At y Philipiaid 2:1-30
2 Os oes felly unrhyw anogaeth yng Nghrist, os oes unrhyw gysur cariad, os oes unrhyw gyfeillgarwch ysbrydol, os oes unrhyw hoffter tyner a thosturi,
2 gwnewch fy llawenydd yn llawn drwy fod o’r un meddwl a thrwy ddangos yr un cariad tuag at eich gilydd, yn hollol unedig, ac yn gytûn o ran meddwl.
3 Peidiwch â gwneud dim o uchelgais hunanol nac o hunanbwysigrwydd, ond gyda gostyngeiddrwydd ystyriwch bobl eraill yn uwch na chi,
4 wrth ichi ofalu, nid yn unig am eich lles eich hunain, ond hefyd am les pobl eraill.
5 Parhewch i feddwl yr un ffordd â Christ Iesu.
6 Er ei fod ef yn bodoli ar ffurf Duw, ni wnaeth ystyried cipio rhywbeth nad oedd ganddo’r hawl iddo, sef bod yn gyfartal â Duw.
7 Yn hytrach, fe wnaeth ei wagio ei hun a chymryd ffurf caethwas a dod yn ddyn.
8 Yn fwy na hynny, pan ddaeth fel dyn, fe wnaeth ei ddarostwng ei hun a dangos ufudd-dod* hyd at farwolaeth, ie, marwolaeth ar stanc dienyddio.*
9 Am yr union reswm hwn, gwnaeth Duw ei ddyrchafu i safle uwch a rhoi iddo yn garedig yr enw sy’n uwch na phob enw arall,
10 er mwyn i bob glin blygu yn enw Iesu—y rhai yn y nefoedd a’r rhai ar y ddaear a’r rhai o dan y ddaear—
11 ac er mwyn i bob tafod gydnabod yn agored fod Iesu Grist yn Arglwydd er gogoniant Duw y Tad.
12 O ganlyniad, fy ffrindiau annwyl, yn union fel rydych chi bob amser wedi ufuddhau, nid yn unig yn ystod fy mhresenoldeb ond nawr yn fwy o lawer yn ystod fy absenoldeb, parhewch i weithio allan eich achubiaeth eich hunain mewn ofn a dychryn.
13 Oherwydd Duw yw’r un sy’n rhoi egni ichi yn ogystal â’r dymuniad a’r grym i weithredu, am ei fod yn dymuno gwneud hynny.
14 Parhewch i wneud pob peth heb gwyno na dadlau,
15 er mwyn ichi fod yn ddi-fai ac yn ddiniwed, yn blant i Dduw heb nam yng nghanol cenhedlaeth gam a gwyrdroëdig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd,
16 yn dal eich gafael yn dynn yng ngair y bywyd. Yna bydd gen i reswm dros lawenhau yn nydd Crist, gan wybod nad oeddwn i’n rhedeg yn ofer nac yn gweithio’n galed yn ofer.
17 Fodd bynnag, hyd yn oed os ydw i’n cael fy nhywallt* fel offrwm diod ar yr aberth a’r gwasanaeth sanctaidd y mae eich ffydd wedi eich arwain ato, rydw i’n hapus ac yn llawenhau gyda chi i gyd.
18 Yn yr un ffordd, dylech chithau hefyd fod yn hapus a llawenhau gyda mi.
19 Nawr rydw i’n gobeithio yn yr Arglwydd Iesu y byddwn i’n gallu anfon Timotheus atoch chi yn fuan, er mwyn imi gael fy nghalonogi pan fydda i’n derbyn newyddion amdanoch chi.
20 Oherwydd does gen i neb arall â’r un agwedd ag ef a fydd yn wir yn gofalu amdanoch chi.
21 Oherwydd mae’r lleill i gyd yn ceisio eu lles eu hunain, nid beth mae Iesu Grist eisiau.
22 Ond rydych chi’n gwybod am yr enw da sydd ganddo, ei fod wedi gwasanaethu gyda mi, fel plentyn gyda’i dad, yn lledaenu’r newyddion da.
23 Felly, ef ydy’r un rydw i’n gobeithio ei anfon atoch chi unwaith imi weld sut bydd pethau’n mynd yn fy achos i.
24 Yn wir, rydw i’n hyderus yn yr Arglwydd y bydda innau hefyd yn dod cyn bo hir.
25 Ond yn y cyfamser rydw i’n teimlo bod rhaid imi anfon Epaffroditus atoch chi, fy mrawd a fy nghyd-weithiwr a fy nghyd-filwr, y negesydd* y gwnaethoch chi ei anfon i weini arna i,
26 gan ei fod yn hiraethu am eich gweld chi i gyd ac yn isel ei ysbryd oherwydd eich bod chi wedi clywed ei fod yn sâl.
27 Yn wir, fe aeth yn sâl a bu bron iddo farw; ond fe wnaeth Duw drugarhau wrtho, nid yn unig wrtho ef ond hefyd wrtho i, rhag imi gael tristwch ar ben tristwch.
28 Felly, rydw i’n ei anfon atoch chi ar frys, er mwyn ichi allu llawenhau unwaith eto pan fyddwch chi’n ei weld ac i minnau hefyd fod yn llai pryderus.
29 Felly rhowch iddo’r croeso arferol yn yr Arglwydd gyda phob llawenydd, a pharhewch i feddwl yn fawr o ddynion o’r fath,
30 oherwydd bu bron iddo farw o achos gwaith Crist, gan fentro ei fywyd er mwyn gwneud yn iawn am y ffaith nad oeddech chi yma i weini arna i.