Yn Ôl Mathew 28:1-20

  • Atgyfodi Iesu (1-10)

  • Llwgrwobrwyo’r milwyr (11-15)

  • Comisiwn i wneud disgyblion (16-20)

28  Ar ôl y Saboth, pan oedd hi’n gwawrio ar ddydd cyntaf yr wythnos, daeth Mair Magdalen a’r Fair arall i edrych ar y bedd. 2  Ac edrycha! roedd daeargryn mawr wedi digwydd, oherwydd roedd angel Jehofa wedi dod i lawr o’r nef ac wedi rholio’r garreg i ffwrdd, ac roedd yn eistedd arni. 3  Roedd ei bryd a’i wedd fel mellten, a’i ddillad mor wyn ag eira. 4  Yn wir, oherwydd eu bod nhw’n ei ofni, crynodd y gwarchodwyr a daethon nhw’n debyg i ddynion marw. 5  Ond dywedodd yr angel wrth y merched:* “Peidiwch ag ofni, oherwydd rydw i’n gwybod eich bod chi’n chwilio am Iesu a gafodd ei ddienyddio ar y stanc. 6  Dydy ef ddim yma, oherwydd ei fod wedi cael ei godi, yn union fel y dywedodd yntau. Dewch, edrychwch ar y fan lle roedd yn gorwedd. 7  Yna ewch ar frys a dweud wrth ei ddisgyblion ei fod wedi cael ei godi o farw’n fyw, oherwydd edrychwch! mae’n mynd o’ch blaenau chi i Galilea. Fe welwch chi ef yno. Edrychwch! Dyma fy neges i chi.” 8  Felly, gan adael y beddrod* ar frys, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedon nhw i adrodd yr hanes wrth ei ddisgyblion. 9  Ac edrycha! gwnaeth Iesu gwrdd â nhw a dweud: “Sut rydych chi heddiw?” Aethon nhw ato a gafael yn ei draed ac ymgrymu* iddo. 10  Yna dywedodd Iesu wrthyn nhw: “Peidiwch ag ofni! Ewch, rhowch wybod i fy mrodyr fel y gallan nhw fynd i Galilea, ac yno y byddan nhw’n fy ngweld i.” 11  Tra oedden nhw ar eu ffordd, aeth rhai o’r gwarchodlu i mewn i’r ddinas a dweud wrth y prif offeiriaid am bopeth a oedd wedi digwydd. 12  Ac ar ôl iddyn nhw ddod at ei gilydd gyda’r henuriaid ac ymgynghori, rhoddon nhw swm sylweddol o ddarnau arian i’r milwyr 13  a dweud: “Dywedwch, ‘Fe wnaeth ei ddisgyblion ddod yn ystod y nos a’i ddwyn tra oedden ni’n cysgu.’ 14  Ac os bydd y llywodraethwr yn clywed am hyn, fe wnawn ni egluro’r mater iddo* ac ni fydd rhaid i chithau boeni.” 15  Felly cymeron nhw’r darnau o arian a gwneud fel y cawson nhw eu cyfarwyddo, ac mae’r stori hon wedi cael ei lledaenu ymhlith yr Iddewon hyd heddiw. 16  Fodd bynnag, aeth yr 11 disgybl i Galilea i’r mynydd lle roedd Iesu wedi trefnu iddyn nhw gyfarfod. 17  Pan welson nhw ef, dyma nhw’n ymgrymu,* ond roedd rhai yn amau. 18  Aeth Iesu atyn nhw a dweud: “Mae pob awdurdod wedi cael ei roi i mi yn y nef ac ar y ddaear. 19  Ewch, felly, a gwnewch ddisgyblion o bobl o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio nhw yn enw’r Tad a’r Mab a’r ysbryd glân, 20  a’u dysgu nhw i gadw’r holl bethau rydw i wedi eu gorchymyn i chi. Ac edrychwch! rydw i gyda chi bob dydd hyd gyfnod olaf y system hon.”*

Troednodiadau

Neu “menywod.”
Neu “beddrod coffa.”
Neu “a phlygu.”
Neu “ei berswadio.”
Neu “plygu.”
Neu “yr oes hon.” Gweler Geirfa.