At y Rhufeiniaid 6:1-23
6 Ydy hyn yn golygu y dylen ni barhau i bechu fel bod caredigrwydd rhyfeddol Duw tuag aton ni yn gallu cynyddu?
2 Ddim o gwbl! Mae ein bywyd o bechod wedi “marw,” felly sut gallwn ni barhau i fyw mewn pechod?
3 Onid ydych chi’n deall bod pob un ohonon ni sydd wedi cael ein bedyddio yn unol â Christ Iesu wedi cael ein bedyddio i rannu yn ei farwolaeth?
4 Cawson ni ein “claddu” gydag ef drwy gyfrwng ein bedydd yn ei farwolaeth. Ac yn union fel cafodd Crist ei godi o’r meirw trwy rym gogoneddus y Tad, rydyn ninnau nawr yn byw bywyd newydd.
5 Oherwydd os ydyn ni wedi marw fel y gwnaeth ef, byddwn ni’n sicr hefyd o gael ein hatgyfodi fel y gwnaeth ef,* ac yn y ffyrdd hyn rydyn ni’n unedig ag ef.
6 Rydyn ni’n gwybod bod ein hen bersonoliaeth wedi cael ei hoelio ar y stanc ynghyd ag ef er mwyn cymryd nerth pechod i ffwrdd o’n cyrff. Ddylen ni ddim fod yn gaethweision i bechod bellach.
7 Oherwydd mae pechod rhywun sydd wedi marw wedi cael ei faddau.
8 Rydyn ni wedi marw gyda Christ, ac rydyn ni’n credu y byddwn ni’n byw gydag ef hefyd.
9 Rydyn ni’n gwybod dydy Crist byth yn gallu marw eto nawr ei fod wedi cael ei godi o’r meirw. Dydy marwolaeth ddim yn feistr arno bellach.
10 Bu farw er mwyn cael gwared ar bechod, unwaith ac am byth. Y bywyd mae ef nawr yn ei fyw, mae’n ei fyw i wneud ewyllys Duw.
11 Yn yr un modd, dylech chi eich ystyried eich hunain yn farw o ran pechod ond yn fyw er mwyn gwneud ewyllys Duw fel dilynwyr Crist Iesu.
12 Peidiwch â gadael i bechod reoli* sut rydych chi’n byw. Peidiwch ag ufuddhau i chwantau eich cyrff sy’n marw.
13 Peidiwch â chynnig eich cyrff i bechod fel offer i wneud drygioni,* ond cynigiwch eich hunain i Dduw fel pobl sydd wedi dod yn fyw o’r meirw. Cynigiwch eich cyrff i Dduw fel offer* i wneud daioni.*
14 Ni ddylai pechod fod yn feistr arnoch chi, gan nad ydych chi o dan y Gyfraith, ond nawr rydych chi’n mwynhau caredigrwydd rhyfeddol Duw.
15 Ydy hyn yn golygu y dylen ni bechu oherwydd bod gynnon ni garedigrwydd rhyfeddol Duw a dydyn ni ddim o dan y Gyfraith? Ddim o gwbl!
16 Onid ydych chi’n gwybod, os ydych chi’n eich cynnig eich hunain i ufuddhau i unrhyw un fel caethwas iddo, rydych chi’n eich gwneud eich hunain yn gaethweision i’r un hwnnw? Felly rydych chi naill ai’n gaethweision i bechod sy’n arwain i farwolaeth neu’n gaethweision i ufudd-dod sy’n arwain i gyfiawnder.
17 Er roeddech chi’n gaethweision i bechod ar un adeg, rydyn ni’n diolch i Dduw eich bod chi nawr yn ufudd o’r galon i’r ddysgeidiaeth* rydych chi wedi ei derbyn.
18 Ar ôl ichi gael eich rhyddhau o bechod, daethoch chi’n gaethweision i gyfiawnder.
19 Rydw i’n defnyddio’r esiamplau* dynol hyn oherwydd bod eich rhesymu yn wan ac yn gnawdol.* Roeddech chi’n arfer gadael i’ch chwantau corfforol eich gwneud chi’n gaethweision i wneud beth sy’n aflan ac yn ddrwg. Nawr dylech chi geisio chwantau sy’n eich gwneud chi’n gaethweision i beth sy’n gyfiawn ac yn sanctaidd.
20 Oherwydd pan oeddech chi’n gaethweision i bechod, doedd dim rhaid ichi wneud beth sy’n iawn.
21 Beth oedd canlyniad eich ymddygiad yr adeg honno? Gwnaethoch chi bethau sydd nawr yn codi cywilydd arnoch chi, ac mae’r pethau hynny’n arwain i farwolaeth.
22 Ond nawr eich bod chi wedi cael eich rhyddhau o bechod, gwnewch yr hyn sy’n sanctaidd fel caethweision i Dduw. Y canlyniad fydd bywyd tragwyddol.
23 Oherwydd y cyflog mae pechod yn ei dalu inni ydy marwolaeth, ond y rhodd mae Duw yn ei rhoi inni ydy bywyd tragwyddol trwy Grist Iesu ein Harglwydd.
Troednodiadau
^ Neu “ar lun ei atgyfodiad ef.”
^ Llyth., “reoli fel brenin ar.”
^ Llyth., “fel arfau anghyfiawnder.”
^ Neu “offerynnau.”
^ Lyth., “fel arfau cyfiawnder.”
^ Neu “i’r safon newydd o ddysgu.”
^ Neu “termau.”
^ Neu “hunanol.”