Ruth 3:1-18

  • Naomi yn rhoi cyfarwyddiadau i Ruth (1-4)

  • Ruth a Boas ar y llawr dyrnu (5-15)

  • Ruth yn mynd yn ôl at Naomi (16-18)

3  Yna dywedodd Naomi, ei mam-yng-nghyfraith, wrthi: “Fy merch, oni ddylwn i chwilio am gartref iti, er mwyn i bethau fynd yn dda iti?  Onid ydy Boas yn perthyn inni? Ef ydy’r un a wnaeth ganiatáu iti fod gyda’i ferched* ifanc. Heno mae’n nithio* haidd ar y llawr dyrnu.  Felly dos i ymolchi a rhwbio ychydig o olew persawrus arnat ti dy hun; yna gwisga dy ddillad gorau a dos i lawr i’r llawr dyrnu. Paid â gadael i’r dyn wybod dy fod ti yno nes iddo orffen bwyta ac yfed.  Pan fydd yn mynd i orwedd, sylwa ble mae’n gorwedd; yna dos a choda’r fantell sy’n gorchuddio ei draed a gorwedd i lawr. Bydd ef yn dweud wrthot ti beth dylet ti ei wneud.”  Ar hynny dywedodd hithau: “Fe wna i bopeth rwyt ti’n gofyn imi ei wneud.”  Felly aeth hi i’r llawr dyrnu a gwneud popeth roedd ei mam-yng-nghyfraith wedi ei orchymyn iddi.  Yn y cyfamser, roedd Boas yn bwyta ac yn yfed ac yn teimlo’n hapus. Yna aeth i orwedd i lawr wrth y pentwr o ŷd. Ar ôl hynny, daeth Ruth yn ddistaw bach a chodi’r fantell oddi ar ei draed a gorwedd i lawr.  Am hanner nos dyma’r dyn yn dechrau crynu am ei fod yn oer,* ac eisteddodd i fyny a gweld dynes* yn gorwedd wrth ei draed.  Dywedodd yntau: “Pwy wyt ti?” Atebodd hi: “Ruth ydw i, dy forwyn. Taena dy ddilledyn dros dy forwyn, oherwydd dy fod ti’n berthynas agos sydd â’r hawl i brynu fy nheulu allan o sefyllfa anodd.” 10  Ar hynny dywedodd: “Bendith Jehofa arnat ti, fy merch. Rwyt ti wedi dangos mwy o gariad ffyddlon yn yr achos hwn nag yn yr achos cyntaf, drwy beidio â mynd ar ôl y dynion ifanc, y rhai tlawd na’r rhai cyfoethog. 11  Ac nawr fy merch, paid ag ofni. Fe wna i bopeth rwyt ti’n ei ddweud, oherwydd bod pawb yn y ddinas yn gwybod dy fod ti’n ddynes* hynod o arbennig. 12  Er ei bod hi’n wir fy mod i’n berthynas agos iti, mae ’na rywun sy’n berthynas agosach na fi. 13  Arhosa yma heno, ac os bydd ef yn dy brynu di yn y bore, popeth yn iawn! Gad iddo dy brynu di. Ond os nad ydy ef eisiau dy brynu di, fe wna i dy brynu di fy hun, mor sicr â’r ffaith fod Jehofa yn fyw. Gorwedda i lawr yma tan y bore.” 14  Felly dyma hi’n gorwedd wrth ei draed tan y bore, ac yna’n codi tra oedd hi’n dal yn dywyll fel na fyddai neb yn ei gweld hi. Yna dywedodd ef: “Paid â gadael i neb wybod bod dynes* wedi dod i’r llawr dyrnu.” 15  Dywedodd hefyd: “Tyrd â’r fantell rwyt ti’n ei gwisgo yma, a’i dal hi allan.” Felly dyma hi’n estyn y fantell allan, a rhoddodd Boas chwe mesur* o haidd ynddi a’i rhoi i Ruth, ac ar ôl hynny aeth ef i mewn i’r ddinas. 16  Aeth hi i ffwrdd i weld ei mam-yng-nghyfraith, a dywedodd hithau: “Sut aeth hi fy merch?” A dyma hi’n dweud wrthi am bopeth roedd y dyn wedi ei wneud ar ei chyfer. 17  Dywedodd hefyd: “Rhoddodd y chwe mesur hyn o haidd imi a dweud, ‘Paid â mynd i weld dy fam-yng-nghyfraith heb ddim byd.’” 18  Ar hynny dywedodd hi: “Eistedda yma, fy merch, nes iti gael gwybod sut bydd pethau’n troi allan, oherwydd fydd y dyn yma ddim yn gorffwys nes iddo setlo’r mater heddiw.”

Troednodiadau

Neu “gyda’i fenywod.”
Hynny yw, y broses amaethyddol o wahanu’r grawn oddi wrth yr us.
Neu “rhynnu.”
Neu “menyw.”
Neu “dy fod ti’n fenyw.”
Neu “menyw.”
Efallai chwe mesur sea, neu tua 44 L.