Yn Ôl Mathew 19:1-30
19 Pan oedd Iesu wedi gorffen siarad am y pethau hyn, aeth o Galilea a daeth i ffiniau* Jwdea yr ochr draw i’r Iorddonen.
2 Hefyd, dilynodd tyrfaoedd mawr ef, a gwnaeth eu hiacháu nhw yno.
3 A daeth Phariseaid ato gyda’r bwriad o roi prawf arno, a gofynnon nhw: “Ydy hi’n gyfreithlon i ddyn ysgaru ei wraig am bob math o achosion?”
4 Atebodd yntau drwy ddweud: “Onid ydych chi wedi darllen bod yr un a wnaeth eu creu nhw o’r dechreuad wedi eu gwneud nhw’n wryw a benyw
5 a dywedodd: ‘Am y rheswm hwn, bydd dyn yn gadael ei dad a’i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd’?
6 Fel dydyn nhw ddim yn ddau bellach, ond yn un cnawd. Felly, yr hyn y mae Duw wedi ei uno,* ni ddylai’r un dyn ei wahanu.”
7 Dywedon nhw wrtho: “Pam, felly, gwnaeth Moses orchymyn rhoi tystysgrif ysgariad a’i hysgaru hi?”
8 Dywedodd ef wrthyn nhw: “Oherwydd eich bod chi’n galon-galed, rhoddodd Moses ganiatâd ichi i ysgaru eich gwragedd, ond nid felly yr oedd hi o’r dechreuad.
9 Rydw i’n dweud wrthoch chi fod pwy bynnag sy’n ysgaru ei wraig, heblaw ar sail anfoesoldeb rhywiol,* ac sy’n priodi un arall yn godinebu.”
10 Dywedodd y disgyblion wrtho: “Os mai dyna’r sefyllfa rhwng dyn a’i wraig, gwell fyddai peidio â phriodi.”
11 Dywedodd yntau wrthyn nhw: “Nid pob dyn sy’n derbyn yr ymadrodd hwn, dim ond y rhai sydd â’r rhodd.
12 Oherwydd mae ’na eunuchiaid sydd wedi cael eu geni fel ’na, ac mae ’na eunuchiaid sydd wedi cael eu gwneud yn eunuchiaid gan ddynion, ac mae ’na eunuchiaid sydd wedi eu gwneud eu hunain yn eunuchiaid er mwyn Teyrnas y nefoedd. A’r sawl sy’n gallu aros heb briodi, gad iddo wneud hynny.”
13 Yna gwnaeth pobl ddod â phlant bach ato er mwyn iddo roi ei ddwylo arnyn nhw a gweddïo drostyn nhw, ond gwnaeth y disgyblion eu ceryddu nhw.
14 Fodd bynnag, dywedodd Iesu: “Gadewch i’r plant bach fod, a pheidiwch â cheisio eu stopio nhw rhag dod ata i, oherwydd bod Teyrnas y nefoedd yn perthyn i rai o’r fath.”
15 A rhoddodd ei ddwylo arnyn nhw ac aeth oddi yno.
16 Nawr edrycha! daeth rhywun ato a dweud: “Athro, pa bethau da sy’n rhaid imi eu gwneud er mwyn cael bywyd tragwyddol?”
17 Dywedodd yntau wrtho: “Pam rwyt ti’n gofyn imi am beth sy’n dda? Dim ond Un sy’n dda. Os wyt ti eisiau cael bywyd, cadwa’r gorchmynion yn barhaol.”
18 Dywedodd yntau wrtho: “Pa rai?” Dywedodd Iesu: “Paid â llofruddio, paid â godinebu, paid â dwyn, paid â rhoi camdystiolaeth,
19 anrhydedda dy dad a dy fam, ac mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun.”
20 Dywedodd y dyn ifanc wrtho: “Rydw i wedi cadw’r rhain i gyd; beth arall sy’n rhaid imi ei wneud?”
21 Dywedodd Iesu wrtho: “Os wyt ti eisiau bod yn berffaith,* dos a gwertha dy eiddo a rho i’r tlawd, ac fe fydd gen ti drysor yn y nef; yna tyrd, dilyna fi.”
22 Pan wnaeth y dyn ifanc glywed hyn, aeth i ffwrdd yn hynod o drist, oherwydd bod ganddo lawer o eiddo.
23 Yna dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi y bydd hi’n anodd i ddyn cyfoethog fynd i mewn i Deyrnas y nefoedd.
24 Eto rydw i’n dweud wrthoch chi, mae’n haws i gamel fynd trwy dwll nodwydd nag i ddyn cyfoethog fynd i mewn i Deyrnas Dduw.”
25 Pan glywodd y disgyblion hynny, roedden nhw wedi rhyfeddu’n fawr iawn, gan ddweud: “Pwy yn wir sy’n gallu cael ei achub?”
26 Wrth edrych ym myw eu llygaid, dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Gyda dynion mae hyn yn amhosib, ond gyda Duw mae pob peth yn bosib.”
27 Yna atebodd Pedr drwy ddweud: “Edrycha! Rydyn ni wedi gadael pob peth a dy ddilyn di; beth, felly, fydd ’na i ni?”
28 Dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, yn yr ail-greu, pan fydd Mab y dyn yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus, fe fyddwch chi sydd wedi fy nilyn i yn eistedd ar 12 gorsedd, yn barnu 12 llwyth Israel.
29 A bydd pob un sydd wedi gadael tai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i yn derbyn ganwaith cymaint ac yn etifeddu bywyd tragwyddol.
30 “Ond bydd llawer sydd yn gyntaf yn olaf, a bydd yr olaf yn gyntaf.