Yn Ôl Mathew 7:1-29
7 “Stopiwch farnu er mwyn ichi beidio â chael eich barnu;
2 oherwydd fel rydych chi’n barnu y cewch chithau eich barnu, a’r mesur rydych chi’n ei ddefnyddio i roi i eraill, y byddan nhw’n ei ddefnyddio i roi i chi.
3 Pam felly rwyt ti’n edrych ar y gwelltyn sydd yn llygad dy frawd ond dwyt ti ddim yn sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
4 Neu sut gelli di ddweud wrth dy frawd, ‘Gad imi dynnu’r gwelltyn o dy lygad di,’ pan edrycha! mae ’na drawst yn dy lygad dy hun?
5 Ragrithiwr! Yn gyntaf, tynna’r trawst o dy lygad dy hun, ac yna y byddi di’n gweld yn glir sut i dynnu’r gwelltyn o lygad dy frawd.
6 “Peidiwch â rhoi’r hyn sy’n sanctaidd i gŵn na thaflu eich perlau o flaen moch, fel na allan nhw byth eu sathru o dan eu traed a throi arnoch chi a’ch llarpio.
7 “Daliwch ati i ofyn, a bydd yn cael ei roi ichi; daliwch ati i geisio, a byddwch yn darganfod; daliwch ati i gnocio, a bydd y drws yn cael ei agor ichi;
8 oherwydd y mae pawb sy’n gofyn yn derbyn, a phawb sy’n ceisio yn darganfod, ac i bawb sy’n cnocio, bydd y drws yn cael ei agor.
9 Yn wir, pa un ohonoch chi, os bydd ei fab yn gofyn am fara, fydd yn rhoi carreg iddo?
10 Neu os bydd yn gofyn am bysgodyn, a fydd yn rhoi neidr* iddo?
11 Felly, os ydych chithau, er eich bod chi’n ddrwg, yn gwybod sut i roi anrhegion da i’ch plant, gymaint yn fwy y bydd eich Tad sydd yn y nefoedd yn rhoi pethau da i’r rhai sy’n gofyn iddo!
12 “Popeth, felly, rydych chi eisiau i ddynion ei wneud i chi, mae’n rhaid i chithau hefyd ei wneud iddyn nhw. Yn wir, dyma beth mae’r Gyfraith a’r Proffwydi yn ei ddysgu.
13 “Ewch i mewn drwy’r porth cul, oherwydd llydan yw’r porth ac eang yw’r ffordd sy’n arwain i ddinistr, a llawer sy’n mynd i mewn trwyddo;
14 ond cul yw’r porth a chyfyng yw’r ffordd sy’n arwain i fywyd, ac ychydig sy’n dod o hyd iddi.
15 “Byddwch yn wyliadwrus o’r gau broffwydi sy’n dod atoch chi yng ngwisg defaid, ond sydd ar y tu mewn yn fleiddiaid rheibus.
16 Wrth eu ffrwythau y byddwch chi yn eu hadnabod nhw. Dydy pobl byth yn casglu grawnwin oddi ar ddrain na ffigys oddi ar ysgall, nac ydyn?
17 Yn yr un modd, mae pob coeden dda yn cynhyrchu ffrwyth da, ond mae pob coeden ddrwg yn cynhyrchu ffrwyth drwg.
18 Dydy coeden dda ddim yn gallu cynhyrchu ffrwyth drwg, a dydy coeden ddrwg ddim yn gallu cynhyrchu ffrwyth da.
19 Mae pob coeden sydd ddim yn cynhyrchu ffrwyth da yn cael ei thorri i lawr a’i thaflu i’r tân.
20 Felly yn wir, wrth eu ffrwythau y byddwch chi’n adnabod y dynion hynny.
21 “Ni fydd pawb sy’n dweud wrtho i, ‘Arglwydd, Arglwydd,’ yn mynd i mewn i Deyrnas y nefoedd, ond fe fydd yr un sy’n gwneud ewyllys fy Nhad sydd yn y nefoedd.
22 Pan ddaw’r diwrnod hwnnw, bydd llawer yn dweud wrtho i: ‘Arglwydd, Arglwydd, onid oedden ni’n proffwydo yn dy enw di, ac yn bwrw cythreuliaid allan yn dy enw di, ac yn cyflawni llawer o wyrthiau yn dy enw di?’
23 Ac yna bydda i’n dweud wrthyn nhw yn blwmp ac yn blaen: ‘Doeddwn i byth yn eich adnabod chi! Ewch o ’ma, chi ddrwgweithredwyr!’
24 “Felly, bydd pawb sy’n clywed fy ngeiriau i ac yn eu gwneud nhw yn debyg i ddyn call sy’n adeiladu ei dŷ ar y graig.
25 A thywalltodd y glaw a daeth y llifogydd a chwythodd y gwyntoedd a gyrru yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni wnaeth syrthio, oherwydd ei fod wedi ei sylfaenu ar y graig.
26 Ar ben hynny, bydd pawb sy’n clywed fy ngeiriau i ac sydd ddim yn eu gwneud yn debyg i ddyn ffôl a adeiladodd ei dŷ ar y tywod.
27 A thywalltodd y glaw a daeth y llifogydd a chwythodd y gwyntoedd a tharo yn erbyn y tŷ hwnnw, a dyma’n syrthio, ac roedd ei chwalfa yn fawr.”
28 Ar ôl i Iesu orffen dweud y pethau hyn, roedd y tyrfaoedd wedi rhyfeddu at ei ffordd o ddysgu,
29 oherwydd ei fod yn eu dysgu fel rhywun ag awdurdod ganddo, ac nid fel eu hysgrifenyddion nhw.
Troednodiadau
^ Neu “sarff.”