At y Rhufeiniaid 8:1-39

  • Bywyd a rhyddid drwy’r ysbryd (1-11)

  • Yr ysbryd sy’n mabwysiadu yn tystiolaethu (12-17)

  • Y greadigaeth yn disgwyl am ryddid plant Duw (18-25)

  • ‘Mae’r ysbryd yn ymbil droston ni’ (26, 27)

  • Duw’n dewis ymlaen llaw (28-30)

  • Yn fuddugol drwy gariad Duw (31-39)

8  Felly dydy’r rhai sydd mewn undod â Christ Iesu ddim wedi cael eu condemnio. 2  Nawr, mae cyfraith yr ysbryd sy’n rhoi bywyd wedi dy ryddhau di, ti sy’n ddilynwr i Grist Iesu, o gyfraith pechod a marwolaeth. 3  Doedd gan Gyfraith Moses ddim y gallu i dy ryddhau di oherwydd bod pobl yn wan ac yn bechadurus. Roedd Duw yn gallu dy ryddhau di drwy anfon ei Fab ei hun mewn ffurf debyg i fodau dynol* pechadurus er mwyn cael gwared ar bechod. Felly, gwnaeth Duw gondemnio pechod yn y cnawd. 4  Yna gallai gofynion cyfiawn y Gyfraith gael eu cyflawni ynon ni sy’n ufuddhau i’r ysbryd ac nid i’r corff pechadurus. 5  Mae’r rhai sy’n ufuddhau i’r cnawd yn meddwl am bethau corfforol, ond mae’r rhai sy’n ufuddhau i’r ysbryd yn meddwl am* beth mae’r ysbryd yn eu harwain nhw i’w wneud. 6  Oherwydd pan fydd y meddwl wedi ei ffocysu ar bethau pechadurus, mae’n arwain i farwolaeth. Ond pan fydd y meddwl wedi ei ffocysu ar yr ysbryd, mae’n arwain i fywyd a heddwch. 7  Mae gadael i’n corff pechadurus reoli ein meddwl yn ein gwneud ni’n elyn i Dduw. Dydy’r corff pechadurus ddim yn ufuddhau i gyfraith Duw, nac yn gallu gwneud hynny. 8  Dydy’r rhai sy’n byw yn ôl y corff pechadurus ddim yn gallu plesio Duw. 9  Fodd bynnag, dydych chi frodyr ddim yn byw yn ôl y corff pechadurus. Os ydy ysbryd Duw yn wir ynoch chi, yna rydych chi’n byw yn ôl yr ysbryd. Os nad oes gan rywun ysbryd Crist, dydy’r person hwn ddim yn perthyn i Grist. 10  Ond os ydych chi’n byw yn ôl Crist, mae’r ysbryd yn eich gwneud chi’n fyw oherwydd cyfiawnder, hyd yn oed os yw’r corff yn farw* oherwydd pechod. 11  Gwnaeth ysbryd Duw godi Iesu o’r meirw. Os ydy’r ysbryd hwnnw ynoch chi, bydd yr un a gododd Crist Iesu o’r meirw hefyd yn gwneud eich cyrff sy’n farw yn fyw drwy ei ysbryd sydd ynoch chi. 12  Felly, frodyr, does dim rhaid inni ufuddhau i’r cnawd pechadurus. 13  Os ydych chi’n ufuddhau i’r cnawd, rydych chi’n sicr o farw. Ond os ydych chi’n gadael i rym yr ysbryd eich helpu chi i roi gweithredoedd y corff i farwolaeth, fe fyddwch chi’n byw. 14  Oherwydd mae’r rhai sy’n cael eu harwain gan ysbryd Duw yn wir yn feibion iddo. 15  Ni wnaethoch chi dderbyn ysbryd sy’n eich gwneud chi’n gaethweision ac sy’n gwneud ichi fyw mewn ofn unwaith eto. Yn hytrach, fe wnaethoch chi dderbyn ysbryd sy’n ein gwneud ni’n blant mae Duw wedi eu mabwysiadu. Mae’r ysbryd hwn yn gwneud inni weiddi: “Abba,* Dad!” 16  Mae ysbryd Duw yn ei gwneud hi’n glir i ni* ein bod ni’n blant i Dduw. 17  Os ydyn ni’n blant iddo, mae’n golygu ein bod ni hefyd yn etifeddion Duw ac yn gyd-etifeddion â Christ. Ond yn gyntaf mae’n rhaid inni ddioddef gyda’n gilydd er mwyn inni allu derbyn gogoniant gyda’n gilydd. 18  Rydw i’n ystyried yr holl bethau rydw i’n eu dioddef nawr yn ddim byd o’u cymharu â’r gogoniant a fydd yn cael ei ddatgelu ynon ni. 19  Mae’r greadigaeth i gyd yn disgwyl yn daer am i Dduw ddatgelu ei feibion. 20  Oherwydd doedd y greadigaeth ddim eisiau cael ei dedfrydu i fywyd heb obaith am y dyfodol,* ond fe wnaeth Duw ganiatáu hynny. Fodd bynnag, pan wnaeth Duw gyhoeddi’r dedfryd, fe roddodd obaith inni. 21  Roedd yn gwybod byddai’r greadigaeth hefyd yn cael ei rhyddhau o gaethiwed i lygredd ac yn cael y rhyddid gogoneddus sy’n perthyn i blant Duw. 22  Oherwydd rydyn ni’n gwybod bod yr holl greadigaeth wedi bod yn griddfan gyda’i gilydd ac wedi bod mewn poen gyda’i gilydd hyd heddiw. 23  Ond nawr mae gynnon ni’r ysbryd, sy’n rhagflas o’r pethau sydd i ddod.* Rydyn ni’n griddfan ynon ni’n hunain wrth inni ddisgwyl yn daer am inni gael ein llwyr fabwysiadu’n feibion. Ar yr amser hwnnw, byddwn ni’n cael ein rhyddhau o’n cyrff trwy gyfrwng y pris a gafodd ei dalu.* 24  Pan gawson ni ein hachub, fe gawson ni’r gobaith hwn. Ond dydy gobaith sy’n cael ei weld ddim yn obaith go iawn. Pan fydd dyn yn gweld rhywbeth, a oes rhaid iddo obeithio amdano? 25  Ond pan ydyn ni’n gobeithio am yr hyn nad ydyn ni’n ei weld, rydyn ni’n parhau i ddisgwyl yn daer amdano gyda dyfalbarhad. 26  Hefyd, gall yr ysbryd glân ein helpu ni pan fyddwn ni’n wan. Efallai ein bod ni’n gwybod bod rhaid inni weddïo, ond dydyn ni ddim yn gwybod beth i weddïo amdano. Mae’r ysbryd yn gallu ymbil droston ni pan fyddwn ni’n griddfan ond dydy’r geiriau iawn ddim gynnon ni. 27  Mae Duw yn chwilio ein calonnau ac yn gwybod ystyr yr hyn mae’r ysbryd yn ei ddweud, oherwydd ei fod yn ymbil yn unol ag ewyllys Duw dros y rhai sanctaidd. 28  Rydyn ni’n gwybod bod Duw yn gwneud i’w holl weithredoedd gydweithio er lles y rhai sy’n ei garu, y rhai mae Duw wedi eu galw yn ôl ei bwrpas. 29  Rhoddodd sylw iddyn nhw yn gyntaf* a phenderfynu ymlaen llaw* y dylen nhw fod yn union fel* ei Fab ei hun. Fel hyn, ei Fab fyddai’r cyntaf-anedig ymhlith llawer o frodyr. 30  Yna galwodd ef y rhai roedd ef wedi eu dewis.* Hefyd, fe wnaeth gyhoeddi’n gyfiawn y rhai roedd ef wedi eu galw. Yn olaf, fe wnaeth ogoneddu’r rhai roedd ef wedi eu cyhoeddi’n gyfiawn. 31  Beth gallwn ni ei ddweud am y pethau hyn? Os ydy Duw ar ein hochr ni, pwy fydd yn ein herbyn ni? 32  Ni wnaeth hyd yn oed arbed ei Fab ei hun, ond fe wnaeth ei drosglwyddo i farw droston ni i gyd. Felly, ar ben hynny, oni fydd ef hefyd yn ei garedigrwydd yn rhoi inni yr holl bethau eraill? 33  Pwy sy’n gallu cyhuddo’r rhai mae Duw wedi eu dewis? Duw ydy’r Un sy’n cyhoeddi eu bod nhw’n gyfiawn. 34  Pwy sy’n gallu eu condemnio nhw? Neb. Crist Iesu ydy’r un a wnaeth farw drostyn nhw a’r un a gafodd ei godi o’r meirw. Nawr, mae ef ar law dde Duw, yn ymbil droston ni. 35  Oes ’na unrhyw beth sy’n gallu ein gwahanu ni oddi wrth gariad Crist? A fydd problemau* neu ddioddefaint neu erledigaeth neu ddiffyg bwyd neu ddiffyg dillad* neu beryg neu drais* yn ein gwahanu ni oddi wrth gariad Crist? 36  Mae’r Ysgrythurau’n dweud: “Rydyn ni’n wynebu marwolaeth drwy’r amser* er dy fwyn di. Mae pobl yn ein hystyried ni fel defaid i’w cael eu lladd.” 37  Ond yn yr holl bethau hyn, rydyn ni’n hollol fuddugol oherwydd yr un* a wnaeth ein caru ni. 38  Rydw i’n hollol sicr na all unrhyw beth ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw—dydy marwolaeth ddim yn gallu na bywyd nac angylion na llywodraethau na phethau sydd yma nawr na phethau sydd i ddod na grymoedd 39  nac uchder na dyfnder nac unrhyw beth arall sydd wedi cael ei greu. Does dim byd o gwbl yn gallu ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw sydd wedi cael ei ddangos trwy Grist Iesu ein Harglwydd.

Troednodiadau

Llyth., “i gnawd.”
Neu “rhoi eu meddwl ar.”
Neu “wedi ei gondemnio.”
Gair Hebraeg neu Aramaeg sy’n golygu “O Dad!”
Llyth., “yn cyd-dystiolaethu â’n hysbryd ni.”
Neu “ei darostwng i oferedd.”
Llyth., “mae gynnon ni flaenffrwyth yr ysbryd.”
Neu “trwy gyfrwng y pridwerth.”
Neu “rhoddodd iddyn nhw ei gydnabyddiaeth gyntaf.”
Neu “gael eu ffurfio yn ôl delw.”
Neu “rhagordeiniodd.”
Neu “rhagordeinio.”
Llyth., “treialon.”
Llyth., “noethni.”
Neu “neu gleddyf.”
Llyth., “dydd.”
Neu “grym yr un.”