Ruth 1:1-22
1 Nawr, yn y dyddiau pan oedd y barnwyr yn barnu, roedd ’na newyn yn y wlad; a symudodd dyn o Fethlehem yn Jwda i fyw yn ardal Moab gyda’i wraig a’i ddau fab.
2 Enw’r dyn oedd Elimelech,* enw ei wraig oedd Naomi,* ac enwau ei ddau fab oedd Mahlon* a Cilion.* Roedden nhw’n dod o Effratha, hynny yw, Bethlehem yn Jwda. Ac fe ddaethon nhw i ardal Moab ac aros yno.
3 Ymhen amser, bu farw Elimelech, gŵr Naomi, a’i gadael hi’n weddw gyda’i dau fab.
4 Yn ddiweddarach, gwnaeth ei meibion briodi merched* o Moab; enw un oedd Orpa, ac enw’r llall oedd Ruth. Arhoson nhw yno am tua deng mlynedd.
5 Yna bu farw’r ddau fab hefyd, Mahlon a Cilion, ac fe gafodd y ddynes* ei gadael heb ei dau blentyn a’i gŵr.
6 Felly cychwynnodd hi a’i dwy ferch-yng-nghyfraith ar y daith yn ôl o ardal Moab, oherwydd roedd hi wedi clywed ym Moab fod Jehofa wedi rhoi sylw i’w bobl drwy roi bwyd* iddyn nhw.
7 Gadawodd hi’r ardal lle roedd hi wedi bod yn byw gyda’i merched-yng-nghyfraith. Tra oedden nhw’n cerdded ar hyd y ffordd yn ôl i wlad Jwda,
8 dywedodd Naomi wrth ei dwy ferch-yng-nghyfraith: “Ewch yn ôl adref at eich mamau. Rydw i’n gweddïo y bydd Jehofa yn dangos cariad ffyddlon tuag atoch chi, yn union fel rydych chi wedi ei ddangos tuag at y dynion sydd wedi marw a thuag ata i.
9 Rydw i’n dymuno y bydd Jehofa yn rhoi gŵr a chartref i’r ddwy ohonoch chi er mwyn ichi deimlo’n ddiogel.” Yna, dyma hi’n eu cusanu nhw, a dyma nhw’n wylo’n uchel.
10 Roedden nhw’n dal ati i ddweud wrthi: “Na, rydyn ni am fynd gyda ti at dy bobl di.”
11 Ond dywedodd Naomi: “Ewch adref, fy merched. Pam dylech chi ddod gyda mi? Ydw i’n gallu geni meibion a all ddod yn wŷr i chi?
12 Ewch yn ôl fy merched. Ewch, oherwydd fy mod i’n rhy hen i briodi. Hyd yn oed petaswn i’n gallu priodi heno a hefyd yn gallu cael meibion,
13 a fyddech chi’n dal i ddisgwyl amdanyn nhw hyd nes iddyn nhw dyfu i fyny? A fyddech chi’n dal yn ôl rhag ailbriodi er eu mwyn nhw? Na, fy merched, rydw i’n wir yn teimlo drostoch chi, oherwydd bod Jehofa wedi troi yn fy erbyn i.”
14 Unwaith eto, dyma nhw’n wylo’n uchel. Ar ôl hynny, cusanodd Orpa ei mam-yng-nghyfraith a gadael. Ond glynodd Ruth wrthi.
15 Felly dywedodd Naomi: “Edrycha! Mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a’i duwiau. Dos dithau hefyd yn ôl gyda dy chwaer-yng-nghyfraith.”
16 Ond dywedodd Ruth: “Paid ag erfyn arna i i dy adael di, dydw i ddim yn mynd i gefnu arnat ti. Oherwydd ble bynnag byddi di’n mynd, bydda i’n mynd; a ble bynnag byddi di’n aros, bydda i’n aros. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a bydd dy Dduw di yn Dduw i mi.
17 Ble bynnag byddi di’n marw, bydda i’n marw, ac yno y bydda i’n cael fy nghladdu. Gad i Jehofa fy nghosbi petai unrhyw beth ond marwolaeth yn fy ngwahanu i oddi wrthot ti.”
18 Pan welodd Naomi fod Ruth yn benderfynol o fynd gyda hi, dyma hi’n rhoi’r gorau i geisio ei pherswadio hi.
19 Ac aethon nhw yn eu blaenau nes iddyn nhw gyrraedd Bethlehem. Unwaith iddyn nhw gyrraedd Bethlehem, roedd y ddinas gyfan yn llawn cyffro o’u hachos nhw, ac roedd y merched* yn dweud: “Ai Naomi ydy hon?”
20 Dyma hi’n dweud wrth y merched:* “Peidiwch â fy ngalw i’n Naomi.* Galwch fi’n Mara,* oherwydd mae’r Hollalluog wedi gwneud bywyd yn chwerw iawn imi.
21 Roedd gen i bopeth pan es i, ond mae Jehofa wedi gwneud imi ddod yn ôl heb ddim byd. Pam dylech chi fy ngalw i’n Naomi, gan mai Jehofa ydy’r un sydd wedi troi yn fy erbyn i, a’r Hollalluog sydd wedi achosi i gymaint o bethau drwg ddigwydd imi?”
22 Dyma sut daeth Naomi yn ôl o ardal Moab, gyda’i merch-yng-nghyfraith Ruth y Foabes. Daethon nhw i Fethlehem ar ddechrau’r cynhaeaf haidd.
Troednodiadau
^ Sy’n golygu “Fy Nuw Sy’n Frenin.”
^ Sy’n golygu “Fy Hyfrydwch.”
^ Efallai o air Hebraeg sy’n golygu “gwanhau; mynd yn sâl.”
^ Sy’n golygu “Un Sy’n Methu; Un Sy’n Dod i Ben.”
^ Neu “menywod.”
^ Neu “y fenyw.”
^ Llyth., “bara.”
^ Neu “menywod.”
^ Neu “menywod.”
^ Sy’n golygu “Fy Hyfrydwch.”
^ Sy’n golygu “Chwerw.”