Yn Ôl Mathew 11:1-30

  • Clodfori Ioan Fedyddiwr (1-15)

  • Condemnio cenhedlaeth ddiymateb (16-24)

  • Iesu’n moli ei Dad am ffafrio’r gostyngedig (25-27)

  • Iau Iesu yn adfywio (28-30)

11  Pan oedd Iesu wedi gorffen rhoi cyfarwyddiadau i’w 12 disgybl, symudodd oddi yno i ddysgu a phregethu yn eu dinasoedd. 2  Ond ar ôl i Ioan glywed yn y carchar am weithredoedd y Crist, anfonodd ei ddisgyblion 3  er mwyn gofyn iddo: “Ai ti yw’r Un sy’n dod, neu a ddylen ni ddisgwyl un arall?” 4  Atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Ewch a dywedwch wrth Ioan am yr hyn rydych chi’n ei glywed ac yn ei weld: 5  Mae’r dall nawr yn gweld ac mae’r cloff yn cerdded, mae’r rhai gwahanglwyfus yn cael eu glanhau ac mae’r byddar yn clywed, mae’r meirw yn cael eu hatgyfodi a’r tlawd yn cael clywed y newyddion da. 6  Hapus yw’r un sydd ddim yn baglu o fy achos i.” 7  Wrth i’r rhai hyn fynd ar eu ffordd, dechreuodd Iesu siarad â’r tyrfaoedd am Ioan: “Beth gwnaethoch chi fynd allan i’r anialwch i’w weld? Corsen yn cael ei hysgwyd gan y gwynt? 8  Beth, felly, y gwnaethoch chi fynd allan i’w weld? Dyn wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth?* Yn wir, mae’r rhai sy’n gwisgo dillad esmwyth yn nhai brenhinoedd. 9  Felly, pam gwnaethoch chi fynd allan? Er mwyn gweld proffwyd? Ie, medda i wrthoch chi, a llawer mwy na phroffwyd. 10  Dyma’r un mae’n ysgrifenedig amdano: ‘Edrycha! Rydw i’n anfon fy negesydd o dy flaen di,* a fydd yn paratoi dy ffordd o dy flaen di!’ 11  Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, ymhlith y rhai sydd wedi cael eu geni o ferched,* ni chododd neb sy’n fwy na Ioan Fedyddiwr, ond mae’r un lleiaf yn Nheyrnas y nefoedd yn fwy nag ef. 12  O ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd nawr, Teyrnas y nefoedd yw’r nod y mae dynion yn anelu ato, ac mae’r rhai sy’n anelu’n ddyfal ato yn ei gyrraedd. 13  Oherwydd mae’r holl Broffwydi a’r Gyfraith wedi proffwydo hyd Ioan; 14  ac os ydych chi’n fodlon derbyn y peth, ef yw ‘Elias sydd i ddod.’ 15  Gadewch i’r un sydd â chlustiau wrando. 16  “Â phwy y bydda i’n cymharu’r genhedlaeth hon? Mae hi’n debyg i blant bach sy’n eistedd yn y farchnad ac yn siarad â’u ffrindiau, 17  gan ddweud: ‘Gwnaethon ni ganu’r ffliwt ichi, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; gwnaethon ni lefain, ond wnaethoch chi ddim galaru.’* 18  Yn yr un modd, doedd Ioan ddim yn bwyta nac yn yfed, ond mae pobl yn dweud, ‘Mae cythraul ynddo.’ 19  Roedd Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ond mae pobl yn dweud, ‘Edrychwch! Dyn barus sy’n yfed gormod o win, ffrind i gasglwyr trethi a phechaduriaid.’ Fodd bynnag, mae doethineb yn cael ei brofi’n gyfiawn* gan ei weithredoedd.”* 20  Yna dechreuodd ef geryddu’r dinasoedd lle digwyddodd y rhan fwyaf o’i weithredoedd nerthol,* oherwydd na wnaethon nhw edifarhau: 21  “Gwae di, Chorasin! Gwae di, Bethsaida! oherwydd petai’r gweithredoedd nerthol a ddigwyddodd ynoch chi wedi digwydd yn Tyrus a Sidon, bydden nhw wedi hen edifarhau mewn sachliain a lludw. 22  Ond rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd hi’n haws i Tyrus a Sidon ar Ddydd y Farn nag i chi. 23  A tithau, Capernaum, a fyddi di efallai’n cael dy ddyrchafu i’r nef? I lawr i’r Bedd* y byddi di’n dod; oherwydd petai’r gweithredoedd nerthol a ddigwyddodd ynot ti wedi digwydd yn Sodom, byddai wedi aros hyd heddiw. 24  Ond rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd hi’n haws i dir Sodom ar Ddydd y Farn nag i ti.” 25  Bryd hynny, dywedodd Iesu: “Rydw i’n dy foli di’n gyhoeddus, Dad, Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, oherwydd dy fod ti wedi cuddio’r pethau hyn rhag y rhai doeth a deallus ac wedi eu datguddio i blant bach. 26  Ie, O Dad, oherwydd dyma’r ffordd y gwnest ti ei chymeradwyo. 27  Mae pob peth wedi cael ei roi i mi gan fy Nhad, a does neb yn adnabod y Mab yn iawn heblaw’r Tad; a does neb chwaith yn adnabod y Tad yn iawn heblaw’r Mab ac unrhyw un mae’r Mab yn fodlon datguddio’r Tad iddo. 28  Dewch ata i, bob un ohonoch chi sy’n flinedig ac o dan lwyth trwm, a bydda i’n eich adfywio chi. 29  Cymerwch fy iau ar eich ysgwyddau a dysgwch gen i, oherwydd rydw i’n addfwyn ac yn ostyngedig o galon, a byddwch chi’n cael eich adfywio. 30  Oherwydd mae fy iau i yn hawdd ei chario, ac mae fy llwyth i yn ysgafn.”

Troednodiadau

Neu “dillad o’r ansawdd gorau; dillad cain?”
Llyth., “o flaen dy wyneb.”
Neu “o fenywod.”
Neu “wnaethoch chi ddim curo eich brest wrth alaru.”
Neu “yn cael ei gyfiawnhau.”
Neu “gan ei ganlyniadau.”
Neu “o’i wyrthiau.”
Neu “Hades,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.