Yn Ôl Mathew 27:1-66
27 Pan ddaeth y bore, gwnaeth yr holl brif offeiriaid a henuriaid y bobl ymgynghori yn erbyn Iesu i’w roi i farwolaeth.
2 Ar ôl ei rwymo, aethon nhw ag ef i ffwrdd a’i drosglwyddo i Peilat, y llywodraethwr.
3 Yna pan wnaeth Jwdas, y bradychwr, weld bod Iesu wedi cael ei gondemnio, teimlodd yn euog a daeth â’r 30 darn o arian yn ôl i’r prif offeiriaid a’r henuriaid,
4 gan ddweud: “Fe wnes i bechu trwy fradychu dyn dieuog.”* Dywedon nhw: “Beth yw hynny i ni? Dy broblem di yw hynny!”
5 Felly taflodd ef y darnau o arian i mewn i’r deml a gadael. Yna aeth i ffwrdd a’i grogi ei hun.
6 Ond cymerodd y prif offeiriaid y darnau o arian a dweud: “Dydy hi ddim yn gyfreithlon i’w rhoi nhw yn y drysorfa gysegredig, oherwydd pris gwaed ydyn nhw.”
7 Ar ôl iddyn nhw ymgynghori, defnyddion nhw’r arian i brynu cae’r crochenydd fel lle i gladdu pobl ddieithr.
8 Felly, mae’r cae hwnnw wedi cael ei alw Cae’r Gwaed hyd heddiw.
9 Yna cyflawnwyd yr hyn a gafodd ei ddweud drwy’r proffwyd Jeremeia: “A chymeron nhw’r 30 darn o arian, y pris a roddwyd ar y dyn, yr un y rhoddwyd pris arno gan rai o feibion Israel,
10 a’u rhoi nhw i brynu cae’r crochenydd, yn ôl yr hyn a orchmynnodd Jehofa i mi.”
11 Roedd Iesu’n sefyll nawr gerbron y llywodraethwr, a gofynnodd y llywodraethwr iddo: “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Atebodd Iesu: “Ti sy’n dweud hynny.”
12 Ond tra oedd yn cael ei gyhuddo gan y prif offeiriaid a’r henuriaid, ni wnaeth ateb.
13 Yna dywedodd Peilat wrtho: “Onid wyt ti’n clywed faint o bethau maen nhw’n tystiolaethu yn dy erbyn di?”
14 Ond ni wnaeth roi ateb iddo, nid yr un gair, er syndod mawr i’r llywodraethwr.
15 Ar adeg Gŵyl y Pasg, roedd y llywodraethwr yn arfer rhyddhau carcharor i’r dyrfa, pwy bynnag roedden nhw’n ei ddewis.
16 Ar yr union adeg honno roedden nhw’n dal carcharor drwg-enwog o’r enw Barabbas.
17 Felly pan oedden nhw wedi dod at ei gilydd, dywedodd Peilat wrthyn nhw: “Pa un rydych chi eisiau imi ei ryddhau ichi, Barabbas neu Iesu sy’n cael ei alw Crist?”
18 Roedd Peilat yn ymwybodol eu bod nhw wedi ei drosglwyddo iddo oherwydd cenfigen.
19 Ar ben hynny, tra oedd yn eistedd ar sedd y barnwr, anfonodd ei wraig neges ato, gan ddweud: “Paid â chael dim byd i’w wneud â’r dyn cyfiawn hwnnw, oherwydd fy mod i wedi dioddef yn fawr heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef.”
20 Ond gwnaeth y prif offeiriaid a’r henuriaid berswadio’r tyrfaoedd i ofyn am ryddhau Barabbas, ond i Iesu gael ei roi i farwolaeth.
21 Atebodd y llywodraethwr drwy ofyn iddyn nhw: “Pa un o’r ddau rydych chi eisiau imi ei ryddhau ichi?” Dywedon nhw: “Barabbas.”
22 Dywedodd Peilat wrthyn nhw: “Beth dylwn i ei wneud, felly, â Iesu sy’n cael ei alw Crist?” Dyma nhw i gyd yn dweud: “Lladda ef ar y stanc!”
23 Dywedodd ef: “Pam? Pa beth drwg mae wedi ei wneud?” Ond roedden nhw’n dal i weiddi yn uwch ac yn uwch: “Lladda ef ar y stanc!”
24 Pan welodd Peilat nad oedd yn gallu gwneud unrhyw beth, ond yn hytrach bod cynnwrf yn codi, cymerodd ddŵr a golchi ei ddwylo o flaen y dyrfa, gan ddweud: “Rydw i’n ddieuog o waed y dyn hwn. Mae’n rhaid i chithau dderbyn cyfrifoldeb am hyn.”
25 Ar hynny atebodd y bobl i gyd drwy ddweud: “Gad i’w waed ddod arnon ni ac ar ein plant.”
26 Yna fe wnaeth ryddhau Barabbas iddyn nhw, ond gorchmynnodd i Iesu gael ei chwipio a’i roi yn nwylo’r milwyr er mwyn cael ei ddienyddio ar y stanc.
27 Yna gwnaeth milwyr y llywodraethwr gymryd Iesu i balas y llywodraethwr a chasglu ynghyd yr holl lu o filwyr o’i gwmpas.
28 Ac wedi ei ddadwisgo, rhoddon nhw glogyn ysgarlad amdano,
29 a phlethu coron o ddrain a’i rhoi am ei ben a rhoi corsen yn ei law dde. Ac ar ôl penlinio o’i flaen, dyma nhw’n gwneud sbort am ei ben, gan ddweud: “Cyfarchion, Frenin yr Iddewon!”
30 A gwnaethon nhw boeri arno a chymryd y gorsen a dechrau ei daro ar ei ben.
31 Yn olaf, ar ôl iddyn nhw wneud sbort am ei ben, tynnon nhw’r clogyn a rhoi ei ddillad ei hun amdano a mynd ag ef i ffwrdd i gael ei hoelio ar y stanc.
32 Fel yr oedden nhw’n mynd allan, daethon nhw ar draws dyn o Cyrene o’r enw Simon. Gwnaethon nhw orfodi’r dyn hwn i gario ei stanc dienyddio.*
33 A phan ddaethon nhw i le o’r enw Golgotha, hynny yw, Lle’r Benglog,
34 rhoddon nhw win iddo wedi ei gymysgu â rhywbeth chwerw; ond ar ôl ei flasu, gwrthododd ei yfed.
35 Pan oedden nhw wedi ei hoelio ar y stanc, gwnaethon nhw rannu ei ddillad drwy fwrw coelbren,
36 ac eisteddon nhw yno i’w wylio.
37 Gwnaethon nhw hefyd osod uwch ei ben y cyhuddiad yn ei erbyn, mewn ysgrifen: “Hwn yw Iesu, Brenin yr Iddewon.”
38 Yna cafodd dau leidr eu rhoi ar stanciau wrth ei ochr, un ar ei dde ac un ar ei chwith.
39 Ac roedd y rhai a oedd yn pasio heibio yn siarad yn gas amdano, gan ysgwyd eu pennau
40 a dweud: “Ti a fyddai’n bwrw’r deml i lawr a’i hadeiladu hi mewn tri diwrnod, achuba dy hun! Os wyt ti’n fab i Dduw, tyrd i lawr oddi ar y stanc dienyddio!”*
41 Yn yr un modd hefyd, dechreuodd y prif offeiriaid gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid wneud sbort am ei ben, gan ddweud:
42 “Fe achubodd bobl eraill; ond nid yw’n gallu ei achub ei hun! Ef yw Brenin Israel; gad iddo nawr ddod i lawr oddi ar y stanc dienyddio,* a byddwn ni’n credu ynddo.
43 Rhoddodd ei hyder yn Nuw; gad iddo Ef nawr ei achub os yw Ef yn dymuno, oherwydd dywedodd, ‘Mab Duw ydw i.’”
44 Yn yr un modd, roedd hyd yn oed y lladron a oedd ar y stanciau wrth ei ochr yn ei sarhau.
45 O’r chweched awr* ymlaen, daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd y nawfed awr.*
46 Tua’r nawfed awr, gwaeddodd Iesu â llais uchel, gan ddweud: “Eli, Eli, lama sabachthani?” hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, pam rwyt ti wedi fy ngadael i?”
47 O glywed hyn, dechreuodd rhai o’r bobl a oedd yn sefyll yno ddweud: “Mae’r dyn hwn yn galw ar Elias.”
48 Ac ar unwaith rhedodd un ohonyn nhw a chymryd sbwng a’i socian mewn gwin sur a’i roi ar gorsen a’i gynnig iddo i’w yfed.
49 Ond dywedodd y gweddill ohonyn nhw: “Gad lonydd iddo! Gadewch inni weld a fydd Elias yn dod i’w achub.”
50 Unwaith eto gwaeddodd Iesu â llais uchel a thynnu ei anadl olaf.*
51 Ac edrycha! rhwygodd llen y cysegr yn ddwy, o’r top i’r gwaelod, a chrynodd y ddaear, a holltodd y creigiau.
52 Ac agorodd y beddrodau,* a chododd llawer o gyrff y rhai sanctaidd a oedd wedi marw*
53 a gwnaeth llawer o bobl eu gweld nhw. (Ac ar ôl iddo gael ei atgyfodi, dyma’r rhai a aeth ymhlith y beddrodau yn dod i mewn i’r ddinas sanctaidd).
54 Ond pan wnaeth y swyddog o’r fyddin a’r rhai gydag ef a oedd yn gwylio Iesu weld y daeargryn a’r pethau a oedd yn digwydd, daeth ofn mawr arnyn nhw a dywedon nhw: “Yn bendant, Mab Duw oedd hwn.”
55 Ac roedd llawer o ferched* yno yn gwylio o bell, merched* a oedd wedi dilyn Iesu o Galilea er mwyn gweini arno;
56 yn eu plith roedd Mair Magdalen a Mair mam Iago a Joses* a mam meibion Sebedeus.
57 Nawr, oherwydd y byddai’r haul yn machlud yn fuan, daeth dyn cyfoethog o Arimathea, o’r enw Joseff, a oedd hefyd wedi dod yn ddisgybl i Iesu.
58 Aeth y dyn hwn at Peilat a gofyn am gorff Iesu. Yna gorchmynnodd Peilat i’r milwyr roi’r corff iddo.
59 Cymerodd Joseff y corff, a’i lapio mewn lliain main, glân,
60 a’i osod yn ei feddrod* newydd roedd ef wedi ei naddu yn y graig. Ac ar ôl rholio carreg fawr at geg y beddrod,* aeth i ffwrdd.
61 Ond gwnaeth Mair Magdalen a’r Fair arall ddal i aros yno, yn eistedd o flaen y bedd.
62 Y diwrnod wedyn, sef ar ôl y Paratoad, daeth y prif offeiriaid a’r Phariseaid at ei gilydd gerbron Peilat,
63 gan ddweud: “Syr, rydyn ni’n cofio beth ddywedodd y twyllwr hwnnw pan oedd yn dal yn fyw, ‘Ar ôl tri diwrnod rydw i am gael fy nghodi.’
64 Felly, rho orchymyn i’r bedd gael ei warchod gan filwyr hyd y trydydd dydd, fel na all ei ddisgyblion ddod a’i ddwyn a dweud wrth y bobl, ‘Mae wedi cael ei godi o farw’n fyw!’ Yna bydd y twyll olaf yn waeth na’r cyntaf.”
65 Dywedodd Peilat wrthyn nhw: “Fe gewch chi filwyr. Ewch a gwnewch y bedd mor ddiogel ag y gallwch chi.”
66 Felly fe aethon nhw a gwneud y bedd yn ddiogel drwy selio’r garreg a gosod y milwyr yno i fod ar wyliadwriaeth.
Troednodiadau
^ Llyth., “gwaed dieuog.”
^ Hynny yw, tua hanner dydd.
^ Hynny yw, tua 3:00 p.m.
^ Neu “a bu farw.”
^ Neu “beddrodau coffa.”
^ Neu “wedi syrthio i gysgu mewn marwolaeth.”
^ Neu “o fenywod.”
^ Neu “menywod.”
^ Neu efallai, “Joseff.”
^ Neu “ei feddrod coffa.”
^ Neu “beddrod coffa.”