At y Rhufeiniaid 7:1-25
7 Frodyr, rydw i’n siarad â chi nawr fel rhai sy’n gwybod y Gyfraith: Onid ydych chi’n gwybod bod gan y Gyfraith awdurdod dros ddyn dim ond tra bydd ef yn fyw?
2 Er enghraifft, mae gwraig wedi ei rhwymo wrth ei gŵr gan y gyfraith tra bydd ef yn fyw. Ond os bydd ei gŵr yn marw, mae hi’n cael ei rhyddhau o gyfraith ei gŵr.
3 Os bydd hi’n priodi dyn arall tra bydd ei gŵr yn fyw, mae hi’n godinebu. Ond os bydd ei gŵr yn marw, mae hi’n rhydd o’i gyfraith. Yna os bydd hi’n priodi dyn arall, dydy hi ddim yn godinebu.
4 Yn yr un modd, fy mrodyr, mae corff y Crist wedi eich rhyddhau chi o* Gyfraith Moses. Digwyddodd hyn fel y gallech chi berthyn i rywun arall, yr un a gafodd ei godi o’r meirw. Nawr fe allwn ni gael ein defnyddio i wasanaethu Duw.*
5 Pan oedden ni’n byw yn ôl ein natur bechadurus, roedd y Gyfraith yn ein gwneud ni’n ymwybodol o’r chwantau pechadurus a oedd yn weithredol yn ein cyrff. Dim ond i farwolaeth y byddai’r rhain yn gallu ein harwain.*
6 Ond nawr rydyn ni wedi cael ein rhyddhau o’r Gyfraith, ac rydyn ni wedi marw i’r hyn a oedd yn ein carcharu ni. Rydyn ni nawr yn gwasanaethu Duw* mewn ffordd newydd, drwy’r ysbryd, nid yn yr hen ffordd, drwy’r Gyfraith ysgrifenedig.
7 Ydyn ni’n dweud bod y Gyfraith yn bechadurus? Ddim o gwbl! Fyddwn i byth wedi dod i wybod beth yn wir ydy pechod oni bai am y Gyfraith. Er enghraifft, fyddwn i ddim wedi gwybod ei bod hi’n anghywir i ddymuno pethau sy’n perthyn i eraill oni bai bod y Gyfraith yn dweud: “Paid â dymuno’r hyn sy’n perthyn i eraill.”*
8 Ond defnyddiodd pechod y gorchymyn hwn i gyffroi yno i bob math o chwantau hunanol. Heb y gyfraith honno, roedd pechod yn ddi-rym.*
9 Yn wir, roeddwn i’n fyw cyn i’r Gyfraith gael ei rhoi. Ond pan ddaeth y gorchymyn,* daeth pechod yn fyw, ac fe wnes i “farw.”
10 Ac fe wnaeth y gorchymyn a oedd i fod i fy arwain i fywyd fy arwain yn hytrach i farwolaeth.
11 Defnyddiodd pechod y gorchymyn hwn i fy hudo ac i fy lladd i.
12 Ond eto, mae’r Gyfraith ei hun yn sanctaidd, ac mae’r gorchymyn yn sanctaidd ac yn gyfiawn ac yn dda.
13 Ydy hyn yn golygu bod rhywbeth da wedi achosi fy marwolaeth? Ddim o gwbl! Pechod a achosodd fy marwolaeth. Mae’r Gyfraith yn dda, ond roedd yn ei gwneud hi’n glir mai pechod oedd yn achosi fy marwolaeth. Felly roedd y gorchymyn yn dangos pa mor ofnadwy* ydy pechod mewn gwirionedd.
14 Rydyn ni’n gwybod bod y Gyfraith yn dod o Dduw drwy ei ysbryd,* ond y fi ydy’r broblem—rydw i’n gnawdol, wedi fy ngwerthu yn gaethwas i bechod.
15 Dydw i ddim yn deall yn iawn pam rydw i’n gwneud yr hyn rydw i’n ei wneud. Yn hytrach na gwneud yr hyn rydw i eisiau ei wneud, rydw i’n gwneud yr hyn rydw i’n ei gasáu.
16 Rydw i’n cytuno bod y Gyfraith yn dda, ond rydw i’n dal i wneud y pethau dydw i ddim eisiau eu gwneud.
17 Felly nid y fi sy’n gwneud y pethau drwg hyn mewn gwirionedd, ond y pechod sydd yno i sy’n eu gwneud nhw.
18 Rydw i’n gwybod nad oes dim da yno i, hynny yw, yn fy nghorff pechadurus. Er fy mod i’n dymuno gwneud yr hyn sy’n dda, dydw i ddim yn gallu ei wneud.
19 Dydw i ddim yn gwneud y pethau da rydw i’n dymuno eu gwneud. Yn hytrach, rydw i’n gwneud y pethau drwg dydw i ddim eisiau eu gwneud.
20 Felly os ydw i’n gwneud y pethau dydw i ddim eisiau eu gwneud, nid y fi sy’n eu gwneud nhw. Y pechod sy’n byw yno i sy’n eu gwneud nhw.
21 Rydw i wedi darganfod bod y ffaith* hon yn wir yn fy achos i: Pan ydw i eisiau gwneud yr hyn sy’n iawn, yr hyn sy’n ddrwg sydd y tu mewn imi.
22 Yn fy nghalon, rydw i’n wir yn caru cyfraith Duw.
23 Ond rydw i’n gweld cyfraith arall yn fy nghorff sy’n brwydro yn erbyn cyfraith fy meddwl, ac mae hi’n fy ngwneud i’n garcharor i gyfraith pechod sydd yn fy nghorff.
24 Druan ohono i! Pwy sy’n mynd i fy achub i o’r corff sy’n fy arwain i’r farwolaeth hon?
25 Diolch i Dduw oherwydd ei fod yn fy achub i drwy Iesu Grist ein Harglwydd! Felly rydw i’n gaethwas i gyfraith Duw â fy meddwl, ond rydw i’n gaethwas i gyfraith pechod â fy nghnawd.
Troednodiadau
^ Llyth., “wedi eich gwneud chi’n farw i.”
^ Llyth., “Nawr dylen ni ddwyn ffrwyth i Dduw.”
^ Llyth., “Dim ond dwyn ffrwyth i farwolaeth y byddai’r rhain.”
^ Neu “yn gaethweision.”
^ Neu “Paid â chwennych.”
^ Llyth., “yn farw.”
^ Neu “y Gyfraith.”
^ Neu “ddrwg.”
^ Llyth., “yn ysbrydol.”
^ Llyth., “gyfraith.”