Yn Ôl Mathew 14:1-36
14 Yr amser hwnnw clywodd Herod, rheolwr y rhanbarth,* yr hanes am Iesu
2 a dywedodd wrth ei weision: “Hwn yw Ioan Fedyddiwr. Cafodd ei godi o’r meirw, a dyna pam mae’r gweithredoedd nerthol hyn yn gweithredu ynddo.”
3 Roedd Herod* wedi arestio Ioan ac wedi ei rwymo a’i roi yn y carchar oherwydd Herodias, gwraig Philip ei frawd,
4 gan fod Ioan wedi bod yn dweud wrtho: “Dydy hi ddim yn gyfreithlon i ti ei chael hi.”
5 Fodd bynnag, er ei fod eisiau ei ladd, roedd arno ofn y dyrfa, oherwydd eu bod nhw’n ei ystyried yn broffwyd.
6 Ond pan oedd pen-blwydd Herod yn cael ei ddathlu, gwnaeth merch Herodias ddawnsio ar gyfer yr achlysur a phlesio Herod gymaint
7 nes iddo addo ar ei lw roi iddi beth bynnag y byddai hi’n gofyn amdano.
8 Yna dyma hithau, o dan berswâd ei mam, yn dweud: “Rho i mi yma ben Ioan Fedyddiwr ar ddysgl.”
9 Er ei fod yn drist iawn, gwnaeth y brenin, oherwydd ei lwon a’r rhai a oedd yn bwyta gydag ef, orchymyn i ben Ioan gael ei roi iddi.
10 Felly dyma’n anfon milwr i dorri pen Ioan yn y carchar.
11 Daeth ef â’i ben ar ddysgl a’i roi i’r ferch, a daeth hi ag ef i’w mam.
12 Yn nes ymlaen daeth ei ddisgyblion a chymryd ei gorff a’i gladdu; yna daethon nhw i adrodd yr hanes wrth Iesu.
13 Pan glywodd Iesu beth a ddywedon nhw, aeth oddi yno mewn cwch i le unig er mwyn bod ar ei ben ei hun. Ond gwnaeth y tyrfaoedd, ar ôl dod i glywed am hyn, ei ddilyn drwy gerdded o’r dinasoedd.
14 Pan ddaeth i’r lan, fe welodd dyrfa fawr, ac roedd yn teimlo piti drostyn nhw, a dyma’n iacháu eu rhai sâl.
15 Ond pan oedd hi’n dechrau nosi, daeth ei ddisgyblion ato a dweud: “Lle unig ydy hwn ac mae hi eisoes yn hwyr; anfona’r tyrfaoedd i ffwrdd, er mwyn iddyn nhw fynd i’r pentrefi a phrynu bwyd iddyn nhw eu hunain.”
16 Fodd bynnag, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Does dim rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd; rhowch chithau rywbeth i’w fwyta iddyn nhw.”
17 Dywedon nhw wrtho: “Dim ond pum torth a dau bysgodyn sydd gynnon ni yma.”
18 Dywedodd yntau: “Dewch â nhw yma i mi.”
19 A gorchmynnodd y tyrfaoedd i eistedd ar y glaswellt.* Yna cymerodd y pum torth a’r ddau bysgodyn, ac wrth edrych i fyny i’r nef, dywedodd fendith, ac ar ôl torri’r torthau, rhoddodd nhw i’r disgyblion, a rhoddodd y disgyblion nhw i’r tyrfaoedd.
20 Felly gwnaethon nhw i gyd fwyta a chael digon, a chodon nhw’r tameidiau oedd dros ben, 12 llond basged.
21 Roedd tua 5,000 o ddynion yn bwyta, yn ogystal â merched* a phlant bach.
22 Yna, heb oedi, dywedodd wrth ei ddisgyblion am fynd i mewn i’r cwch a mynd o’i flaen i’r lan gyferbyn, tra oedd yntau yn anfon y tyrfaoedd i ffwrdd.
23 Ar ôl anfon y tyrfaoedd i ffwrdd, aeth i fyny’r mynydd ar ei ben ei hun i weddïo. Ar ôl iddi nosi, roedd yno ar ei ben ei hun.
24 Erbyn hyn roedd y cwch yn bell iawn o’r tir,* yn brwydro yn erbyn y tonnau oherwydd bod y gwynt yn eu herbyn nhw.
25 Ond rhwng tri a chwech y bore* daeth atyn nhw, yn cerdded ar y môr.
26 Pan welson nhw ef yn cerdded ar y môr, roedd y disgyblion wedi dychryn, gan ddweud: “Ysbryd sydd yna!” A gwaeddon nhw mewn ofn.
27 Ond ar unwaith siaradodd Iesu â nhw, gan ddweud: “Byddwch yn ddewr! Fi sydd yma; peidiwch ag ofni.”
28 Atebodd Pedr ef: “Arglwydd, os mai ti sydd yna, gorchymyn imi ddod atat ti dros y dŵr.”
29 Dywedodd yntau: “Tyrd!” Felly daeth Pedr allan o’r cwch a cherdded dros y dŵr a mynd tuag at Iesu.
30 Ond pan edrychodd ar y storm wynt, daeth yn ofnus. A phan ddechreuodd suddo, gwaeddodd: “Arglwydd, achuba fi!”
31 Gan estyn ei law ar unwaith, gafaelodd Iesu ynddo a dweud wrtho: “Ti o ychydig ffydd, pam gwnest ti ddechrau amau?”
32 Ar ôl iddyn nhw fynd i mewn i’r cwch, gwnaeth y storm wynt dawelu.
33 Yna gwnaeth y rhai a oedd yn y cwch ymgrymu* o’i flaen, gan ddweud: “Ti yn wir yw Mab Duw.”
34 A dyma nhw’n croesi’r môr a dod i lanio yn Genesaret.
35 Pan wnaeth dynion y lle hwnnw ei adnabod, rhoddon nhw wybod i bawb yn yr holl ardal honno o gwmpas, a daeth pobl â phawb oedd yn sâl ato.
36 A gwnaethon nhw erfyn arno am iddyn nhw ond cael cyffwrdd ag ymyl ei gôt, ac fe gafodd pawb a gyffyrddodd â’r gôt eu hiacháu yn llwyr.
Troednodiadau
^ Llyth., “y tetrarch.”
^ Neu “porfa.”
^ Neu “menywod.”
^ Llyth., “roedd y cwch lawer o stadia o’r tir.” Roedd stadiwm yn gyfartal â 185 m (606.95 tr).
^ Llyth., “yn y bedwaredd wylfa o’r nos.”
^ Neu “blygu.”