Yn Ôl Mathew 22:1-46
22 Unwaith eto siaradodd Iesu â nhw mewn damhegion, gan ddweud:
2 “Mae Teyrnas y nefoedd yn debyg i frenin a wnaeth baratoi gwledd briodas ar gyfer ei fab.
3 Ac anfonodd ei weision i alw’r rhai a oedd wedi cael eu gwahodd i’r wledd briodas, ond doedden nhw ddim yn fodlon dod.
4 Unwaith eto anfonodd ef weision eraill, gan ddweud, ‘Dywedwch wrth y rhai sydd wedi cael eu gwahodd: “Edrychwch! Rydw i wedi paratoi fy nghinio, mae fy nheirw a fy anifeiliaid gorau wedi cael eu lladd, ac mae popeth yn barod. Dewch i’r wledd briodas.”’
5 Ond anwybyddon nhw hyn a mynd i ffwrdd, un i’w gae ei hun, un arall i’w fusnes;
6 ond gwnaeth y lleill afael yn ei weision, a’u trin nhw’n ddigywilydd a’u lladd.
7 “Gwylltiodd y brenin ac anfon ei fyddinoedd a lladd y llofruddion hynny a llosgi eu dinas.
8 Yna dywedodd wrth ei weision, ‘Mae’r wledd briodas yn barod, ond doedd y rhai a oedd wedi eu gwahodd ddim yn haeddu cael dod.
9 Felly, ewch i’r ffyrdd sy’n arwain allan o’r ddinas, a gwahoddwch unrhyw un rydych chi’n dod ar ei draws i’r wledd briodas.’
10 Felly, aeth y gweision hynny allan i’r ffyrdd a chasglu pawb oedd yno, y drwg a’r da; ac roedd neuadd y briodas wedi ei llenwi â’r rhai a oedd yn bwyta.
11 “Pan ddaeth y brenin i weld y gwesteion, gwelodd ddyn heb wisg briodas amdano.
12 Felly dywedodd wrtho, ‘Gyfaill, sut dest ti i mewn yma heb wisg briodas?’ Doedd ganddo ddim ateb.
13 Yna dywedodd y brenin wrth ei weision, ‘Rhwymwch ei ddwylo a’i draed a thaflwch ef i’r tywyllwch y tu allan. Yno y bydd yn wylo ac yn crensian ei ddannedd.’
14 “Oherwydd mae llawer yn cael eu gwahodd, ond ychydig yn cael eu dewis.”
15 Yna aeth y Phariseaid a chynllwynio gyda’i gilydd er mwyn ei dwyllo i ddweud rhywbeth anghywir.
16 Felly dyma nhw’n anfon eu disgyblion ato, ynghyd â chefnogwyr Herod, gan ddweud: “Athro, rydyn ni’n gwybod dy fod ti’n dweud y gwir ac yn dysgu ffordd Duw yn unol â’r hyn sy’n wir, a dwyt ti ddim yn ceisio cymeradwyaeth dynion, oherwydd dwyt ti ddim yn edrych ar bryd a gwedd pobl.
17 Dyweda wrthon ni, felly, beth rwyt ti’n ei feddwl? Ydy hi’n gyfreithlon* i dalu trethi i Gesar neu ddim?”
18 Ond roedd Iesu’n gwybod am eu cynllun drwg, a dywedodd: “Pam rydych chi’n rhoi prawf arna i, ragrithwyr?
19 Dangoswch geiniog y dreth imi.” Daethon nhw â denariws ato.
20 Dywedodd wrthyn nhw: “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?”
21 Dywedon nhw: “Cesar.” Yna dywedodd yntau wrthyn nhw: “Felly, talwch bethau Cesar yn ôl i Gesar, ond pethau Duw i Dduw.”
22 Pan glywson nhw hynny, roedden nhw wedi synnu, a gwnaethon nhw ei adael a mynd i ffwrdd.
23 Ar y diwrnod hwnnw daeth y Sadwceaid, sy’n dweud nad oes atgyfodiad, a gofyn iddo:
24 “Athro, dywedodd Moses: ‘Os bu farw unrhyw ddyn heb gael plant, bydd rhaid i’w frawd briodi ei wraig a magu plant ar gyfer ei frawd.’
25 Roedd ’na saith brawd yn ein plith. Gwnaeth yr un cyntaf briodi a marw, ac oherwydd nad oedd ganddo blant, gadawodd ei wraig i’w frawd.
26 Digwyddodd yr un peth gyda’r ail a’r trydydd, hyd at y seithfed.
27 Yn olaf, bu farw’r ddynes.*
28 Felly yn yr atgyfodiad, gwraig pa un o’r saith fydd hi? Oherwydd roedd hi’n wraig i bob un ohonyn nhw.”
29 Atebodd Iesu drwy ddweud wrthyn nhw: “Rydych chi’n anghywir, oherwydd dydych chi ddim yn adnabod yr Ysgrythurau nac yn deall grym Duw;
30 oherwydd yn yr atgyfodiad nid yw dynion na merched* yn priodi, ond maen nhw fel angylion yn y nef.
31 Ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, onid ydych chi wedi darllen yr hyn a ddywedodd Duw wrthoch chi:
32 ‘Fi ydy Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob’? Nid Duw’r meirw ydy ef, ond y rhai byw.”
33 Pan glywodd y tyrfaoedd hynny, roedden nhw wedi rhyfeddu at ei ddysgu.
34 Ar ôl i’r Phariseaid glywed ei fod wedi distewi’r Sadwceaid, daethon nhw at ei gilydd mewn un grŵp.
35 A dyma un ohonyn nhw, arbenigwr yn y Gyfraith, yn rhoi prawf arno drwy ofyn:
36 “Athro, beth yw’r gorchymyn pwysicaf yn y Gyfraith?”
37 Dywedodd wrtho: “‘Mae’n rhaid iti garu Jehofa dy Dduw â dy holl galon ac â dy holl enaid* ac â dy holl feddwl.’
38 Hwn yw’r gorchymyn pwysicaf a’r cyntaf.
39 Yr ail, sy’n debyg iddo, ydy: ‘Mae’n rhaid iti garu dy gymydog fel ti dy hun.’
40 Ar y ddau orchymyn hyn mae’r holl Gyfraith yn dibynnu, a’r Proffwydi.”
41 Tra oedd y Phariseaid gyda’i gilydd, gofynnodd Iesu iddyn nhw:
42 “Beth rydych chi’n ei feddwl am y Crist? Mab pwy ydy ef?” Dywedon nhw wrtho: “Mab Dafydd.”
43 Gofynnodd iddyn nhw: “Felly, pam mae Dafydd, wedi ei ysbrydoli gan Dduw, yn ei alw’n Arglwydd, gan ddweud,
44 ‘Dywedodd Jehofa wrth fy Arglwydd: “Eistedda ar fy llaw dde nes imi roi dy elynion o dan dy draed”’?
45 Os, felly, mae Dafydd yn ei alw’n Arglwydd, sut mae Crist yn fab iddo?”
46 A doedd neb yn gallu ateb yr un gair iddo, ac o’r diwrnod hwnnw ymlaen, doedd neb yn meiddio ei gwestiynu ymhellach.