At y Rhufeiniaid 12:1-21
12 Frodyr, oherwydd bod Duw wedi dangos ei dosturi tuag atoch chi, rydw i’n erfyn arnoch chi i gynnig eich cyrff yn aberth byw, un sy’n sanctaidd ac yn dderbyniol i Dduw. Ac ichi ddefnyddio eich gallu i feddwl wrth ichi ei wasanaethu.
2 Stopiwch gael eich mowldio gan y byd hwn.* Yn hytrach, gadewch i Dduw newid* y ffordd rydych chi’n meddwl, fel eich bod chi’n gallu profi i chi’ch hunain ewyllys da a derbyniol a pherffaith Duw.
3 Oherwydd caredigrwydd rhyfeddol Duw tuag ata i, rydw i’n eich annog chi i gyd i beidio â meddwl mwy ohonoch chi’ch hunain nag sydd angen. Ond meddyliwch mewn ffordd resymol, a barnwch eich hunain yn ôl faint o ffydd mae Duw wedi ei rhoi ichi.
4 Oherwydd mae gan gorff lawer o rannau, ond dydy’r rhannau hynny i gyd ddim yn gwneud yr un peth.
5 Yn yr un modd, er bod ’na lawer ohonon ni, rydyn ni’n rhan o un corff sy’n unedig â Christ. Ond fel rhannau unigol o’r corff, rydyn ni’n perthyn i’n gilydd.
6 Mae gan bob un ohonon ni alluoedd gwahanol yn ôl y caredigrwydd rhyfeddol mae Duw wedi ei ddangos tuag aton ni. Felly os oes gynnon ni’r gallu i broffwydo, gadewch inni broffwydo yn ôl y ffydd sydd gynnon ni;
7 os ydy gweinidogaeth wedi cael ei rhoi inni, gadewch inni wneud ein gorau i wasanaethu; os mai dysgu eraill ydy ein gallu, gadewch inni wneud ein gorau glas i ddysgu eraill;
8 neu os mai calonogi eraill ydy ein gallu, gadewch inni fod yn galonogol; os mai rhannu ag eraill* ydy ein gallu, gadewch inni rannu yn hael; dylai’r un sy’n arwain* wneud hynny’n ddyfal; dylai’r un sy’n dangos trugaredd fod yn hapus wrth wneud hynny.
9 Mae’n rhaid i’ch cariad tuag at eraill fod yn ddiffuant.* Casewch beth sy’n ddrwg; daliwch yn dynn yn* yr hyn sy’n dda.
10 Dangoswch gariad brawdol a thosturi diffuant* tuag at eich gilydd. Byddwch yn awyddus i* anrhydeddu eich gilydd.
11 Gweithiwch yn galed;* peidiwch â bod yn ddiog. Gadewch i’r ysbryd glân eich egnïo chi. Gwasanaethwch Jehofa â’ch holl galon.
12 Gadewch i’ch gobaith eich gwneud chi’n llawen. Dyfalbarhewch pan fyddwch chi’n wynebu problemau. Peidiwch byth â stopio gweddïo.
13 Rhannwch beth sydd gynnoch chi â phobl Dduw* sydd mewn angen. Edrychwch am ffyrdd i ddangos lletygarwch.
14 Bendithiwch* y rhai sy’n eich erlid chi; bendithiwch nhw a pheidiwch â’u melltithio nhw.
15 Llawenhewch gyda’r rhai sy’n hapus;* criwch gyda’r rhai sy’n drist.*
16 Dylech chi boeni am eraill fel rydych chi’n poeni amdanoch chi’ch hunain. Peidiwch â meddwl gormod ohonoch chi’ch hunain; dylech chi gael eich arwain gan agwedd* ostyngedig. Peidiwch â meddwl eich bod chi’n ddoethach na phawb arall.
17 Pan fydd pobl eraill yn gwneud pethau drwg ichi, peidiwch â gwneud pethau drwg yn ôl iddyn nhw.* Gwnewch bethau y byddai pawb yn eu hystyried yn dda.
18 Os yw’n bosib, gwnewch y gorau rydych chi’n bersonol yn gallu ei wneud i gadw heddwch* â phawb.
19 Peidiwch â dial, fy mrodyr a fy chwiorydd annwyl; gadewch hynny i Dduw yn ei ddicter cyfiawn. Mae’r Ysgrythurau’n dweud: “‘Fi sy’n dial; fe fydda i’n talu yn ôl,’ meddai Jehofa.”
20 Yn hytrach, gwnewch hyn: “Os ydy eich gelyn yn llwgu, rhowch fwyd iddo; os ydy ef yn sychedu, rhowch ddiod iddo. Drwy wneud hyn efallai byddwch chi’n ei synnu ac yn meddalu ei galon.”*
21 Peidiwch â gadael i ddrygioni eich concro chi; ewch ati i goncro’r drygioni â’r daioni.
Troednodiadau
^ Neu “y system hon.”
^ Neu “drawsffurfio.”
^ Neu “dosbarthu.”
^ Neu “llywyddu.”
^ Neu “heb ragrith.”
^ Neu “glynnwch wrth.”
^ Neu “tyner.”
^ Neu “Byddwch ar y blaen yn.”
^ Neu “Byddwch yn ddiwyd.”
^ Llyth., “â’r rhai sanctaidd.”
^ Neu “Dymunwch yn dda i.”
^ Llyth., “llawenhau.”
^ Llyth., “wylo.”
^ Neu “gan olygwedd.”
^ Neu “Peidiwch â thalu drwg am ddrwg i neb.”
^ Neu “Os yw’n bosib, byddwch yn heddychlon.”
^ Neu “yn ei goethi.” Llyth., “yn pentyrru marwor tanllyd ar ei ben.”