Yn Ôl Mathew 12:1-50

  • Iesu, “Arglwydd y Saboth” (1-8)

  • Iacháu dyn â llaw wedi gwywo (9-14)

  • Gwas annwyl Duw (15-21)

  • Bwrw allan gythreuliaid drwy’r ysbryd glân (22-30)

  • Pechod heb faddeuant (31, 32)

  • Adnabod coeden wrth ei ffrwyth (33-37)

  • Arwydd Jona (38-42)

  • Ysbryd aflan yn dychwelyd (43-45)

  • Mam a brodyr Iesu (46-50)

12  Yr amser hwnnw aeth Iesu drwy’r caeau gwenith ar y Saboth. Roedd ei ddisgyblion wedi llwgu a dechreuon nhw dynnu tywysennau gwenith a’u bwyta.  Wrth weld hyn, dywedodd y Phariseaid wrtho: “Edrycha! Mae dy ddisgyblion yn gwneud rhywbeth sy’n anghyfreithlon ar y Saboth.”  Dywedodd wrthyn nhw: “Onid ydych chi wedi darllen am beth wnaeth Dafydd pan oedd ef a’r dynion gydag ef wedi llwgu?  Am sut yr aeth i mewn i dŷ Dduw ac am sut y gwnaethon nhw fwyta’r bara a oedd wedi ei gyflwyno i Dduw,* rhywbeth nad oedd yn gyfreithlon iddo ef nac i’r rhai a oedd gydag ef ei fwyta, ond i’r offeiriaid yn unig?  Neu onid ydych chi wedi darllen yn y Gyfraith am yr offeiriaid yn y deml yn torri’r Saboth* ac yn parhau’n ddieuog?  Ond rydw i’n dweud wrthoch chi fod yr un sydd yma yn fwy pwysig na’r deml.  Fodd bynnag, petasech chi wedi deall beth mae hyn yn ei olygu, ‘Trugaredd rydw i eisiau, nid aberth,’ fyddech chi ddim wedi condemnio’r rhai dieuog.  Oherwydd Mab y dyn ydy Arglwydd y Saboth.”  Ar ôl gadael y lle hwnnw, aeth i mewn i’w synagog nhw, 10  ac edrycha! roedd ’na ddyn a’i law wedi gwywo!* Felly gofynnon nhw iddo, “Ydy hi’n gyfreithlon i iacháu pobl ar y Saboth?” fel y gallen nhw ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn. 11  Dywedodd wrthyn nhw: “Petai un ddafad gynnoch chi a’r ddafad honno yn syrthio i dwll ar y Saboth, a fyddai unrhyw un ohonoch chi yn gwrthod gafael ynddi a’i chodi allan? 12  Gymaint mwy gwerthfawr yw dyn na dafad! Felly mae hi’n gyfreithlon i wneud rhywbeth da ar y Saboth.” 13  Yna dywedodd wrth y dyn: “Estynna dy law.” A dyma’n ei hestyn hi, a chafodd ei gwneud yn iach fel y llaw arall. 14  Ond aeth y Phariseaid allan a chynllwynio yn ei erbyn er mwyn ei ladd. 15  Pan ddaeth Iesu i wybod am hyn, dyma’n mynd oddi yno. Gwnaeth llawer o bobl eraill ei ddilyn hefyd, ac fe iachaodd nhw i gyd, 16  ond gorchmynnodd yn llym iddyn nhw beidio â dweud pwy oedd ef, 17  er mwyn cyflawni’r hyn a ddywedwyd drwy Eseia’r proffwyd, a ddywedodd: 18  “Edrycha! Fy ngwas, yr un rydw i wedi ei ddewis, fy mab annwyl, ac mae’n fy mhlesio i yn fawr iawn!* Bydda i’n rhoi fy ysbryd arno, a bydd yn dangos i’r cenhedloedd beth yw gwir gyfiawnder. 19  Ni fydd yn cweryla nac yn gweiddi, ac ni fydd neb yn clywed ei lais yn y prif strydoedd. 20  Ni fydd yn torri corsen sydd wedi ei phlygu, ac ni fydd yn diffodd cannwyll sy’n mudlosgi, nes iddo ddod â chyfiawnder. 21  Yn wir, yn ei enw ef y bydd cenhedloedd yn gobeithio.” 22  Yna dyma nhw’n dod â dyn dall a mud ato a oedd wedi ei feddiannu gan gythraul, ac iachaodd Iesu ef, nes bod y dyn mud yn gallu siarad a gweld. 23  Wel, roedd yr holl dyrfaoedd wedi synnu a dechreuon nhw ddweud: “Ydy hi’n bosib mai hwn ydy Mab Dafydd?” 24  Pan glywodd y Phariseaid hyn, dywedon nhw: “Dydy hwn ddim yn bwrw cythreuliaid allan dim ond drwy gyfrwng Beelsebwl,* rheolwr y cythreuliaid.” 25  Roedd Iesu yn gwybod beth oedd yn mynd trwy eu meddyliau, a dywedodd wrthyn nhw: “Mae pob teyrnas sydd wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun yn dod i ddinistr, a phob dinas neu dŷ sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni fydd yn sefyll. 26  Yn yr un modd, os ydy Satan yn bwrw allan Satan, mae wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun; sut felly y bydd ei deyrnas yn sefyll? 27  Ar ben hynny, os ydw i’n bwrw’r cythreuliaid allan drwy gyfrwng Beelsebwl, drwy gyfrwng pwy mae eich meibion chi yn eu bwrw nhw allan? Dyma pam y byddan nhw’n farnwyr arnoch chi. 28  Ond os mai drwy gyfrwng ysbryd Duw rydw i’n bwrw’r cythreuliaid allan, mae Teyrnas Dduw yn wir wedi mynd heibio ichi.* 29  Neu sut gall unrhyw un fynd i mewn i dŷ dyn cryf a dwyn ei eiddo oni bai ei fod yn gyntaf yn rhwymo’r dyn cryf hwnnw? Dim ond wedyn y gallai gymryd popeth o’i dŷ. 30  Mae pwy bynnag sydd ddim ar fy ochr i yn fy erbyn i, ac mae pwy bynnag sydd ddim yn casglu gyda mi yn gwasgaru. 31  “Am y rheswm hwn rydw i’n dweud wrthoch chi, bydd dynion yn cael maddeuant am bob math o bechod a chabledd, ond ni fyddan nhw’n cael maddeuant am gablu yn erbyn yr ysbryd. 32  Er enghraifft, bydd pwy bynnag sy’n dweud gair yn erbyn Mab y dyn yn cael maddeuant; ond ni fydd pwy bynnag sy’n siarad yn erbyn yr ysbryd glân yn cael maddeuant, nid yn y system hon* nac yn yr un sydd i ddod. 33  “Naill ai rydych chi’n tyfu coeden dda sydd â ffrwyth da neu rydych chi’n tyfu coeden ddrwg sydd â ffrwyth drwg, oherwydd wrth ei ffrwyth y mae’r goeden yn cael ei hadnabod. 34  Gwiberod* ydych chi, sut gallwch chi ddweud pethau da a chithau’n ddrwg? Oherwydd o lawnder y galon y mae’r geg yn siarad. 35  Mae’r dyn da o’i drysor da yn anfon pethau da allan, ond mae’r dyn drwg o’i drysor drwg yn anfon pethau drwg allan. 36  Rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd dynion yn rhoi cyfri ar Ddydd y Farn am bob gair di-werth maen nhw’n ei ddweud; 37  oherwydd wrth dy eiriau y byddi di’n cael dy ddyfarnu’n gyfiawn, ac wrth dy eiriau y byddi di’n cael dy gondemnio.” 38  Yna fel ateb iddo, dywedodd rhai o’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid: “Athro, rydyn ni eisiau gweld arwydd gen ti.” 39  Atebodd yntau drwy ddweud wrthyn nhw: “Mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus* yn parhau i geisio arwydd, ond ni fydd unrhyw arwydd yn cael ei roi iddi heblaw am arwydd y proffwyd Jona. 40  Oherwydd fel yr oedd Jona ym mol y pysgodyn anferth am dri diwrnod a thair nos, felly y bydd Mab y dyn yn nyfnder y ddaear* am dri diwrnod a thair nos. 41  Bydd dynion Ninefe yn cael eu hatgyfodi yn ystod y farn gyda’r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio, oherwydd eu bod nhw wedi edifarhau ar ôl clywed pregethu Jona. Ond edrychwch! mae rhywbeth mwy na Jona yma. 42  Bydd brenhines y de yn cael ei hatgyfodi yn ystod y farn gyda’r genhedlaeth hon ac yn ei chondemnio, oherwydd ei bod hi wedi dod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon. Ond edrychwch! mae rhywbeth mwy na Solomon yma. 43  “Pan fydd ysbryd aflan yn dod allan o ddyn, mae’n mynd trwy lefydd sydd heb ddŵr yn chwilio am le i orffwys ac nid yw’n dod o hyd i unrhyw le. 44  Yna mae’n dweud, ‘Bydda i’n mynd yn ôl i fy nhŷ o le symudais i,’ ac ar ôl cyrraedd, mae’n gweld bod y tŷ yn wag ond wedi ei ysgubo’n lân a’i addurno. 45  Yna mae’n mynd ac yn cymryd gydag ef saith ysbryd arall sy’n fwy drwg nag ef, ac ar ôl mynd i mewn, maen nhw’n ymgartrefu yno; ac mae cyflwr y dyn hwnnw yn waeth ar y diwedd nag yr oedd ar y cychwyn. Dyna sut y bydd hi hefyd i’r genhedlaeth ddrwg hon.” 46  Tra oedd yn dal i siarad â’r tyrfaoedd, roedd ei fam a’i frodyr yn sefyll y tu allan, yn ceisio siarad ag ef. 47  Felly dywedodd rhywun wrtho: “Edrycha! Mae dy fam a dy frodyr yn sefyll y tu allan, yn ceisio siarad â ti.” 48  Atebodd Iesu drwy ddweud wrth yr un a siaradodd ag ef: “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?” 49  Gan estyn ei law at ei ddisgyblion, dywedodd: “Edrycha! Dyma fy mam a fy mrodyr! 50  Pwy bynnag sy’n gwneud ewyllys fy Nhad sydd yn y nef, hwn yw fy mrawd a fy chwaer a fy mam.”

Troednodiadau

Neu “y bara gosod.”
Neu “halogi’r Saboth.”
Neu “wedi ei pharlysu.”
Neu “yr un rydw i wedi ei gymeradwyo!”
Enw a roddwyd ar Satan. Neu “Beelsebub.”
Llyth., “wedi dod arnoch chi.”
Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.
Neu “Epil gwiberod.”
Neu “ac anffyddlon.”
Neu “yng nghalon y ddaear.”