn y nefoedd.
33 Ond pwy bynnag sy’n fy ngwadu i gerbron dynion, bydda innau hefyd yn ei wadu yntau gerbron fy Nhad sydd yn y nefoedd.
34 Peidiwch â meddwl fy mod i wedi dod â heddwch i’r ddaear; nid i ddod â heddwch y des i, ond cleddyf.
35 Oherwydd fe wnes i ddod er mwyn achosi rhaniadau, rhwng dyn a’i dad, a rhwng merch a’i mam, a rhwng merch yng nghyfraith a’i mam yng nghyfraith.
36 Yn wir, gelynion dyn fydd ei deulu ei hun.
37 Dydy’r sawl sy’n caru tad neu fam yn fwy na fi ddim yn haeddu bod yn ddisgybl imi; a dydy’r sawl sy’n caru mab neu ferch yn fwy na fi ddim yn haeddu bod yn ddisgybl imi.
38 A dydy’r sawl sydd ddim yn cymryd ei stanc dienyddio* ac yn dilyn ar fy ôl i ddim yn haeddu bod yn ddisgybl imi.
39 Bydd pwy bynnag sy’n ceisio achub ei fywyd* yn ei golli, a bydd pwy bynnag sy’n colli ei fywyd* er fy mwyn i yn ei achub.
40 “Mae pwy bynnag sy’n eich derbyn chi yn fy nerbyn innau hefyd, ac mae pwy bynnag sy’n fy nerbyn i yn derbyn hefyd yr Un a wnaeth fy anfon i.
41 Bydd pwy bynnag sy’n derbyn proffwyd oherwydd ei fod yn broffwyd yn cael gwobr proffwyd, a bydd pwy bynnag sy’n derbyn dyn cyfiawn oherwydd ei fod yn ddyn cyfiawn yn cael gwobr dyn cyfiawn.
42 A phwy bynnag sy’n rhoi dim ond cwpanaid o ddŵr oer i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn oherwydd ei fod yn ddisgybl, rydw i’n dweud yn wir wrthoch chi, ni fydd ar unrhyw gyfri yn colli ei wobr.”
Troednodiadau
^ Neu “yr un selog.”
^ Neu “dilledyn ychwanegol.”
^ Neu “seirff.”
^ Neu “sy’n dyfalbarhau.”
^ Neu “Beelsebub.” Enw a roddwyd ar Satan, tywysog, neu reolwr, y cythreuliaid.
^ Neu “bywyd,” hynny yw, y gobaith o fyw eto yn y dyfodol.
^ Llyth., “am asarion.”
^ Roedd stanc yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dienyddio, ond yma mae’n amlwg yn cyfeirio at galedi a dioddefaint sy’n gysylltiedig â bod yn ddisgybl i Grist. Gweler Geirfa.
^ Neu “enaid.”
^ Neu “enaid.”