Yn Ôl Mathew 3:1-17
3 Yn y dyddiau hynny daeth Ioan Fedyddiwr i bregethu yn anialwch Jwdea,
2 gan ddweud: “Edifarhewch, oherwydd mae Teyrnas y nefoedd wedi dod yn agos.”
3 Yn wir, dyma’r un y gwnaeth y proffwyd Eseia sôn amdano drwy ddefnyddio’r geiriau hyn: “Llais un yn galw yn yr anialwch: ‘Paratowch ffordd Jehofa! Gwnewch ei lwybrau’n syth.’”
4 Roedd dillad Ioan o flew camel a belt lledr am ei ganol. Ei fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.
5 Yna roedd pobl Jerwsalem a Jwdea i gyd, a’r holl wlad o amgylch yr Iorddonen, yn mynd allan ato,
6 ac roedden nhw’n cael eu bedyddio* ganddo yn Afon Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau’n agored.
7 Pan welodd ef lawer o’r Phariseaid a’r Sadwceaid yn dod i’r bedydd, dywedodd wrthyn nhw: “Gwiberod* ydych chi, pwy sydd wedi eich rhybuddio chi i ffoi rhag y dicter sydd i ddod?
8 Felly, cynhyrchwch ffrwyth sy’n dangos edifeirwch.
9 Peidiwch â meiddio dweud wrthoch chi’ch hunain, ‘Mae gynnon ni Abraham yn dad i ni.’ Oherwydd rydw i’n dweud wrthoch chi fod Duw yn gallu codi plant i Abraham o’r cerrig hyn.
10 Mae’r fwyell eisoes wrth wraidd y coed. Bydd pob coeden, felly, sydd ddim yn cynhyrchu ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a’i thaflu i’r tân.
11 O’m rhan fy hun, rydw i’n eich bedyddio chi â dŵr oherwydd eich edifeirwch, ond mae’r un sy’n dod ar fy ôl i yn gryfach na mi, a dydw i ddim yn deilwng o dynnu ei sandalau. Bydd yr un hwnnw’n eich bedyddio chi â’r ysbryd glân ac â thân.
12 Mae rhaw nithio yn ei law, a bydd yn glanhau’n llwyr ei lawr dyrnu a bydd yn casglu ei wenith i’r ysgubor, ond bydd ef yn llosgi’r us â thân na ellir ei ddiffodd.”
13 Yna daeth Iesu o Galilea i’r Iorddonen at Ioan, er mwyn cael ei fedyddio ganddo.
14 Ond ceisiodd Ioan ei rwystro, gan ddweud: “Y fi ydy’r un sydd angen cael ei fedyddio gen ti, ac wyt ti yn dod ata i?”
15 Atebodd Iesu: “Gad iddi fod y tro hwn, oherwydd mae’n briodol gwneud pethau fel yma er mwyn inni gyflawni popeth sy’n gyfiawn.” Felly dyma’n rhoi’r gorau i geisio ei rwystro.
16 Ac ar ôl cael ei fedyddio, daeth Iesu yn syth i fyny o’r dŵr; ac edrycha! agorwyd y nefoedd, ac fe welodd ysbryd Duw yn disgyn fel colomen ac yn dod arno.
17 Edrycha! Hefyd, dyma lais o’r nefoedd yn dweud: “Hwn yw fy Mab annwyl, sy’n fy mhlesio i’n fawr iawn.”*