Yn Ôl Mathew 25:1-46
25 “Y pryd hynny bydd Teyrnas y nefoedd yn debyg i ddeg gwyryf a gymerodd eu lampau a mynd allan i gyfarfod â’r priodfab.
2 Roedd pump ohonyn nhw’n ffôl, a phump yn gall.*
3 Roedd y rhai ffôl wedi cymryd eu lampau ond heb fynd ag olew gyda nhw,
4 ond roedd y rhai call wedi cymryd olew yn eu fflasgiau ynghyd â’u lampau.
5 Tra oedd y priodfab yn oedi, daethon nhw i gyd yn gysglyd a syrthio i gysgu.
6 Yng nghanol y nos dyma rywun yn gweiddi: ‘Dyma’r priodfab! Ewch allan i’w gyfarfod.’
7 Yna cododd y gwyryfon hynny i gyd a pharatoi eu lampau.
8 Dywedodd y rhai ffôl wrth y rhai call, ‘Rhowch ychydig o’ch olew inni, oherwydd mae ein lampau ni ar fin diffodd.’
9 Atebodd y rhai call gan ddweud: ‘Efallai na fydd digon i ni ac i chithau. Ewch yn hytrach i’r rhai sy’n ei werthu, a phrynu rhywfaint ohono i chi’ch hunain.’
10 Tra oedden nhw’n mynd i’w brynu, fe ddaeth y priodfab. Aeth y gwyryfon a oedd yn barod i mewn gydag ef i’r wledd briodas, ac fe gafodd y drws ei gau.
11 Yn ddiweddarach, daeth gweddill y gwyryfon hefyd, gan ddweud, ‘Syr, Syr, agora’r drws inni!’
12 Atebodd yntau drwy ddweud, ‘Rydw i’n dweud y gwir wrthoch chi, dydw i ddim yn eich adnabod chi.’
13 “Daliwch ati i fod yn wyliadwrus, felly, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod y dydd na’r awr.
14 “Oherwydd y mae fel dyn a oedd ar fin teithio dramor ac a alwodd ei weision ato a rhoi ei eiddo yn eu gofal.
15 Rhoddodd bum talent* i un, dwy i un arall, ac un i un arall eto, i bob un yn ôl ei allu ei hun, ac fe aeth dramor.
16 Ar unwaith fe aeth yr un a dderbyniodd bum talent a gwneud busnes â nhw ac ennill pum ychwanegol.
17 Yn yr un modd, gwnaeth yr un a dderbyniodd ddwy ennill dwy ychwanegol.
18 Ond gwnaeth y gwas* a dderbyniodd un yn unig fynd i ffwrdd a chloddio twll yn y ddaear a chuddio arian ei feistr.
19 “Ar ôl amser maith, daeth meistr y gweision hynny a setlo’r cyfrifon gyda nhw.
20 Felly daeth yr un a dderbyniodd bum talent ymlaen a chyflwyno pum talent ychwanegol, gan ddweud, ‘Feistr, rhoist ti bum talent yn fy ngofal i; edrycha, rydw i wedi ennill pum talent arall.’
21 Dywedodd ei feistr wrtho: ‘Da iawn ti, fy ngwas da a ffyddlon! Roeddet ti’n ffyddlon wrth ofalu am ychydig o bethau. Rydw i’n mynd i dy benodi di i ofalu am lawer o bethau. Tyrd i lawenhau gyda dy feistr.’
22 Wedyn daeth yr un a dderbyniodd ddwy dalent ymlaen a dweud, ‘Feistr, rhoist ti ddwy dalent yn fy ngofal i; edrycha, rydw i wedi ennill dwy dalent arall.’
23 Dywedodd ei feistr wrtho: ‘Da iawn ti, fy ngwas da a ffyddlon! Roeddet ti’n ffyddlon wrth ofalu am ychydig o bethau. Rydw i’n mynd i dy benodi di i ofalu am lawer o bethau. Tyrd i lawenhau gyda dy feistr.’
24 “Yn olaf daeth y gwas a dderbyniodd un dalent ymlaen a dweud: ‘Feistr, roeddwn i’n gwybod dy fod ti’n ddyn caled, yn medi lle nad oeddet ti wedi hau ac yn casglu lle nad oeddet ti wedi llafurio.*
25 Felly cododd ofn arna i a gwnes i fynd i guddio dy dalent yn y ddaear. Edrycha, rydw i’n ei rhoi yn ôl iti.’
26 Atebodd ei feistr drwy ddweud wrtho: ‘Y gwas drwg a diog, roeddet ti’n gwybod, oeddet ti, fy mod i wedi medi lle nad oeddwn i wedi hau a chasglu lle nad oeddwn i wedi llafurio?*
27 Wel, dylet ti fod wedi rhoi fy arian yn y banc felly, ac ar ôl imi gyrraedd fe fyddwn i wedi ei dderbyn yn ôl gyda llog.
28 “‘Felly, cymerwch y dalent oddi arno a’i rhoi i’r un sydd â’r deg talent.
29 Oherwydd i bob un sydd ganddo, bydd mwy yn cael ei roi, a bydd ganddo fwy na digon. Ond yr un nad oes ganddo, bydd hyd yn oed yr hyn sydd ganddo yn cael ei gymryd oddi arno.
30 A thaflwch y gwas da i ddim i’r tywyllwch y tu allan. Yno y bydd yn wylo ac yn crensian ei ddannedd.’
31 “Pan fydd Mab y dyn yn dod yn ei ogoniant, a’r holl angylion gydag ef, yna fe fydd yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus.
32 Bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu o’i flaen, a bydd ef yn gwahanu pobl, un oddi wrth y llall, yn union fel y mae bugail yn gwahanu’r defaid oddi wrth y geifr.
33 A bydd yn rhoi’r defaid ar ei law dde, ond y geifr ar ei chwith.
34 “Yna bydd y Brenin yn dweud wrth y rhai ar ei dde: ‘Dewch, chi sydd wedi cael eich bendithio gan fy Nhad, etifeddwch y Deyrnas sydd wedi ei pharatoi ar eich cyfer ers seilio’r byd.
35 Oherwydd roeddwn i wedi llwgu a gwnaethoch chi roi bwyd imi; roedd syched arna i a gwnaethoch chi roi diod imi. Roeddwn i’n ddieithr ichi a gwnaethoch chi fy nghroesawu i i’ch cartrefi;
36 yn noeth* a gwnaethoch chi roi dillad amdana i. Es i’n sâl a gwnaethoch chi ofalu amdana i. Roeddwn i yn y carchar a gwnaethoch chi ddod i fy ngweld i.’
37 Yna bydd y rhai cyfiawn yn ei ateb â’r geiriau: ‘Arglwydd, pryd gwnaethon ni dy weld di’n llwgu a rhoi bwyd iti, neu’n sychedu a rhoi diod iti?
38 Pryd gwnaethon ni dy weld di’n ddieithr a dy groesawu di i’n cartrefi, neu’n noeth a rhoi dillad amdanat ti?
39 Pryd gwnaethon ni dy weld di’n sâl neu yn y carchar a dod i dy weld di?’
40 Bydd y Brenin yn ateb drwy ddweud wrthyn nhw, ‘Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, oherwydd eich bod chi wedi helpu un o’r lleiaf o’r rhain fy mrodyr, rydych chi wedi fy helpu i.’
41 “Yna bydd yn dweud wrth y rhai ar ei chwith: ‘Ewch oddi wrtho i, chi sydd wedi cael eich melltithio, i’r tân tragwyddol sydd wedi ei baratoi i’r Diafol a’i angylion.
42 Oherwydd roeddwn i wedi llwgu, ond wnaethoch chi ddim rhoi bwyd imi; roedd syched arna i, ond wnaethoch chi ddim rhoi diod imi.
43 Roeddwn i’n ddieithr ichi, ond wnaethoch chi ddim fy nghroesawu i’ch cartrefi; yn noeth, ond wnaethoch chi ddim rhoi dillad amdana i; yn sâl ac yn y carchar, ond wnaethoch chi ddim gofalu amdana i.’
44 Yna byddan nhwthau hefyd yn ateb â’r geiriau: ‘Arglwydd, pryd gwnaethon ni dy weld di’n llwgu neu’n sychedu neu’n ddieithr inni neu’n noeth neu’n sâl neu yn y carchar heb weini arnat ti?’
45 Yna bydd ef yn eu hateb nhw, gan ddweud: ‘Yn wir rydw i’n dweud wrthoch chi, oherwydd wnaethoch chi ddim helpu un o’r rhai lleiaf hyn, wnaethoch chi ddim fy helpu innau.’
46 Bydd y rhain yn dioddef marwolaeth dragwyddol,* ond bydd y rhai cyfiawn yn derbyn bywyd tragwyddol.”
Troednodiadau
^ Neu “yn ddoeth.”
^ Roedd talent Roegaidd yn gyfartal â 20.4 kg (654 oz t).
^ Neu “caethwas.”
^ Neu “nithio.”
^ Neu “nithio.”
^ Neu “mewn dillad annigonol.”
^ Neu “yn cael eu torri ymaith am byth.”